BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Robin Gwyndaf a'r Tad Guirguis o'r Eglwys Goptaidd Yr Eglwys Goptaidd
Ymweliad Robin Gwyndaf o Gaerdydd
Yr oedd Robin Gwyndaf a'i wraig, Eleri, ymhlith dwsin o bobl a deithiodd i'r Aifft ddiwedd 2006 i ymweld â'r Eglwys Goptaidd hynafol yno.

Yr oedd chwech o'r ymwelwyr o Gymru a chwech o Loegr ac yn cynrychioli nifer o draddodiadau crefyddol.

Yr Eglwys Goptig yw'r eglwys Gristnogol gychwynnol yn yr Aifft a'r enw yn deillio o'r hen enw ar Memphis, prifddinas gyntaf yr hen Aifft.

Mae rhyw naw miliwn o aelodau allan o boblogaeth o 57 miliwn gydag ychydig dros filiwn arall o Goptiaid mewn gwledydd ar draws y byd yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, Ffrainc, yr Almaen, Awstria, yr Iseldiroedd, Brasil a gwledydd Prydain.

Yn ôl traddodiad Marc sefydlodd yr Eglwys Goptaidd yn ystod teyrnasiad Nero yn y ganrif gyntaf rhyw ddeuddeng mlynedd wedi atgyfodiad Crist gan gychwyn traddodiad di-dor sy'n parhau hyd heddiw.

gwrando Y sgwrs lawn rhwng Robin Gwyndaf a John Roberts ar Bwrw Golwg, Chwefror 11, 2006

Crynodeb o'r sgwrs
"Yr ydym yn meddwl am Marc yr Efengylydd wedi mynd a'r efengyl i'r Aifft a'r traddodiad di-dor yma ac fe welsom ni Eglwys Sant Marc ac fe aethom i weld beth sydd, yn ôl traddodiad, yn esgyrn Sant Marc ei hunan.

"Ac fe welsom ni hefyd ogof dywedir fod Mair a Joseff a'r baban Iesu wedi bod yn cuddio ac yn byw ynddi am dair blynedd, chwe mis a deg diwrnod pan oedden nhw ar ffo yn yr Aifft - mae yma draddodiad di-dor," meddai Robin Gwyndaf sy'n Gymrawd Ymchwil yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd er anrhydedd ar lên gwerin yn y brifysgol ym Mangor.

"Pam yr aethom ni?" meddai wrth gael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg Chwefror 11, 2007.

"Oherwydd y paradocs rhyfeddol yma - mae'r mynachod a'r tadau yn y mynachlogydd anghysbell yma yn yr anialwch ac eto mae ganddyn nhw rhyw gysylltiad a'r byd."

Caru cymydog
Cyfeiriodd at un o'u dywediadau, gan Sant Anthony, a aeth a'i fryd:
"Bod ein bywyd a'n marwolaeth ni yn annatod glwm wrth ein cymydog. Os ydym ni'n ennill calon ein cymydog yr ydym yn ennill calon Duw ond os ydym yn anwybyddu ein cymydog yr ydym yn pechu yn erbyn Duw," meddai.

Grym gweddi
Dywed hefyd iddo ef â'r ymwelwyr eraill weld beth yw grym gweddi.
"Fe gawsom ni ryw fath o ysbrydoliaeth yng nghwmni y mynachod, y tadau a'r lleianod a'r chwiorydd [a sylweddoli] pwysigrwydd gweddi.

"Yr oedd un o'r tadau wedi dweud wrth lanc ifanc am ffoi. I ble rydw i'n ffoi? meddai yntau gan feddwl mai i'r anialwch y byddai'n ffoi ond 'Ffo i dy gell ac eistedd i lawr i fyfyrio a gweddïa a wyla dros dy bechodau dy hun a chofio am y byd ddywedwyd wrtho.

'Yr Asgwrn Glas'
"Ac fe welsom ni fod rhai o'r tadau yma a'r esgobion yn ymwybodol o'r dioddef sydd yn yr Aifft heddiw lle mae'r Coptiaid yma, y Cristnogion, yn cael cam," meddai Robin Gwyndaf.

"Yn y ddeuddegfed ganrif pan oedd Islam dros y wlad i gyd fwy neu lai roedden nhw'n arfer gwisgo croes o bren trwm, saith bwys, nes bod yr asgwrn yn dod i'r golwg ar y gwddf ac yn mynd yn ddu-las - a dyna pam roedden nhw'n galw'r Coptiaid ar un amser yn, Yr Asgwrn Glas."

Heddiw, dywed fod Cristnogion yn cael eu gwahardd rhag ymgeisio am rai swyddi a dywedodd fod plant yn cael eu cam-drin mewn ysgolion.

Cefnogi carcharor
"Ac un o'r prif resymau pam yr oedd Eleri fy mhriod a minnau yn awyddus iawn i fod ar y daith oedd am ein bod ni fel Cristnogion yn Erbyn Poenydio wedi bod yn ymgyrchu i geisio rhyddhau Cristion Coptig o'r enw William Arsal Shaiboub sydd wedi cael ei garcharu ar gam a'i boenydio - ac mae'r llywodraeth yn gwybod ei fod wedi ei garcharu ar gam ond feiddian nhw ddim mo'i ryddhau o," meddai.

Y Parchedig Roy Jenkins, Caerdydd, Eleri a Robin Gwyndaf a'r Tad Guirguis o'r Eglwys Goptaidd [Anfonwyd Shaiboub i garchar am 15 mlynedd chwe blynedd yn ôl wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth ar sail yr hyn a ddywed Cristnogion yn Erbyn Poenydio oedd yn dystiolaeth dau ddyn dan artaith sydd erbyn hyn wedi tynnu eu tystiolaeth yn ôl.]

Dywedodd Robin Gwyndaf mai bwriad eu hymweliad oedd ceisio hyrwyddo gwell cyd-ddealltwriaeth rhwng carfannau crefyddol â'i gilydd.

"Cawsom hefyd gwrdd â theulu Shaiboub a chyflwyno rhodd iddynt a chyfarchion o Gymru ac Eglwys y Tabernacl yng Nghaerdydd ," meddai.

Ychwanegodd mai'r hyn a wnaeth argraff fawr yn ystod y daith oedd ymroddiad y Cristnogion Coptig" er gwarthaf pob dioddef".

"Maen nhw, y Cristnogion Coptig, yn ysbrydoliaeth i ni i barhau i weddïo ac i weithredu ac i roi cariad Duw ar waith," meddai.

  • Ffeithiau Coptaidd




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy