BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Testament Newydd dwyieithog
Trafod trafferthion cyfieithu
Ar fin cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas y Beibl mae Testament Newydd dwyieithog. Y Parchedig Gwilym H Jones, Cadeirydd Pwyllgor Y Beibl Cymraeg Newydd fu'n egluro pam ac yn sôn am wahanol gyfieithiadau ar Bwrw Golwg, ddydd Sul, hydref 15, 2006:

"Yr ydym yn gymdeithas ddwyieithog ac mae yna lawer iawn o bobl yn cynnal gwasanaethau dwyieithog; felly mae hwn yn hwylus iawn ar gyfer hynny ac mae'n help i bobl yn y gynulleidfa hefyd sydd ddim yn sicr o'r Gymraeg - fe allan nhw wrando ar y darlleniad Cymraeg a'i ddilyn o yn y cyfieithiad Saesneg," meddai.

  • Dywedodd mai Cymdeithas y Beibl a ddewisodd y cyfieithiad Saesneg a ddefnyddir - yr English Standard Version - ond nad oedd y dewis y byddai ef ei hun a'i bwyllgor wedi ei wneud.

    "Dwi'n meddwl mai ein dewis ni fyddai y Revised Standard Version newydd ond yr oedd yna anhawster efo hawlfraint hwnnw ac yna fe ddaeth y Feibl Gymdeithas i fyny efo hwn ac y mae yn eithaf derbyniol gennym ni oherwydd y mae o'n rhannu yr un syniad o gyfieithu," meddai.

    "Yr hyn ydym ni'n deimlo efo hwn yw mai'r un athroniaeth [oedd gan y cyfieithwyr] ag oedd gennym ni wrth baratoi Y Beibl Cymraeg Newydd - eich bod yn deg efo'r gwreiddiol ac yn trio bod mor glir a phosib i bobl sy'n darllen heddiw."

  • Ond ychwanegodd ei fod yn gyfieithiad "mwy Ceidwadol" na'r RSV mewn rhai pethau.

    "Mae hwn yn glynu at yr hen ffordd o ddelio efo iaith gynhwysol - ryda ni wedi mynd oddi wrth hwnna ac yn sôn am gyfeillion yn lle brodyr sy'n dod a phawb i mewn ond mae'r cyfieithiad Saesneg yn dal at bretheren.

  • Wrth sôn am annog pobl i ddarllen ddywedodd:
    "Mae unrhyw gyfieithiad newydd yn rhyw fath o symbol i bobl edrych arno fo a gweld sut maen nhw wedi arfer efo fo ac fe fyddwn i'n meddwl y buasai cael y ddwy iaith ochr yn ochr yn help i bobl fynd yn ôl ato fo a gweld be sy'n digwydd a sut mae'r Ysgrythur erbyn hyn."

  • Am yr angen am gyfieithiad "deinamig" yn y Gymraeg dywedodd:
    "Mae angen, ond nid dyna y dasg gawsom ni [fel pwyllgor Y Beibl Cymraeg Newydd]. Yn sicr mae yna angen - yr oedd Y Ffordd Newydd y math hwnnw o gyfieithu ac mae yna rai mwy diweddar na hwnnw."

  • Dywedodd mai'r hyn yr anelir ato wrth gyfieithu yw; cywirdeb, bod yn addas i'w ddarllen yn gyhoeddus a cheisio cadw safon y Gymraeg a safon lenyddol.

    "Ac a ydych yn medru defnyddio hwn yn gyhoeddus achos mae yna rai cyfieithiadau nad ydw i'n siŵr a fuaswn i'n hoffi eu defnyddio nhw yn gyhoeddus!

    "Maen nhw'n mynd dros ben llestri , roeddwn i'n edrych ar un yn ddiweddar yn Saesneg ac roedd hwnnw wedi mynd dros ben llestri yn llwyr .
    Iesu Grist yn cael ei fedyddio a'r llais yn dod o'r nef ac yn dweud, 'Ti yw fy annwyl fab yn yr hwn ein bodlonwyd' - ond yn y cyfieithiad Saesneg, 'Hi Son, you're doing well'."

  • Bydd y fersiwn ddwyieithog ar gael ddechrau Tachwedd. Ei bris fydd £12.99.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy