 |
Ar gyfer ei ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gwahododd OXFAM nifer o feirdd Cymraeg blaenllaw i sgrifennu cerddi yn arbennig ar gyfer y mudiad.
Dywedodd Gwenllian Griffiths o OXFAM i'r syniad godi wedi iddi hi glywed cwpled i OXFAM gan Huw Meirion Edwards ar Y Talwrn, BBC Radio Cymru.
Rhowch eiliad i ymadael
 cheiniog o'ch cyflog hael.
"Pan glywais i hwnna roeddwn i'n meddwl ei fod yn ffantastig - yn rhywbeth newydd a gwahanol i gyfathrebu ein neges," meddai wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg fore Sul, Awst 13, 2006.
"Fe wnaetho ni gysylltu ag wyth o feirdd ac rwy'n falch o ddweud iddyn nhw i gyd ymateb yn gadarnhaol.
"Gawsom ni gymaint o ymateb da fe fu'n rhaid creu dau sesiwn [yn yr Eisteddfod]," meddai.
Dywedodd hefyd y bydd y cerddi yn cael eu cyhoeddi ar wefan OXFAM a'u hafon i'r wasg fel bo cymaint â phosibl o bobl yn cael eu darllen.
Dyma rai o'r cerddi a dderbyniwyd gan OXFAM:
Haf a thaflegrau
Daeth eto haf o gamgymeriadau,
haf o daflegrau'n pelydru o'r haul
i ddallu'r byd gyda'u gwres gormesol.
Daeth eto haf o ffoaduriaid,
a golau'r pelydrau'r nos
yn siglo seiliau'r lloches.
Gwyn ein byd ni yma,
mi allwn ni dynnu'r bleinds,
cau'r llenni,
gostwng yr het a chodi'r aviators,
mynd i eistedd yng nghornel gysgodol yr ardd.....
a newid y sianel.
Rhyw losg dros dro ar war cydwybod
yw'r penawdau,
buan y'i leddfir gan eli'r
barbeciws a'r seidir a'r wythnos
mewn pentref wrth y môr.
Gwyn ein byd yn ein cysgod tawel, anghofus,
yn sipian seidir yr haf crasboeth,
a gwyn ein byd fod rhai
yn fodlon mynd i lygad yr haul
i gynnig eu hunain yn gysgod.
Hywel Griffiths
Y Geiniog Hon
Gwn y cei y geiniog hon
I ddileu dy ddyledion.
Cei fy ngheiniog oriog i,
Un geiniog gwerth ei chynnig.
Taflwn bunt o flaen y byd.
Rwyf eisiau rhoi fy siâr hefyd;
Un geiniog euog ar goedd,
Un geiniog all droi'n gannoedd
Eurig Salisbury.
Bydd nodau Hydref eleni
a'u llond o negeseuon
Cwaferi duon, bychain bach
a'u nofio'n ddrygionus
at dy glustiau di
Nodau gitar, nodau'r bas a nodau piano - rhai allan o diwn Nodau o hwyl Nodau ymhlith ffrindiau Gigs a chyngherddau ac un boi yn ware'i drombôn ar ei ben ei hun ar gornel stryd Nodau fydd wedi eu mwydo mewn cwrw, ond nodau fydd yn fwy na thwrw yn unig, am orig, Nodau fydd yn cludo neges ar eu cynffonau bychain bach - neges o angen.
Nodau fydd yn canu mai cenhedlaeth ryfedd yw cenhedlaeth sy'n anwybyddu cri ei frawd.
Catrin Dafydd.
Gwefan OXFAM
Holi Eurig Salisbury
 |
 |