BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Carwyn Siddall 'Y weinidogaeth seml'
Wynebu'r weinidogaeth yn 18 oed
Gweld yr angen i gyflwyno'r neges Gristnogol yn glir ac yn ddealladwy y mae llanc ifanc deunaw oed sydd â'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth.
A chael gwared ar enwadaeth.

gwrando Carwyn Siddall yn siarad gyda Karen Owen ar Bwrw Golwg fore Sul 17 Chwefror 2008 gyda John Roberts yn cyflwyno.

'Yn rhy ddwfn'
"Yr ydych chi'n mynd i gapel neu eglwys ac yn gwrando ar bregethwr gan fynd oddi yna ddim wedi deall dim," meddai Carwyn Siddall, 18 oed, o Niwbwrch.

"Maen nhw'n mynd i ormod o fanylder, yn rhy ddyfn, nes nad yw'r gynulleidfa yn eu deall," ychwanegodd Carwyn sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llangefni ond yn barod a'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth.

Dywedodd mai fel pregethwr sydd heb wybodaeth ddiwinyddol ddofn y mae'n ystyried ei hun.

"Fel rhywun ifanc efallai nad ydi'r wybodaeth ddyfn gen i, i gyd, a be dwi'n drio'i wneud ydi aros ar yr wyneb a pheidio mynd yn rhy ddwfn. Pregethu rhywbeth yr ydw i'n ei ddeall; sôn am bethau yr ydw i'n gwybod fod pobl yn mynd o na wedyn wedi fy neall i," meddai.

"Dwi hefyd yn teimlo [mai] 'common sense' ydi lot [o beth sydd yn y Beibl]; peidio lladd, caru'ch gilydd, peidio gweld bai."

'Nid yn unig awran ar y Sul'
Galwodd hefyd am i gapeli fod â rghan fwy canolog yn y cymunedau.

"Dylai capeli ac eglwysi chwarae mwy o rôl yn y gymdeithas - nad ydi capel neu eglwys yn rhywle yr ydych chi'n mynd am rhyw awran neu ddwy ar y Sul a'r drws wedyn wedi ei gloi am wythnos arall," meddai.

Yn yr ysgol
Er bod rhywfaint o dynnu arno oherwydd ei ddaliadau crefyddol dywedodd fod ei ffrindiau a'i athrawon yn yr ysgol "yn gefnogol tu hwnt" i'w fwriad i ymuno â'r weinidogaeth.

. Mae'n cael ei holi meddai am ei ffydd a pham ei fod yn credu fod yr hyn sydd yn y Beibl yn wir.

"Maen nhw eisiau i mi drio profi fod Iesu Grist wedi marw ac wedi dod yn ôl yn fyw ar y trydydd dydd - cwestiynau anodd.

"Maen nhw'n gofyn y cwestiynau mawr, y pethau sy'n ganolog i'r ffydd ac yn gofyn, 'Sut wyt ti'n gwybod fod hyn yn wir?'.

"A dyna lle mae nghred i'n dŵad i mewn i'r peth a lle mae magwraeth wedi dod i mewn i'r peth a dwi'n meddwl ei bod hi'n fwy o her a rhaid wynebu'r her yna gant y cant a pheidio bod ofn," meddai.

Enwadaeth - 'perthyn i ddoe'
Ac i Gristion ifanc heddiw dywedodd nad yw enwadaeth yn bwysig mwyach. "Dwi'n teimlo, yn y gymdeithas sydd gennym ni, fod enwadau yn fwy o rywbeth yn y gorffennol.

"Ond y drwg ydi fod [yna bobl] sydd yn cofio'r cyfnod pan oedd enwadau a'ch enwad unigol chi yn bwysig ichi - ond dwi'n meddwl fod yn rhaid symud ymlaen.

"Dydi pobl ddim yn fodlon symud ymlaen, ddim yn fodlon uno.

"Ond wedyn fel rhywun sy'n pregethu rydw i'n ei theimlo hi'n lot brafiach sefyll o flaen cynulleidfa gref na siarad efo cynulleidfa wan," meddai.

"Tydi enwadau [ddim yn bwysig] - does yna ddim gwahaniaeth ynom ni. Yr un, un, peth ydym ni'n ei gredu, yr un Beibl sydd gennym ni, yr un Duw ydym ni'n i addoli. Tydi [enwadaeth] ddim yn bwysig," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy