 |
Cyhoeddi'r efengyl Gristnogol mewn ffordd dynerach, llai ymosodol, yw un o'r amcanion y tu ôl i wŷl gelfyddydol ym Mhorthmadog rhwng Hydref 14 a Hydref 22, 2006.
Yn cael ei disgrifio fel gŵyl "ysbrydoledd a chelfyddyd" dywedodd un o'r trefnwyr, y dramodydd Aled Jones Williams, sy'n rheithor yn y dref, y bydd y neges Gristnogol yn cael ei chyhoeddi mewn ffordd na fydd yn dychryn pobl.
Troi pobl i ffwrdd Yn cael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg fore Sul, Hydref 15, dywedodd:
"Rwy'n meddwl bod yna rywbeth, efallai, am gyhoeddi'r efengyl heddiw neu gyhoeddi crefydd ,sydd efallai yn ymosodol a bod hwnnw wedyn yn troi pobl i ffwrdd. Mae hwn hwyrach yn dynerach, gobeithio, ac yn fwy o wahoddiad," meddai.
"Dydi o ddim yn gyhoeddi ymosodol mae o'n fwy o awgrymu i bobl, Yn fwy o wahoddiad na chyhoeddi; gwahodd i brofi rhywbeth [a dweud], 'Drychwch ar hwn, agorwch eich meddwl'," ychwanegodd.
Mae'r ŵyl, meddai, yn cynnig amrywiaeth o bethau sydd wedi eu hanelu at bobl nadydynt yn cysylltu yn naturiol efo na chapel nac eglwys.
"Felly mae yna bethau sydd ar y cyrion fel gweithdy celf yn edrych ar stori Blodeuwedd a beth sydd gan y stori honno i'w gynnig i bobl heddiw [ac i'w ddweud am y] cyflwr dynol," meddai.
Capeli yn apelio llai Cytunodd y gallai rhai o'r gweithgareddau fynd a phobl i fyd "amwys" iawn a hynny o fwriad.
"Dwi'n ymwybodol o ddau beth; mae beth mae'r eglwysi a'r capeli yn ei gynnig ar hyn o bryd yn apelio i lai ac i lai o bobl a does gen i ddim unrhyw dystiolaeth fod hwnna yn mynd i gynyddu mewn unrhyw fodd ac hefyd bod yna rywbeth yn y gymdeithas lle mae pobl yn cydio i'r gair niwlog, amwys, yma -ysbrydoledd," ychwanegodd.
Agor drws "Felly, trio mynd rhwng y ddau beth yna a chynnig rhywbeth a allai apelio ac agor y drws ysbrydol [ydym ni]," meddai.
Pwysleisiodd bwysigrwydd cael gafael ar bobl nad ydynt yn mynd i gapel ac eglwys:
"Mae'n ymddangos i mi os nad ydych chi'n mynd i gapel neu eglwys mai'r dewis arall ydi 'dim byd' a dydi hynny ddim yn wir.
"A bod yna falle, ym meddwl pobl; fod y crefyddol a'r ysbrydol yn golygu capel neu eglwys ond dydi hynny ddim cweit yn dilyn mae o'n eangach na hynny.
"Felly rhoi ar ddeall, 'Drychwch ar hwn , trïwch hwn, blaswch hwn,' ac efallai i rywbeth ddeffro mewn pobl sydd efallai wedi mynd i hepian. Dyna'r syniad."
Y Cymry Cymraeg Cydnabyddodd, wrth droi at fyd celfyddyd fod peryg i fod yn uchel ael ac o gael y cyhuddiad o fod a dim i'w wneud a'r byd go iawn
.
"Ond wedi dweud hynny, rydw i eisiau trio apelio at y Cymry Cymraeg achos dwi'n meddwl yn fanno bod yna rywbeth echrydus yn digwydd yn ysbrydol a dweud y gwir ac felly stori Blodeuwedd - sydd yn cael ei chyfrif fel rhywbeth llenyddol, ond y mae mwy iddi na hynny oherwydd mae hi'n dweud pethau am y cyflwr dynol
"Felly a ydi o'n bosib tynnu pobl i mewn drwy ddefnyddio y stori yna a defnyddio celf achos mae'r arlunydd Maria Hayes yn mynd i weithio efo ni," meddai.
Rhaglen Prifio
Hydref 14-22, 2006
Prifio! Tyfu! Aeddfedu! Dyna beth ydy ysbrydoledd. Ac y mae ysbrydoledd yn rhan o fywyd pawb - y crefyddol a'r digrefydd fel ei gilydd.
Prifio i lawnder ein bywydau. Canfod y pethau sy'n bwysig i ni. Felly, dyma wythnos o brifio! Mae yma amrywiaeth o bethau, dowch i bopeth neu dewiswch be' sy'n apelio atoch chi!
14/10/06: Catherine Aran yn llyfrgell Porthmadog yn 'sgwennu stori sy'n tyfu...' gyda phlant 8+ oed. (Cyfrwng Cymraeg)
10:00am - 12:00pm
15/10/06: Gwasanaeth wedi ei lunio'n arbennig ar gyfer y rhai sy'n dysgu Cymraeg.
Dim byd rhy sych na difrifol! Eglwys Pentrefelin Church
3:00pm Manylion pellach - 01766 523192
17110/06: Gwasanaeth ar ffurf Taize yn Eglwys loan, Porthmadog Pentref bach yn Burgundy, Ffrainc yw Taize, ac yno yn y ganrif ddiwethaf y sefydlodd Roger Schutz gymuned ecwmenaidd sy'n enwog am ei ffordd unigryw o addoli sy'n gyfuniad o siantiau hyfryd a myfyrdod dawel. Mae rhyddid i fynd a dod fel y mynnoch yn ystod y gwasanaeth.
7:00-9:00pm
18/10/06:
Darlith gan y Parchg.Athro Gareth Lloyd Jones. Personalities of the Passion. Looking at some of the people involved in Jesus' death. Eglwys Ioan, Porthmadog. 7:00pm
19/10/06: Dr. A. Niesser: "Ffordd wahanol o edrych ar ddamhegion / A different way of looking at the parables.
Eglwys Ioan Porthmadog. 8:00pm
20/10/06:
Gweithdy Celf gyda Maria Hayes yn Gelli Faia, Ffordd Borth, Porthmadog. Dewch i gael eich tywys, drwy Iygaid Blodeuwedd, y ferch a grëwyd o flodau, i chwilio am debygrwydd rhyngom ni â hi! Nifer cyfyngedig, 15-18. Nid oes angen sgiliau arlunio. 01766 514951. 7:00-9:30pm Cost: £5 (Cyfrwng Cymraeg)
21/10/06:
Noson yng nghwmni'r gantores Lleuwen Steffan ac Aled Jones Williams yn darllen o'i waith. Eglwys Ioan. £5. 7 :30pm
22/10/06: Gwasanaeth arbennig i ddathlu priodasau a bedydd yn Eglwys Ioan. 3:00pm.
 |
 |