BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Y Fam Teresa Cyfarfod y Fam Teresa
'Yn dipyn o deyrn'
Un o nodweddion amlycaf y Fam Teras yn ôl Cymraes a'i chyfarfu oedd ei bod "yn deyrn".

Nan Wyn Yr oedd y Parchedig Nan Wyn yn siarad ar Bwrw Golwg am y wraig hynod a fu'n gweithio ymhlith tlodion Calcutta ac a fu farw union ddeng mlynedd yn ôl yn 1997.

Ond er cymaint ei hynodrwydd, cymharol ychydig o sylw a gafodd ei marwolaeth ar y pryd oherwydd bod sylw'r wasg a'r cyfryngau ar y Dywysoges Diana a laddwyd mewn damwain car ym Mharis ychydig ddyddiau ynghynt.

Dywedodd Nan Wyn iddi hi gael ugain munud yng nghwmni'r Fam Teresa pan oedd yn aros yn Calcutta yn disgwyl teithio ymlaen i Misoram.

gwrando Y Parchedig Nan Wyn yn sgwrsio gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, 9 Medi 2007.

Wrth gael ei holi gan John Roberts, cytunodd mai un o nodweddion amlycaf y wraig a ddisgrifiwyd fel "sant" oherwydd ei gwaith anhygoel ymhlith y tlodion oedd ei bod yn dipyn o deyrn yn ei hymwneud â phobl.

Bu hi'n dyst meddai i'w hagwedd ddi-lol.

"Dyna'r nodwedd fwyaf amlwg o'i chymeriad hi - oedd ei bod hi'n deyrn ond mae rhywun yn gweld, er mwyn llwyddo a dod ymlaen ac yn enwedig yna yng Nghalcutta a Bengal yr oedd yn rhaid bod yn deyrn os am lwyddo," meddai.

"Rydw i'n cofio am ryw ddynes o Kashmir yno'r un pryd a mi ac yn disgyn ar ei gliniau o'i blaen a thrio rhoi [iddi hi] rhyw dâp yr oedd plant ysgol wedi'i wneud a rhyw waith llaw a dyma hi jyst yn troi rownd a dweud; 'Pam ydw i eisiau hwn? Dydw i ddim eisiau rhyw hen lol fel hyn; pres ydw i eisiau. Ewch i'w werthu fo a dod a fo'n ôl pan fydd o'n bres,' medda hi."

A chyda'r ddynes yn dal i erfyn arni wrando ar y tâp dywedodd, meddai Nan Wyn, "Mae gen i ddigon o blant fan hyn dydw i ddim eisiau gwrando arno fo."

Dywedodd Nan Wyn hefyd mai "dynes ei hoes oedd hi" ac yn berson ei chyfnod yn gwrthwynebu annog pobl i ddefnyddio condoms er enghraifft.

"Ac mae'n ddigon hawdd i ni fod yn feirniadol rŵan . . . ond mi ddaru hi droi agwedd pobl tuag at dlodi a thuag at 'rhoi' ben i waered a dyna beth ddylem ni gofio," meddai.

"Gadewch inni ei chofio fel Cristion oedd yn gweithredu," ychwanegodd.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy