Yn dilyn blwyddyn gyntaf Rowan Williamsyn Archesgob Caergaint bu newyddiadurwr a phregethwr stryd yn pwyso a mesur ei gyfraniad yn ystod y flwyddyn gan roi marciau allan o ddeg iddo ar Bwrw Golwg.
Ben Thomas a Hywel Williams yn siarad am flwyddyn gyntaf Rowan Williams - Bwrw Golwg, 2 Mawrth 2008.
Tri allan o ddeg Wrth roi dim ond tri marc iddo dywedodd Ben Thomas, y pregethwr stryd, i Rowan Williams, yn ei olwg ef, fod yn barotach i ddweud ei farn ar faterion cyfoes nag i ddatgan "gwirioneddau tragwyddol yr efengyl".
Meddai: "Anodd cofio amdano yn dweud mai'r unig ateb i broblemau ein hoes yw i ni droi at yr Arglwydd Iesu Grist."
Ychwanegodd: "Mae gen i ofn fod Rowan wedi colli'r cyfle i ddangos mai'r Beibl yw ei awdurdod ac i arwain yng ngoleuni gair Duw."
Ac er gwaethaf deall mawr a ddiwinyddiaeth ddofn Rowan Williams cred ben Thomas iddo "golli gafael ar wirioneddau sylfaenol, syml, y ffydd."
Chwech allan o ddeg Dyfarniad y newyddiadurwr a'r awdur, Hywel Williams, oedd chwech allan o ddeg gan ddweud mai problem bennaf yr Archesgob yw methu â chyfathrebu â phobl.
"Mae'n rhy hawdd dweud ein bod yn byw mewn byd sy'n arwynebol oherwydd y pwyslais ar gyfathrebu cryno a chofiadwy," eglurodd.
"Yr ydym i gyd, waeth pa mor glyfar, yn medru elwa ar wrando ar gyngor profiadol sy'n gallu golygu ein geiriau ac rwy'n ofni yn hyn o beth fod Dr Williams yn or ddibynnol ar ei ysbrydoliaeth ei hun," meddai.
Ychwanegodd fod yr ymateb i'w sylwadau diweddar ar Gyfraith Sharia yn "rhagweladwy" yn y cyd-destun hwn.
Dywedodd y dylai "meddwl dadansoddiadol o'r radd gyntaf" fod yn feistr ar nifer o gyfryngau o'r llyfr estynedig i'r ysgrif fer ond ofnai mai dim ond un arddull sydd gan Rowan Williams.
Tra bo'r Dr Williams yn "un sy'n defnyddio gormod o eiriau ac sy'n ymhyfrydu yn ei haniaethau" dywedodd mai'r gwir arwydd o ddeallusrwydd yw gallu person i gyflwyno pwnc astrus mewn ffordd sydd yn . eglur a dealladwy.
Yng ngoleuni hyn disgrifiodd flwyddyn gyntaf yr Archesgob fel un "gymysglyd".
"Ond o leiaf mae wedi sicrhau fod Eglwys Loegr yn gyson ar y ddalen flaen er nad am resymau yr oedd ef yn eu rhagweld!," meddai.
 |