BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Gŵyl yr Hanner Piser
70 miliwn yn ymdrochi yn yr afon sanctaidd

gwrando Cliciwch i glywed Ann Gruffydd yn siarad gyda
John Roberts ar Bwrw Golwg, Ionawr 7, 2007

Bydd 70 miliwn o bobl yn ymdrochi yn afon Ganges yn yr India yn ystod un o wyliau mawr yr Hindŵiaid.

Mae Gŵyl yr Hanner Piser sy'n cael ei chynnal bob chwe blynedd - o gymharu â Gŵyl y Piser sy'n cael ei chynnal bob deuddeng mlynedd.

Holodd Bwrw Golwg Ann Gruffydd sy'n byw yn Deli, lle mae ei gŵr yn gweithio gydag elusen Americanaidd, beth yn union sy'n cael ei ddathlu.

Dywedodd fod yr ŵyl yn seiliedig ar stori mewn mytholeg Hindŵaidd am bedwar diferyn o ddŵr yn cael eu colli o jwg pan fu ymladd rhwng Visnu a duw arall a'r rheini yn glanio mewn lle sanctaidd sy'n cynnwys y fan lle mae'r ŵyl yn cael ei chynnal.

"Mae'r amser yn cael ei benderfynu yn ôl sut y mae'r haul a'r sêr, y lleuad a phopeth yn cydgyfarfod," meddai Ann Gruffydd.

Mwy na phoblogaeth Prydain
"Mae'n anodd credu y bydd mwy na phoblogaeth Prydain i gyd yn cyfarfod yn yr un ardal yma - pe byddwn i'n dal i fod yn Aberystwyth fe fyddwn i'n meddwl ei fod yn amhosibl ond ar ôl bod yn byw yn yr India am bedair blynedd a hanner dydw i ddim yn meddwl ei fod yn amhosibl," ychwanegodd.

Dywedodd y cred yr Hindŵiaid fod nofio yn y Ganges yn help iddynt sicrhau y bydd eu bywyd nesaf yn un gwell.

Ond ychwanegodd nad ydynt yn ystyried y golchi fel ffordd o olchi pechodau fel y byddai'r Cristion.

"Mae o'n fwy o fod rhywun yn gwneud y pethau iawn ac y bydd y Karma yn well y tro nesaf," meddai.

Hynod grefyddol
Beth bynnag eu cred dywedodd Ann fod yr Indiaid yn bobl grefyddol iawn.

"Dydw i ddim yn cyfarfod pobl yma sydd â dim ffydd o gwbl fel mae rhywun yn gyfarfod adref ac mae traddodiad yn rhan bwysig iawn," meddai.

"Ac mae bywyd mor anodd i bobl fe wna'n nhw unrhyw beth i sicrhau fod bywyd yn well iddyn nhw yn y bywyd nesaf. Efallai bod hynna dipyn bach yn sinigaidd mewn ffordd ond rwy'n meddwl bod yna elfen o hynna ac mae cannoedd os nad miloedd o flynyddoedd o draddodiad y tu ôl i hwn," meddai.

Yr afon
Dywedodd mai un peth yr oedd hi'n ei gael yn anodd oedd gweld y fath gymysgedd o draddodiadau gan gynnwys pethau newydd a modern.

Fe'i rhyfeddwyd hefyd gan gyflwr yr afon ei hun.

"O feddwl bod y Ganges yn anfon mor gysegredig i bobl; ei bod hi mor fudr . . . ond maen nhw'n dadlau ei bod mor gysegredig nad ydi hi yn fudr o gwbl mai ni sy'n gweld budreddi."

  • Cliciwch uchod i wrando ar sgwrs Ann yn llawn.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy