BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Archesgob Rowan Williams Yr Eglwys a hoywon
Fydd y drol eglwysig yn troi?
Y mae'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn hyderus y bydd yr Eglwys Anglicanaidd yn darganfod ffordd o'i dryswch presennol ynglŷn â pherthynas hoyw.

Gydag archesgobion yr Eglwys o bob rhan o'r byd yn cyfarfod yn Tanzania yr oedd Yr Arglwydd Elis Thomas sy'n aelod o'r Eglwys yng Nghymru yn trafod y sefyllfa gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, fore Sul, Chwefror 18, 2007.

gwrando John Roberts yn holi'r Arglwydd Elis Thomas ar Bwrw Golwg, Chwefror 18, 2007


Cyfnod o argyfwng
Y mae hwn yn gyfnod o argyfwng bron i'r Eglwys gyda gwahanol safbwyntiau at berthynas hoyw mewn peryg o'i rhwygo'n ddwy.

"Dechreuodd y cyfan yn 2003 pan ddewiswyd gŵr hoyw yn esgob New Hampshire yn yr Unol Daleithiau a'r eglwysi - sydd ar y cyfan yn geidwadol eu diwinyddiaeth - yn Affrica a De America yn amharod i dderbyn fod perthynas hoyw yn dderbyniol yng ngolwg yr Ysgrythur," meddai John Roberts.

Ychwanegodd fod eglwysi mwy rhyddfrydol yn y gorllewin yn dehongli'r Ysgrythur mewn ffordd wahanol gan ddweud fod lle i bawb fel ag y maent yn yr eglwys.

"Ond yn swyddogol derbyniodd y Gymuned Anglicanaidd y safbwynt ceidwadol yng nghynhadledd Lambeth ac felly yn Adroddiad Windsor a baratowyd ar gyfer yr Archesgobion galwyd ar yr eglwys esgobaethol yn yr Unol Daleithiau i beidio gosod mwy o esgobion a fyddai'n groes i benderfyniad Lambeth ac hefyd i beidio a bendithio perthynas neu briodas un rhyw ac hefyd i ymddiheuro i'r gymuned am achosi poenau a phryder i eglwysi eraill," eglurodd John Roberts.

Bu'r cyfan, meddai, yn hongian fel cwmwl dros Archesgob Caergaint, y Cymro, Rowan Williams, ers dros dair blynedd ac yn awr yn Tanzania dywedodd "y gallai'r drol droi".

Tasg enfawr
"Mae'n dasg enfawr i Rowan Williams ac wrth gwrs mae'n dasg enfawr i'r Archesgob Barry a oedd yn un o'r bobl baratôdd yr adroddiad cyfaddawd yma," meddai'r Arglwydd Elis Thomas.

Yr Arfglwydd Elis Thomas "Mae'n amlwg bod yna wrthdaro diwylliannol dwys iawn fan hyn ac mae'n amlwg hefyd bod yna sialens fawr i ffeindio cyfaddawd fydd ddim yn cael ei ystyried yn annerbyniol gan y gwahanol ochrau," meddai.

"Y broblem ydw i'n i gweld fan hyn ydi, nid yn gymaint y dehongliad o'r Ysgrythur ond lleoliad yr eglwys o fewn diwylliant.

"Hynny yw, rydym ni yn y gorllewin - yn yr Unol Daleithiau ac yma yng Nghymru - yn caniatáu i berthnasau hoyw gael eu dilysu gan y wladwriaeth drwy bartneriaethau sifil.

"Ac mae yna rai eglwysi wedi bod yn bendithio y partneriaethau hynny ac rydym ni'n croesawu yr amrywiaeth yma a'r cyfoeth mae o'n ddod i'n bywyd cymdeithasol ni.

"Ond mewn diwylliannau eraill mae rhyw fath o bwyslais ar i bawb wneud yr un fath a dyma dwi'n meddwl ydi'r anhawster mawr," meddai.

Yr Ysgrythurau
Gwrthodai ef yr awgrym mai mynd yn ôl yr hyn a ddywedir yn yr Ysgrythurau y mae'r rhai sy'n gwrthwynebu perthynas hoyw.

"Dydi'r Ysgrythur ddim yn 'dweud' pethau - o leiaf ddim yn fy nealltwriaeth i o ysgolheictod Beiblaidd.

"Yr oedd yr Ysgrythur yn nyddiau'r eglwys fore yn caniatáu caethwasiaeth ac mae Paul yn taranu o hyd fod yn rhaid inni ymosod ar awdurdodau aruchel.

"Wel, taswn i wedi gwneud hynny ar hyd fy mywyd fuaswn i ddim yn gallu gwneud fy ngwaith felly maen rhaid inni ddehongli beth sydd yn yr Ysgrythur yng nghyd-destun ein cyfnod ac yng ngoleuni'r ysbryd.

Yn eglwys agored
"Un o'r rhesymau pam fy mod i yn hapus iawn yn yr Eglwys yng Nghymru yw oherwydd ei bod yn eglwys agored - ac mae'n rhaid i mi ddweud imi gael bendith rhyfeddol yn y gwasanaeth carolau hoyw a lesbiaidd yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd. I mi, dyna oedd un o'r achlysuron mwyaf llawen fûm i ynddo fo - yng nghanol eglwyswyr hoyw.

"Roedd yno lawer o gariad o gwmpas felly os ydym ni'n edrych ar bethau o'r ochr fugeiliol mae'n rhaid inni gydnabod fod Cristnogion yn gallu cael bywyd Cristnogol sydd yn fywyd graslon mewn perthnasau o'r un rhyw fel y maen nhw, gobeithio, mewn perthnasau, o ddau ryw."

Gwrthod cymuno
Ychwanegodd fod gwrthodiad saith o archesgobion yn Tanzania i gymryd cymun gyda Catherine Shorey, esgob llywyddol eglwys esgobaethol yr Unol Daleithiau, yn groes i'r ffordd y mae ef yn dehongli y traddodiadau Anglicanaidd.

"Sef y parodrwydd i gydfyw a'r parodrwydd i gydaddoli ac, yn sicr, i rannu'r cymun," meddai.

"Mae'r syniad o sacrament yn ganolog i'r Eglwys yng Nghymru ac i'r eglwysi esgobol Anglicanaidd i gyd ac yn hynny o beth mae gallu pawb i rannu yn y sacrament yn ganolog."

Yr allwedd
Dywedodd mai Adroddiad Windsor ydi'r "allwedd" i'r anawsterau presennol.

"Er mae'n beth rhyfedd iawn fod gofyn i esgobion ac eglwys edifarhau yn gyhoeddus ond efallai bod yna fodd cyrraedd rhyw fath o eiriau sydd yn cyfeirio at yr anhawster sydd gan bobl gydag agweddau mwy awdurdodol ac sy'n defnyddio argyhoeddiadau unigol crefyddol fel ffordd o awdurdodi ymarfer personol neu orchymyn ymarfer personol," meddai.

"Mae'n anodd iawn ichi resymu a dadlau'n glir efo pobl fel yna felly mae'n rhaid ichi gael rhyw fframwaith wahanol a'r fframwaith naturiol oherwydd fy ngwaith bob dydd ydi fframwaith o gydraddoldeb gwahaniaeth ac nad yw bod yn wahanol yn bechod ond y gallwch chi fod yn wahanol ac yn ddaionus ar yr un pryd.

"Mae hwnna yn rhywbeth anodd iawn i bobl sydd ag agwedd wahanol ei dderbyn," meddai.

Yn ffyddiog
Ond dywedodd ei fod yn ffyddiog y daw'r gymuned Anglicanaidd drwy'r anhawster presennol:
"Yr ydym ni wedi bod fan hyn o'r blaen ac mae'r pwnc yma wedi cael ei ddadlau ers o leiaf 1978 o fewn y cymunedau Anglicanaidd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ac felly, yn y traddodiad Anglicanaidd gorau, fe ddown ni drwyddi.

"Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i ydi'r gofid sy'n cael ei achosi i bartneriaid hoyw a lesbiaidd sydd yn Gristnogion gloyw oherwydd y trafod yma.

"Mae'r methiant i gydnabod y gall priodas Gristnogol gael ei gweithredu fel sacrament i gyplau o ddau ryw ond hefyd y gall undeb o'r un rhyw fod mor ddaionus."

Dim hawl
Am y pryder y mae hyn yn ei achosi i'r ochr geidwadol sy'n credu fod hyn yn groes i ddysgeidiaeth Ysgrythurol dywedodd:
"Fan hyn mae'n rhaid gwneud y gosodiad nad oes gennym ni mo'r hawl i gyhoeddi mai ni ydi dehonglwyr terfynol llestri gras Duw oherwydd pwy ydym ni i ddweud fod perthynas hoyw gariadus yn well na pherthynas sydd rhwng y ddwy ryw? Pwy ydym ni i ddweud hynny? Yn Nydd y Farn yn unig y mae hynny yn mynd i gael ei ddatgelu," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy