 |
 |
 |
Pennar Davies Ei weledigaeth Gristnogol yn ganolog i'w weithgaredd cymdeithasol a gwleidyddol |
 |
 |
 |
Disgrifiwyd y diweddar Pennar Davies fel bardd a llenor yr oedd ei ffydd Gristnogol yn ganolog i'w holl weithgaredd.
Wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg dywedodd Denzil Morgan - a fu'n traethu yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar gyfraniad Pennar Davies - fod ei ffydd "yn gwbl sylfaenol" i bopeth yr oedd yn ei wneud.
"Yn gwbl, gwbl sylfaenol," meddai. "Roedd yn amhosib gwahanu ei ffydd oddi wrth ei wleidyddiaeth, oddi wrth ei ddealltwriaeth ynghylch bywyd."
Disgrifiodd Pennar Davies fel ffigwr cyhoeddus pwysig yn y Chwedegau a'r Saithdegau.
"Iddo ef, agweddau o'r un peth oedd ei weithgaredd cymdeithasol a gwleidyddol o'r weledigaeth neilltuol Gristnogol oedd ganddo.
Y cerddi "Bues yn sôn y bore ma [yn y Babell Lên] am ei gerddi - maen nhw'n gerddi llawn afiaith ; mae yna themâu crefyddol sy'n rhedeg trwyddyn nhw hyd yn oed wrth sôn am bethau bob dydd - serch, cymdeithas y dyfodol.
"Yr oedd e'n ymwneud a phethau bob dydd yng ngoleuni'r weledigaeth oedd ganddo ynghylch dyfodiad y Deyrnas.
"Ac fe allwn fod wedi dweud yr un peth am ei nofelau ac ynglŷn â'i storiâu byrion," meddai.
Ei Gymru Ychwanegodd fod y ffordd yr oedd yn edrych ar Gymru a'r genedl hefyd dan ddylanwad ei ffydd.
"Rydych chi'n gweld hynny yn ei gerdd gynnar i Gwynfor Evans. Rydych chi'n gweld hynny yn y soned odidog yna: O Gymru rhaid bod y nef yn lân os yw'n rhagori ar dy lendid di.
Bod yn obeithiol Cyfeiriodd hefyd sut y gwahaniaethai gweledigaeth Pennar Davies oddi wrth weledigaeth beirdd eraill.
"Mae Cymru wedi bod yn thema mewn barddoniaeth Gymraeg ar hyd y ganrif - gyda Gwenallt er enghraifft - ond yn Pennar mae'n rhywbeth mwy gobeithiol, mwy optimistig - mwy difyrrus o bosibl - a dwi'n credu ei fod yn gyfraniad o bwys.
"Yr oedd e'n benderfynol o greu Cymru well. Gallwch ddweud ar y naill law fod hynny'n naïf, yn iwtopaidd, ond yr oedd yr iwtopaeth oedd ganddo ynghlwm wrth rym penderfyniad a rhyw fath o 'real-politik' yn ogystal.
"Ac, yn wir, fe gafodd e fflachiadau o'r cyflawni yn rhai o'r pethau a ddigwyddodd.
"Petai wedi cael byw i weld Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain - sydd yn fwy seciwlaraidd yn sicr - gyda Chymru ar seiliau sicrach nag y bu yn ei gyfnod ef byddai'n gweld bod yna ryw fath o gyflawni i'r weledigaeth a gafodd e."
Yn unigryw Dywedodd fod Pennar Davies nid yn unig yn anarferol fel bardd ond yn unigryw.
"Un Pennar oedd. "Chreodd e ddim ysgol. " Doedd e ddim yn perthyn i ysgol. "Yr oedd rhywbeth yn unigolyddol ynglŷn â'i awen. "Y gymysgedd o optimistiaeth, o hyder, o ddifyrrwch. Hefyd ymrwymiad moesol o ddifri - yr oedd y cyfuniad yna yn lled anarferol.
.
Athrawiaethau Beiblaidd yn ganolog "Mae rhai wedi ei gyffelybu i Waldo ac yr oedd e o ran ei ddelfrydiaeth yn debyg i Waldo ond fe fedrwch chi ddweud hefyd ei fod e'n debycach i Gwenallt yn yr ystyr bod yr athrawiaethau Beiblaidd yn fwy canolog yn ei waith ef.
"Felly yr oedd ei fynegiant yn lled unigryw , yr oedd e'n anarferol o ran hynny.
"Ond peth arall anarferol oedd fod ei weithredu politicaidd, ei weithredu ymarferol, ynghlwm wrth ei lenyddiaeth. Doedd e ddim yn gallu gwahanu ei ffydd i lenyddiaeth a'i raglen waith ar gyfer creu byd gwell.
"Mae'n swnio'n naïf ac iwtopaidd ond eto i gyd mae yna rywbeth heriol i bob cenhedlaeth yn hynny," meddai.
Cliciwch i ddarllen am Pennar Davies
Cliciwch i ddarllen adolygiad o lyfr Densil Morgan am Pennar Davies
Gweler Gwales Cliciwch
 |
 |
 |
 |
|
|