Mewn llyfr sy'n cael ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2007 mae ysgolhaig yn mynd i'r afael a'r berthynas rhwng crefydd a chymdeithas a dylanwad y naill ar y llall.
Mae Robert Pope, Uwch Ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth Gyfoes a Chymhwysol ym Mhrifysgol Bangor, yn ymdrin a phynciau fel yr ymosodiad ar Ganolfan fasnach y Byd yn Efrog Newydd mewn cyd-destun crefyddol ac hefyd y berthynas rhwng Cristnogaeth a Chrefyddau eraill a'r berthynas rhwng ffydd a gwleidyddiaeth.
Bu'n sôn am ei lyfr, Lloffion Ym Maes Crefydd: Ysgrifau ar Grefydd yn y Byd Cyfoes, wrth John Roberts ar Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, Gorffennaf 15, 2007.
Robert Pope yn cael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, Gorffennaf 15, 2007.
Dywedodd Robert Pope mai un o'r pethau diddorol am gymdeithas heddiw yw bod cymaint o ddiddordeb mewn ysbrydolrwydd.
Ond codwyd y cwestiwn ai rhywbeth sy'n berthnasol i unigolyn ynteu i gasgliad o bobl.
I'r unigolyn? "Mae ysbrydolrwydd wedi cael ei ddehongli fel rhywbeth ar gyfer yr unigolyn yn unig a'r cwestiwn sy'n cael ei ofn yn y llyfr hwn yw: 'A ydi ysbrydolrwydd, os yw'n air sy'n addas ar gyfer Cristnogaeth, yn rhywbeth unigol personol yn unig yng ngoleuni yr efengyl Gristnogol?', meddai.
"Mae yna duedd [i feddwl] mai'r unigolyn yw'r unig beth sy'n cyfrif ac mae yna draddodiad hir mewn athroniaeth, wrth gwrs, sydd yn mynd yn ôl at Descartes, sy'n gweld yr hunan meddyliol fel canolbwynt y bydysawd.
"Felly mae'r syniad yma o unigolyn yn un sy'n ddwfn yn ein seicoleg ni erbyn hyn ond mae eisiau gofyn y cwestiwn ai dyna ydi'r ffordd i ddehongli yr efengyl Gristnogol . . .," meddai.
Pobl gyda'i gilydd Ychwanegodd Mr Pope fod tystiolaeth yn mynd yn ôl i ddyddiau y Testament Newydd sy'n dangos yr efengyl fel rhywbeth sy'n cael ei ymarfer gan 'eglwys' lle mae unigolion yn dod at ei gilydd dan amgylchiadau sy'n golygu nad yw addoli yn rhywbeth "sy'n rhoi dihangfa i unigolyn".
"Ond yn rhywbeth y mae corff yr Eglwys yn ei wneud yn gytun," meddai.
Dywed ei fod yn dangos hefyd yn ei lyfr fod "anawsterau" yn y ffordd y mae pobl yn arddangos eu cred.
"Yn yr ystyr fod ffordd o ymarfer crefydd yn awgrymu fod yn rhaid i bawb arall gytuno gyda'r union un daliadau ag sydd gennych chi [eich hun]," meddai.
"Ac rydym yn gweld problemau yn y byd ar hyn o bryd mewn sawl crefydd gan gynnwys Cristnogaeth lle mae rhai carfannau yn ceisio dylanwadu ar wleidyddiaeth er mwyn . . . sicrhau eu bod yn cael eu ffordd eu hunain ac yn cael pobl eraill i feddwl yn yr un ffordd," meddai.
Crefydd a gwleidyddiaeth
"Wedi dweud hynny, mae gwleidyddiaeth i fod yn gylch lle mae pobl yn trafod a thrin egwyddorion sy'n cael eu bwydo gan nifer o ddylanwadau ac un o'r pethau yr ydw i'n eu codi yn y llyfr yw i ba raddau y dylai egwyddorion crefyddol Cristnogol gael eu defnyddio i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn ymarfer ein gwleidyddiaeth ac yr ydym ni'n ffeinidio ein cymdeithas," meddai.
Dywedodd John Roberts mai'r hyn sy'n sefyll allan yn y gyfrol yw fod yr awdur "yn gweld ffydd yn berthnasol ym mhob maes".
Grym y gweledol Ac meddai Mr Pope:
"Rwy'n cofio rhywun yn dweud wrthyf i mai ystyr diwinyddiaeth oedd sôn am bopeth o safbwynt arbennig - ac rwy'n golygu yn llythrennol bob beth.
"A dyna pam mae yna bennod ar ffilm a theledu [yn y llyfr] a'r ffordd y mae'r gweledol wedi dod mor bwysig yn ein cymdeithas - ond hefyd i ystyried peryglon y gweledol yn ein cymdeithas," meddai.
Ac er bod y gweledol yn rhywbeth sy'n mynd yn ôl i ddyddiau cynnar, cynnar, Cristnogaeth dywedodd;
"Mae yna rywbeth yn wahanol [heddiw] yn y ffaith ein bod yn medru edrych ar luniau sydd yn symud ac yn dod atom ni yn fyw."
Ac o fewn y cyd-destun hwn dywedodd am yr ymosodiad ar Ganolfan Fasnach y Byd dywedodd:
"Yr hyn oedd yn gwneud i'r digwyddiad yna aros yn y cof oedd ein bod yn gallu gweld y peth yn digwydd ac un o'r pethau sy'n rhaid ceisio'i wneud wrth sôn am y pethau sy'n digwydd yn ein byd a'r hyn sy'n digwydd yn ein cymdeithas ydi ceisio gweld sut mae ein crefydd a'n diwinyddiaeth - a'r pethau sydd yn ymwneud â bywyd yn ei gyfanswm - yn cael eu heffeithio ganddynt ac sydd yn medru cael effaith ar yr hyn sy'n digwydd yn y byd ehangach," meddai.
 |