BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
/cymru/crefydd/images/beach-200.jpg Cenhadu ar y traethau
Cymraes yn dweud ei phrofiad
Bu Cymraes ifanc yn sôn am ei phrofiad yn cymryd rhan yn un o ymgyrchoedd yr ted Beach MissonBwrw Golwg.

Daw Eleri Morgan 16 oed o Benarlâg.
Yn gyn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon Yr Wyddgrug bydd yn cychwyn ar gwrs diploma 'Blynyddoedd Cynnar' yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy fis Medi nesaf.

Treuliodd Eleri bythefnos gyda thîm cenhadu UBM ar y traeth yn Llandudno - ei phrofiad cyntaf o'r math hwn o genhadu, meddai.

Adrodd straeon
Cynhwysai'r gweithgarwch ddangos ffilm ac adrodd straeon Cristnogol o Gymru fel stori Mari Jones a'i Beibl a hanes William Morgan yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.

 "Yn y pnawn rydym wedi bod yn cael rhaglen ar y prom am y Beibl a jyst cael hwyl. A'r gyda'r nos rydym wedi bod yn canu emynau a dweud beth ydym ni'n gredu," meddai wrth John Roberts a fu'n ei holi ar Bwrw Golwg fore Sul, Gorffennaf 16, 2006.

Wedi'r rhaglen eglurodd mai rhaglen Saesneg yn bennaf yw un yr UBM; wedi ei hanelu at deuluoedd ac mai dyna pam y dewiswyd trefi glan môr ar gyfer cenhadu.

Ymhlith y trefi glan môr eraill yr ymwelir â hwy yng Nghymru mae'r Benllech, Abersoch a Chei Newydd.

Ar gyfer plant
"Pan fo'r ysgolion yn cau rydym yn canolbwyntio ar raglenni i'r plant - rydym yn chwarae gemau a phethau felly ac yn y pnawn rydym yn ceisio cael y teuluoedd at ei gilydd a chwarae gemau a chael lot fawr o hwyl.

"Ac yn y nos rydym yn gwneud rhaglenni efo'r teuluoedd hefyd ac fe fydd lawer o bethau yn digwydd ar y traeth," meddai Eleri.

Dywedodd mai ffrind iddi a ddywedodd wrthi gyntaf am y math yma o genhadu:
"Dwi'n credu fod Iesu wedi marw dros fy mhechodau i a phawb arall ac rydw i eisiau rhannu hynny efo pobl eraill.

"Fe glywais gan ffrind fod y math yma o waith yn digwydd ac roeddwn i'n meddwl ei fod o'n syniad da."

Mwy na mynd i gapel
Dywedodd iddi gael ei magu i fynd i gapel gyda'r teulu.
"Dyna'i gyd oeddwn i'n meddwl oedd ei angen i fod yn Gristion ond wedi i mi fynd i wesylloedd a 'ballu roeddwn i'n deall nad dim ond mynd i gapel sy'n eich gwneud chi yn Gristion ond rhaid ichi wybod fod Iesu wedi marw dros eich pechodau chi a dyna pryd roeddwn i'n gwybod fy mod i'n Gristion," meddai.

"Doeddwn i ddim wir yn siŵr beth i'w ddisgwyl ond mae o wedi bod yn andros o hwyl achos rydym ni'n gwneud beth ydym ni'n feddwl ddylem ni wneud ac mae'n andros o hwyl dod i adnabod pobl eraill," meddai.

Am ymateb ymwelwyr yn Llandudno dywedodd:
"Mae lot o bobl sydd ddim yn poeni ac yn cario mlaen [heibio]ond mae yna lot o bobl hefyd wedi bod yn gwrando - ddoe fe gawsom ni dros gant o bobl yn y ffilm.

"Dwi'n meddwl fy mod i wedi dysgu fod yn rhaid gwneud lot mwy o waith a phoeni mwy am y bobl sydd ddim yn adnabod Iesu Grist ar hyn o bryd," meddai.

Yn y Pumdegau
Sefydlwyd yr United Beach Mission yn 1950 pan ddaeth criw o bobl ifanc a gymerai ran mewn ymgyrch a alwyd yn National Young Life Campaign at ei gilydd yn Llandudno.

 Tyfodd y gwaith ers hynny ac yn ogystal ag yng Nghymru yn Lloegr, Iwerddon a rhannau o Ewrop.

Mae rhyw gant o Gristnogion yn rhoi eu gwasanaeth am ddim i hyrwyddo'r efengyl gan weithredu dan yr enw, The Beach Team.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy