 |
Dywedwyd ei bod yn "hen bryd" i'r Eglwys y g Nghymru symud ymlaen tuag at benodi merched yn esgobion.
Yr oedd y Parchedig Mary Stallard yn siarad ar Bwrw Golwg ddeng mlynedd union ers i'r eglwys ganiatáu ordeinio merched offeiriaid.
A dywedodd fod yr amser yn rhesymol yn awr i symud ymlaen i roi'r hawl i ferched fod yn esgobion.
Ddim yn deall Yr oedd wedi sgrifennu am hyn yn barod yn Theology Wales a dywedodd wrth John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg:
"Yr ydw i yn credu ei bod yn hen bryd [i hyn ddigwydd]. Dydw i ddim yn deall sut ydym ni'n gallu mynd ymlaen yn yr Eglwys gydag un rhan o'r eglwys sydd ond yn ddynion . Rwy'n siŵr - i bobl y tu allan i'r eglwys - fod hyn yn edrych yn od ac yn hen ffasiwn ac yn anghyfiawn," meddai.
Dim gwrthwynebiad Beiblaidd Ychwanegodd na welai fod unrhyw sail ysgrythurol i wrthwynebu esgobion benywaidd.
"Mae'n rhaid i ni fod yn onest iawn pan yn darllen y Beibl ac mae'n rhaid inni wrando yn ddwfwn iawn oherwydd mae'r Beibl yn dweud lot o bethau ac os ydym ni'n mo'yn defnyddio'r Beibl fel rhyw textbook mae'n rhaid inni fod yn gyson ac rwyf i'n darllen y Beibl i ddweud fod pob un yn gallu cyfrannu yng ngwaith Duw.
"Rwy'n deall fod rhai pobl yn darllen y Beibl a'u bod yn onest pan ydynt yn dweud na allant ddal y syniad o ordeinio merched . . . ond alla i ddim dweud mai dyma yr holl stori," meddai.
Dal yn y Pumdegau Aeth cyn belled â dweud fod tuedd i'r Eglwys edrych ar ferched fel pe byddem yn dal i fyw yn y Pumdegau.
"Y broblem rydw i'n weld yn yr eglwys tuag at ferched yw ein bod ni yn tueddu i drin merched fel pe bydden ni'n dal i fyw yn y Pumdegau.
"Yr ydym yn dal i fod â'r syniad fod merched jyst yn bobl sy'n aros adref ac sydd ddim yn mo'yn gwneud cyfraniad tuag at rai adrannau o'n gwaith ni.
". . .pan ydym yn gwneud penderfyniadau pwysig o ran polisi, dydym ni ddim yn rhoi gwahoddiad, dydym ni ddim yn calonogi merched i gyfrannu," meddai.
Pan ofynnwyd iddi sut y byddai ordeinio merched yn esgobion yn newid yr eglwys dywedodd:
"Mae merched, pan fo nhw'n dod at ei gilydd, yn tueddu i rannu storiâu. Rydym ni'n gwrando mwy ac yr ydym yn llai gwrthwynebol -adversarial - wrth geisio gwneud penderfyniadau.
"Dydw i ddim eisiau dweud fod merched fel hyn a bod dynion fel arall; dydi hynny ddim yn gywir, rwy'n gwybod, ond rwy'n credu fod gan ferched ddawn i wrando a cheisio perswadio i bob un gael llais ac rwy'n credu y bydd hynny yn rhodd fawr i'r eglwys," meddai.
Tuedd i anghofio Yn ei herthygl yn Theology Wales dywedodd fod tuedd i anghofio i ferched fod a rhan bwysig ac amrywiol yn hanes y ffydd.
"Weithiau yr ydym yn anghofio fod merched drwy'r amser wedi cael dylanwad yn ffurfiant ein cymunedau, hyd yn oed os na chafodd eu gwaith ei gydnabod a'i werthfawrogi," meddai.
Pawb yn gyfartal Ychwanegodd y byddai caniatáu i ferched fod yn esgobion yn dweud rhywbeth allweddol am y ffordd y credir yn Nuw.
"Byddai peidio ag ordeinio merched, neu, yn wir, unrhyw grŵp neu garfan arall o bobl, yr un peth ag awgrymu eu bod yn wahanol yng ngolwg Duw.
"Y mae'n sylfaenol i'n ffydd fod y bobl i gyd, yn ddynion ac yn ferched, wedi eu creu ar lun Duw," meddai.
Unwaith y penderfynodd yr Eglwys ordeinio merched yn offeiriaid dadleua y byddai'n ei chael yn anodd iawn cyfiawnhau dyrchafu dim ond y dynion yn esgobion.
"Beth mae hyn yn ei ddweud wrth yr Eglwys yng Nghymru yw ein bod wedi gwneud y penderfyniad damcaniaethol fod merched yn cael eu galw gan Dduw i gyfranogi yn y weinidogaeth esgobaethol. "Ni fyddai sicrhau'r ddarpariaeth a fyddai'n caniatáu i ferched gael eu hordeinio yn Esgobion ond yn ganlyniad rhesymegol i'r hyn yr ydym wedi ei wneud yn barod," meddai
Dywed fod awydd mawr ar hyd a lled y byd i ganiatáu i ferched ddefnyddio eu talentau fel rhan o'r weinidogaeth.
"Cred llawer o ferched y bydd hyn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â gwaith pwysig arall," meddai.
 |
 |