BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Sul y Cofio - gwrthod pabi gwyn
Caplan yn dweud mai pabi coch sy'n iawn
Disgrifiwyd yr arfer ymhlith rhai o wisgo pabi gwyn yn lle un coch ar gyfer Sul y Cofio fel "sarhad ar hanes" gan un o gaplaniaid y fyddin.

Yr oedd Aled Thomas yn cael ei holi am yr arfer o wisgo pabi gwyn ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Tachwedd 12, 2006, pan ddywedodd:

"Yn un peth fyddwn i ddim yn gweld unrhyw bwrpas yn hynny achos wedi'r cyfan peth hanesyddol yw'r pabi coch yn deillio o ddyddiau Fflandrys a'r rhyfela yn y ffosydd ac o'i symud a'i drawsblannu yn babi gwyn mae hynny o bosib yn rhyw fath o sarhad ar hanes a milwyr sydd wedi rhoi eu bywydau dros y blynyddoedd.

"Rhyw symud pyst y gôl yw hwnna yn fy nhyb i."

Rhwng y tanciau
Yn gaplan gyda'r fyddin yn Bovington, Swydd Dorset, ac wedi gwasanaethu yn Irac ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Aled Thomas mai yn un o adeiladau cadw tanciau y gwersyll y byddai ef yn cynnal gwasanaeth y bore hwnnw gan fod yr eglwys yn rhy fach ar gyfer y pump i wyth cant o bobl a ddisgwyliai yno.

gwrando Aled Thomas

"Beth wnawn i yw symud y tanciau i mewn i gylch a chael pawb i eistedd o amgylch y tanciau; y milwyr ar y tanciau, a chynnal y gwasanaeth yn y fan honno," meddai.

"I mi mae hwnna'n werthfawr iawn gan ei fod yn atgoffa'r milwyr a'r gynulleidfa sydd gen i o beth yw eu swyddogaeth a beth yw eu gwaith pob dydd.

"Mewn ffordd rydym ni'n addoli yn eu gweithle," ychwanegodd.

Colli ffrindiau
Dywedodd fod arwyddocâd arbennig i wasanaethau cofio eleni gan fod mwy o filwyr ifainc nag a welwyd ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd wedi cael profiadau o ryfel ac o golli ffrindiau.

"Lle mae pobl ifainc yn adnabod pobl ifainc eraill sydd wedi colli'u bywydau mae'n bwysig iawn i mi ein bod yn cynnal gwasanaethau o fewn y cyd-destun milwrol," meddai.

Yn bwysig
"Ac mae'n llawer iawn mwy poignant i bobl sy'n gwasanaethu y bore yma ac yn cynnal gwasanaethau yn Irac ac yn Affganistan; ac mae hefyd yn bwysig iddyn nhw sylweddoli ein bod ni yng Nghymru ac yn y wlad yma yn gwneud yr un peth a nhw ac yn gweddïo drostyn nhw," meddai.

Dywedodd y credai fod y ddau funud o dawelwch yn fwy perthnasol eleni nag erioed o'r blaen o bosib.

"Yr ydym ni wedi sylwi dros y blynyddoedd diwethaf yma fod mwy a mwy o bobl ifainc yn gwisgo y Pabi Coch a fy mhrofiad i, yn enwedig gyda'r rhyfel yn Irac ac Affiganistan [yw fod] ymwybyddiaeth pobl o ryfel gymaint a hynny yn uwch a'r angen i ddynodi hynny ac i gadw rhyw fath o seremoni neu wneud rhywbeth penodol i dynnu sylw yn fwy pwysig nag erioed o'r blaen," meddai.

Pwyslais ar hanes
Dywedodd mai ar hanes y mae'r pwyslais yn ei wasanaethau cofio ef.

"Mae'n bwysig fod pobl ifainc yn ymwybodol o hanes ein gwlad ni a'r traddodiadau sy'n perthyn iddyn nhw.

"Nid mawrhau neu ymffrostio mewn grym rhyfela ond dysgu pobl ac atgoffa pobl ynglŷn ag ymroddiad ac aberth pobl ifainc dros y blynyddoedd a fu ac hefyd bwysleisio dyletswydd achos ar Sul y Cofio yr ydym yn cofio llawer o wŷr ifainc oedd yn syml yn gwneud eu dyletswydd dros eu pentref, dros eu tref a thros eu gwlad.

"Pan ydych chi'n sôn am ddyletswyddau ac ymroddiad a dyletswydd at gymdeithas yn aml iawn mae'n gallu swnio yn ein cyfnod ni fel rhywbeth rhyfedd iawn - mewn cymdeithas lle mae hawliau a rhyddid yr unigolyn yn cael eu pwysleisio shwd gymaint [felly] mae'n bwysig atgoffa pobl ifainc fod pobl yn y gorffennol wedi rhoi ac wedi aberthu drostyn nhw a gwneud eu dyletswydd i'w cymdogaeth," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy