BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Llun arlunydd o'r Academi Sain Tathan - ble mae'r heddychwyr?
Creisus heddychiaeth

gwrando Casi Jones yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Ionawr 21, 2007


Wythnos wedi cyhoeddiad y bydd Academi Filwrol fwyaf gwledydd Prydain yn cael ei sefydlu yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, bu heddychwraig o'r ardal yn trafod pam y bu heddychwyr a Christnogion mor dawedog ynglŷn â'r penderfyniad.

Yr oedd y Parchedig Casi Jones sy'n weinidog yn Y Barri yn cael ei holi ar Bwrw Golwg, ddydd Sul Ionawr 21, 2007.

'Creisus protest heddychol
"Rwy'n meddwl bod y tawelwch yn dod oherwydd sawl rheswm," meddai.

"Efallai bod ychydig bach o greisus ar brotest heddychol y dyddiau yma. Rwy'n edrych yn ôl dros y degawdau diwethaf a chofio, fel person iau, ymuno â theatr stryd i brotestio yn erbyn Rhyfel y Malvinas; sefyll ar y stryd adeg Rhyfel y Gwlff Cyntaf ac fel eglwys yn Y Barri fe wnaethom ni agor ein drysau ar gyfer myfyrdod a gweddi pan ddechreuodd y Rhyfel Irac presennol.

"Ond yna fe welon ni filoedd o bobl ar y strydoedd yn protestio yn erbyn y rhyfel a sylweddoli'n sydyn nad oedd hynny'n tycio, nad oedd hynny'n gwneud gwahaniaeth i bolisi'r Llywodraeth felly rwy'n teimlo bod yna dipyn o ddiffyg hyder mewn protestio fel ffordd o newid barn Llywodraeth a newid byd," meddai.

Angen dybryd
"Rwy'n meddwl fod y tawelwch hefyd oherwydd peth lletchwithdod mae rhywun yn gallu'i deimlo.

"Dydi rhywun ddim yn syml yn gallu gwrthwynebu datblygiad fel ag yn Sain Tathan heb gofio am yr angen dybryd am fuddsoddiad ac am swyddi yn y rhan yma ac yn ne Cymru yn gyffredinol," ychwanegodd.

"Y ddau beth yna gyda'i gilydd sy'n golygu mai tawel mae pobl wedi bod," meddai.

Newid agwedd
Dywedodd hefyd fod yr agwedd at filwyr ac at ryfela wedi newid yn ystod y cyfnod diweddar.

"Rydym ni gyd yn cofio'r jingoistiaeth ryfeddol adeg y Malvinas a'r awydd gan bawb i gefnogi ein bois ni ac yn y blaen - ond mae gen i gydymdeimlad rhyfeddol gyda milwyr y dyddiau hyn; maen nhw'n mynd allan, mae llawer ohonyn nhw, gwaetha'r modd, yn colli'u bywydau ac rydw i'n teimlo cydymdeimlad ofnadwy gyda'r teuluoedd.

"Ond maen nhw hefyd, wrth fod allan, dan farn a thrafodaeth a ddylen nhw fod allan yna o gwbl felly mae'r holl drafodaeth ynglŷn â rhyfela a heddwch wedi newid ac wedi cymhlethu.

"Ar un olwg mae lot mwy o bobl yn protestio nag o'r blaen - nid rhyw grŵp bach ar yr ymylon yw'r brotest yn erbyn Rhyfel Irac y tro yma."

Rhywbeth i'w gynnig
Dywedodd mai un bai ar heddychwyr neu Gristnogion y dyddiau hyn yw eu bod yn cymryd mater heddychiaeth fel un pwnc yn hytrach na bod yn fwy cynhwysol.

"Rydw i'n ymwybodol iawn, o fod yma yn Y Wig, ychydig filltiroedd o'r fan lle'r oedd George M Ll Davies yn cynnal gwersyll yn ystod y Tridegau, fod rhywun fel ef yn dangos inni'r math o agwedd gynhwysfawr a ddylai fod gennym ni heddiw.

"Roedd e'n heddychwr, fe gafodd ei garcharu fel gwrthwynebydd cydwybodol ac fe roddodd gyfran helaeth o'i amser yn ystod ei fywyd i helpu pobl ddi-waith yn y Rhondda i ddysgu sgiliau newydd er mwyn medru cael cyflogaeth ac felly roedd ganddo ef a phobl debyg iddo agwedd llawer mwy cynhwysfawr at broblemau'r byd a sut i'w datrys nhw," meddai.

"Hynny yw does gennym ni ddim hawl i ddweud na ddylai'r datblygiad yma ddigwydd yn Sain Tathan oni bai ein bod ni fel Cristnogion a heddychwyr yn ymwneud o ddydd i ddydd ac yn cynnig opsiynau gwahanol a sgiliau gwahanol a chyflogaeth wahanol i bobl.

"Mae pawb yn croesawu'r datblygiad yma yn Sain Tathan gymaint oherwydd y diffyg buddsoddiad a'r diffyg addysgu sgiliau newydd sydd wedi digwydd dros gyfnod o ddegawdau yng Nghymru a gwahanol rannau o Brydain," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy