BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cenhadu mewn ysgolion Cenhadu mewn ysgolion
Dweud wrth bobl ifainc am y Trawsnewid Eithaf

gwrando Rachel Milner o Trobwynt yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Chwefror 4, 2007

gwrando Geraint Rees o Ysgol Plasmawr, caerdydd, yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Chwefror 4, 2007

A hithau'n Sul Addysg bu prifathro a merch ifanc sy'n ymweld ag ysgolion i drafod ei phrofiadau crefyddol yn siarad gyda John Roberts am y diwrnod a'i thema, Y Trawsnewid Eithaf, ar Bwrw Golwg, ddydd Sul, Chwefror 4 2007.

Mae Geraint Rees yn brifathro Ysgol Plasmawr Caerdydd a Rachel Milner yn gweithio gyda'r elusen Trobwynt ym Mhen Llŷn ac Eifionydd yn ymweld ag ysgolion yn cyflwyno'r efengyl.

O dywyllwch i oleuni
Disgrifiodd Rachel 'Y Trawsnewid Eithaf'' fel newid ym mywyd pobl sy'n peri iddyn nhw fyw mewn ffordd hollol wahanol wedi hynny a dywedodd iddi hi gael y profiad hwnnw.

"Yn y Beibl mae'n sôn am newid o fyw yn y tywyllwch i fyw yn y goleuni a mynd o farwolaeth i fywyd," meddai.

"Pan oeddwn i'n fach, pan wnes i ddechrau mynd i'r capel a'r eglwys yn wyth neu naw oed, mi wnes i'r penderfyniad fy mod i eisiau adnabod Iesu Grist yn well. Fel ffrind personol i mi.

"Pan oeddwn i yn fy teenage years fe wnes i drio ffitio'i mewn efo plant a thrio ffitio'i mewn efo pob dim arall oedd yn mynd ymlaen yn yr ysgol ac fe ddaeth i'r pwynt pan ddechreuais i feddwl pam yr ydyw i'n gwneud hyn a pham ydw i eisiau bod fel nhw - achos yn y Beibl mae'n dweud ein bod ni'n wahanol ac mae Iesu Grist wedi'n dewis ni i fod yn bobl bwysig.

"Felly, mi wnes i wneud y penderfyniad yna i ofyn i Iesu Grist ddod i mywyd i ac mi wnes i weld newid eithaf mawr yn fy mywyd a'r ffordd oeddwn i'n ymddwyn ac yn ymateb yn wahanol i bethau.

Byw i Dduw
"Mi wnaeth y ffocws fynd o fyw i mi fy hun i fyw i Dduw - mi wnaeth ddod yn rhywbeth personol ac yn rhywbeth real iawn - clywed straeon am Iesu Grist a chlywed beth wnaeth ddigwydd a sylweddoli ei fod yn rhywbeth a wnaeth ddigwydd a bod y straeon yn fwy na straeon a bod y pethau yna wedi digwydd a bod Iesu Grist wedi gwneud y pethau yna er fy mwyn i," meddai.

"Does yna neb arall wedi gwneud hynny drosof, does yna neb arall wedi marw drosof a dyna pam gwnes i'r penderfyniad yna i ddilyn Iesu Grist," eglurodd.

Wrth ei gwaith gyda'r mudiad Trobwynt dywedodd ei bod yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd yn trafod o safbwynt Gristnogol faterion cymunedol, addysg bersonol a chymdeithasol.

Mae hefyd yn gwneud gwaith yn y gymuned gyda grwpiau ieuenctid.

"A thrio cael y capeli a'r eglwysi i ddod at ei gilydd i gydweithio hefyd," meddai. Rhannu profiadau
Croesawodd y cyfle i Gristnogion eraill 18 a 19 oed, rannu eu profiadau gyda phlant.

"Mae'n stori bersonol sut y cawsant y trawsnewidiad a sut mae wedi effeithio arnyn nhw," meddai.

"Maen nhw'n fwy tebyg o wrando ar rywun sy'n sôn sut y gwnaethant hwy newid a pham mae'r pethau yma wedi digwydd yn eu bywyd nhw," ychwanegodd.

"Rydw i'n gweld lot o hadau yn cael eu plannu ym mywydau plant a phobl ifainc ac maen nhw'n gofyn llawer o gwestiynau ac rydw i'n gallu gweld y trawsnewidiad yna yn dechrau," meddai.

Am y gwaith hwn dywedodd:
"Dydw i ddim yn trio brainwashio - ond yn rhoi cyfle iddyn nhw gael clywed am Iesu Grist - maen nhw yn cael clywed am grefyddau a ffyrdd eraill o fyw eu bywyd ac rydym ni yn rhoi opsiwn arall iddyn nhw a dangos sut mae hynny wedi effeithio ar fy mywyd i," meddai

Yr hawl i wneud
Wrth ymateb i sylw ynglŷn â hawl Cristnogion i ddweud fod bywyd pobl yn arwynebol o gymharu â bywyd y Cristion dywedodd:

"O fy mhrofiad i gyda phobl ifainc maen nhw'n cael eu dylanwadu gan bapurau newydd ac maen nhw eisiau byw bywyd fel y selebritis.

"Dydw i ddim yn dweud fod hynny yn beth rong ond rydw i wedi gweld o fy mhrofiad i, pan fod y bobl ifanc yma yn cael y ffigyrs perffaith, yn cael y gwallt neu yn cael y cariad dydi o ddim yn llenwi'u bywyd nhw fel roedden nhw'n meddwl . . ."

"Os ydych chi'n hapus fel'na mae o'n iawn ond o fy mhrofiad i dydw i ddim yn meddwl fod y bobl ifainc sy'n cael y pethau yna yn hapus go iawn ac maen nhw eisiau rhywbeth arall," meddai.

  • I wrando ar sylwadau Geraint Rees ewch i sop y ddalen.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy