 |
Tra bo Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn troedio'n ofalus er mwyn cadw undod Eglwys Loegr mae Archesgob Caerefrog, John Sentamu, yn fwy na pharod i fynegi barn ac yn cael ei ddyfynnu'n helaeth yn y wasg ar faterion hiliaeth, agwedd at ieuenctid, y digartref, seciwlariaeth, Mwslimiaeth eithafol ac yn y blaen.
Lyn Lewis Dafis fu'n siarad am y gwahaniaethau rhwng y ddau archesgob ar Bwrw Golwg, Chwefror 11, 2007 - y naill o Gymru a'r llall o Uganda lle dechreuodd ar yrfa gyfreithiol a chael ei ddyrchafu'n farnwr cyn gorfod ffoi o'r wlad yn ystod arlywyddiaeth Idi Amin.
Erbyn hyn yn Archesgob Caerefrog, mae'n ail i Rowan Williams ei hun o ran statws o fewn yr Eglwys ac fe allai olynu'r Cymro yn Archesgob Caergaint un dydd.
Dyma grynodeb o'r hyn oedd gan Lyn Lewis Dafis i'w ddweud.
Y sgwrs gyflawn rhwng Lyn Lewis Dafis a John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg
"Mae ei lais e yn eithaf uchel ac mae sylw yn cael ei roi i'r hyn sydd ganddo i'w ddweud ac rwy'n credu mai un rheswm am hynny yw ei fod e'n llawer mwy uniongyrchol yn y ffordd mae e'n siarad na Rowan Williams ac wrth gwrs dyw e ddim yn gorfod bod cweit mor ofalus.
"Ond mae'n llai ymenyddol yn ei ymwneud â phobl - mae cymaint o ddeallusrwydd gyda'r ddau [a'i gilydd] - mae unrhyw un sy'n dod yn farnwr uchel lys yn 25 oed [yn Uganda] ag elfen ddeallusol gref."
Dywedodd i Sentamu gael ei fagu ar aelwyd Gristnogol a'i ddysgu gan genhadon.
Yn gyfreithiwr a barnwr bu'n rhaid iddo adael Uganda yn ystod arlywyddiaeth Idi Amin.
Bu'n astudio diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt wedi ei ysgogi gan y ffaith i gyfaill iddo oedd yn archesgob gael ei erlid a'i ladd.
Yn fwy rhydd Dywedodd Lyn Lewis Dafis ei fod nid yn unig mewn sefyllfa sy'n golygu ei fod yn fwy rhydd i wneud datganiadau ond "mae ei ysbryd e hefyd yn fwy rhydd na Rowan Williams".
"Efallai nad yw e cweit mor ymwybodol â Rowan Williams o'r hyn sy'n ddisgwyliedig gan rywun sy'n arwain Eglwys Loegr neu efallai fod yr hyn a brofodd yn Uganda lle nad oedd rhyddid lleferydd a lle'r oedd gwrando ar beth oedd y drefen yn i ddweud wedi ei ddysgu o i ddweud, 'Dydw i ddim yn mynd i wneud hynna. Dydw i ddim am ddweud beth mae'r drefen, y sefydliad, am imi ddweud. Rwy'n mynd i ddweud beth ydw i'n gredu ddylwn i ddweud.
" Ac efallai bod 'chydig o hynna yn y ffaith ei fod e'n fwy parod i lefaru.
"Ond hefyd, rwy'n credu oherwydd ei fod yn dweud yr hyn mae'n ddweud yn y ffordd mae'n i ddweud e - mae e'n siarad mewn soundbites - mae'n apelio at newyddiadurwyr, a newyddiadurwyr print yn arbennig."
Yn y newyddion Ychwanegodd mai un o ganlyniadau hyn yw ei fod yn llwyddo i siarad am bynciau sydd yn y newyddion mewn ffordd uniongyrchol gan roi fel enghreifftiau sylwadau a wnaeth:
Ar benderfyniad BA yn gwrthod i weithwraig wisgo'i chroes
Diffyg llun o Iesu ar stampiau Nadolig
"Fe wnaeth e sôn, yn drawiadol iawn, jyst cyn iddo gael ei osod yn Archesgob Caerefrog; er ei fod yn credu mewn polisi o aml-ddiwyllianniaeth nad oedd henny'n golygu fod yn rhaid i Saeson gywilyddio am eu traddodiadau a'r pethau da oedden nhw wedi'u gwneud. Ac mae wedi dweud wrth y Saeson am ddathlu Gŵyl Sant Siôr gydag arddeliad.
"Mae'n dweud; iddyn nhw wneud lot o bethau drwg ond iddyn nhw wneud lot o bethau da hefyd a bod lle iddyn nhw ddathlu hynny - pethau na fyddech chi'n eu disgwyl oddi wrth ddyn du o Affrica sydd yn un o brif arweinwyr Eglwys Loegr."
Ceidwadol heb fod yn gul Ynglŷn â diwinyddiaeth Sentamu dywedodd Lyn Lewis Dafis:
"Mae e'n geidwadol ond dyw e ddim yn gul - mae e'n agored i drafod gyda phobl ac wedi dweud y dylai siarad gyda phawb ac nid siarad dim ond er mwyn ceisio eu hennill ond siarad â nhw er mwyn eu gwneud yn gyfeillion.
"Mae'r hyn mae e'n i ddweud yn apelio at bobl - yn dweud ei fod e'n sefyll lle mae'n sefyll ond nad yw hynny'n golygu nad oes lle i drafod ac i fod yn gyfeillion.
"Fel ceidwadwr, mae'n cael ei weld gan rai carfannau fel yr un a fydd yn dilyn Rowan Williams . . . [ond] yn wleidyddol, wrth gwrs, bydd yn rhaid iddo blesio Prif Weinidog y dydd a wyddom ni ddim pwy fydd hwnnw.
"Ond rwy'n credu fod [Sentamu] yn gosod ei stondin mas [yn awr] . . . a'i fod e am 'y job fawr'.
"Mae e'n wahanol iawn i Rowan Williams yn ei ffordd ac yn y ffordd mae'n ymwneud â phobl - yn fwy uniongyrchol," meddai.
Ac er bod Rowan Williams, meddai Mr Dafis, yn ddyn cynnes gall roi'r argraff hefyd ei fod yn bell oherwydd ei fod mor ddeallusol yn ei ffordd o drafod â phobl.
"Dyw Sentamu ddim yn ddeallusol yn y ffordd mae'n siarad o ddydd i ddydd," meddai.
 |
 |