John Roberts yn holi y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts ar Bwrw Golwg, Ionawr 7, 2007
Y mae sefydlogrwydd cymdeithas yn dibynnu ar briodasau yn ôl gweinidog yn siarad ar Bwrw Golwg.
Ond er mor bwysig yw'r syniad o briodas yng ngolwg yr Eglwys dywedodd y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts na fyddai ef byth yn gwrthod bedyddio plentyn a anwyd y tu allan i briodas.
'Eithaf brawychus' Yr oedd Mr Roberts, a fu'n brifathro y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth, yn ymateb i ystadegau a gyhoeddwyd yn dweud fod 52 y cant o fabanod yng Nghymru yn cael eu geni y tu allan i briodas - o gymharu a 42% yng ngweddill Prydain.
Disgrifiodd yr ystadegau fel rhai "eithaf brawychus" mewn perthynas â Chymru.
Ac ychwanegodd fod y ffigurau yn amrywio o le i le ac yn uwch o lawer mewn rhai ardaloedd fel Wrecsam lle y mae o yn byw.
"Dau blentyn allan o bo tri bellach yn cael eu geni y tu allan i briodas," meddai am yr ardal honno.
Dywedodd fod hyn yn adlewyrchiad o'r ffaith fod llawer o bobl yn amharod i ymrwymo i unrhyw beth erbyn hyn.
Mater o ymrwymiad "Rydym yn yw mewn oes ôl fodernaidd lle mae'r syniad yma o ymrwymo i unrhyw beth ac o ymrwymo i'n gilydd yn llacio ac rydw i'n meddwl fod hynny'n beth peryglus."
Cytunodd ar yr un pryd y gall cytuno i gydfyw heb ymbriodi fod yn ymrwymiad hefyd:
"Rydym ni'n gwybod yn iawn am sefyllfaoedd lle mae parau dibriod sydd wedi bod efo'i gilydd ers blynyddoedd mewn perthynas hapus, sefydlog ac wedi magu plant yn llwyddiannus a lle mae yna bartneriaeth sefydlog hapus does yna ddim rheswm yn y byd pam nad ydi plant yn ffynnu," meddai.
Ar eu pen eu hunain Ond ychwanegodd: "O safbwynt crefyddol mi hoffwn i weld pobl yn priodi ond, wedi dweud hynny - ac mae hwn yn ond mawr - y gwir ydi fod y mwyafrif o ferched ifainc beichiog, dibriod, yn cael eu hunain ar bennau'u hunain.
"Y dystiolaeth ydw i'n glywed ydi bod mwy a mwy o famau ifainc heb neb i'w helpu nhw a dyna'r sefyllfa lle mae'r mwyafrif yn y cwestiwn."
Yr Eglwys wedi callio Ond yn y sefyllfa hon dywedodd nad lle'r eglwys yw beirniadu fel ag y bu yn y gorffennol ond cynnig cymorth a chynhaliaeth.
"Rwy'n gobeithio ein bod wedi callio," meddai..
"Erbyn heddiw mae yna lawer iawn o grwpiau cynghori, grwpiau mam a'i phlentyn mewn llawer iawn o eglwysi, grwpiau gwirfoddol i'w helpu nhw.
"Fuaswn i byth, byth, yn gwrthod derbyn rhiant dibriod er enghraifft na rhieni sengl a fuaswen i byth, byth, yn gwrthod bedyddio plant beth bynnag eu cefndir a'u hamgylchiadau nhw. Dwi rioed wedi gwneud. Dydw i ddim yn meddwl mai lle i gondemnio ydi hyn - mae'n rhaid inni geisio deall beth sy'n digwydd.
Yn gysygredig "Ond ar yr un pryd rhan o'n tystiolaeth Gristnogol ni ydi dweud fod priodas yn bwysig ac yn gysegredig er bod priodas yn methu yn aml iawn, iawn, ond dyna ydi'r ddelfryd."
"Yr ydw i'n credu fod sefydlogrwydd cymdeithas yn dibynnu yn y bôn ar y math o ymrwymiad sydd yn cael ei fynegi trwy gyfamod priodas er, fel yr ydw i'n cydnabod, dydi hynny ddim bob amser yn gweithio."
 |