 |
Gyda'r Gwrthdaro rhwng Israel a Hezbollah a charfannau o Hamas yn gwaethygu yn y Dwyrain Canol bu John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, yn holi Cristion o Beirut, Michel Nseir, Ysgrifennydd y Dwyrain Canol i Gyngor Eglwysi y Byd, am yr hyn sy'n digwydd i'w ddinas ac i'w wlad. A hynny ar ddiwedd wythnos pryd y lladdwyd o leiaf 350 o bobl Libanus a 34 o Israeliaid yn dilyn tanio gynnau mawr a bomio gan Israel a thanio rocedi gan Hezbollah.
Michel Nseir: Mae'r sefyllfa yn eithaf yng nghanol Beirut erbyn hyn, o'i gymharu a rhannau o dde'r ddinas a de Libanus.
Nid fod hynny yn golygu ein bod yn teimlo'n sâff, ddeuddydd yn ôl roedd magnelau'r llongau Israelaidd yn tanio atom ni - ond rhaid cofio fod ganddo ni o leiaf bum can mil o ffoaduriaid yn Beirut, felly y mae'r awyrgylch yn y ddinas yn un o ddychryn ac ofn.
John Roberts: I ba raddau y mae'r bomio sydd wedi digwydd a'r tanio sydd wedi bod ar Libanus wedi newid agwedd pobl tuag at Hezbollah?
Michel Nseir: Yn wyneb y difrod, a'r ofn dychrynllyd y mae'r ymosodiadau yn ei achosi yr argraff gyntaf sydd gen i yw fod pobl yn uniaethu mwy efo Hezzbolah.
Mae pobl yn teimlo fod y gosb wedi ei anelu atom ni i gyd, nid at y militia yn unig.
Yn ychwanegol at hynny y mae Hezzbolah yn cynrychioli tri deg i bedwar deg y cant o'r boblogaeth yn y Libanus. Mae nhw yn perthyn i boblogaeth Libanus, a'n teimlad cyntaf ni yn enwedig fel Cristnogion yw i uniaethu efo'r rhai sydd yn dioddef. Libanus sydd yn dioddef fan hyn, nid y militia.
John Roberts: Fel Cristnogion sut ydych chi'n teimlo ynghylch gwledydd Cristnogol ymatal eu cefnogaeth i rwystro'r ymladd?
Michel Nseir: Wn i ddim a allech chi ddisgrifio yr Unol Daleithiau na gwledydd Ewrop fel gwledydd Cristnogol yn ystyr fanwl y gair ond fe wyddom ni un peth yn sicr, fod yr eglwysi sydd yn aelodau o Gyngor Eglwysi'r Byd yn uniaethu efo ni.
Fe wyddom hynny oherwydd datganiadau'r Cyngor ac oherwydd apêl Cyngor Eglwysi'r Byd ar i eglwysi roi cymorth elusennol i bobl Libanus, ond yn bennaf fe'i teimlwn drwy weddïau'r cymunedau Cristnogol drwy'r byd, a'r ffordd y maent yn pwyso ar lywodraethau am heddwch cyfiawn yma yn Libanus, i'r Palestiniaid, yn Irac ac yn Affganistan. A thrwy hynny yr ydym yn dal i obeithio am heddwch.
Yn dilyn y sgwrs hon holodd John Roberts Gwion Lewis, arbenigwr ar gyfraith ryngwladol, ac awdur erthyglau Gwylio'r Byd yn adran Tramor BBC Cymru'r Byd.
John Roberts: Gadewch inni ddechrau gyda'r gyfraith ryngwladol - lle mae Israel yn sefyll o fewn cyfraith rhyngwladol yn hyn o beth?
Gwion Lewis: Rwy'n sicr fy marn fod Israel wedi torri'r gyfraith ryngwladol wrth ymosod ar Libanus fel y gwnaeth hi yr wythnos yma.
Mae'r gyfraith yn glir - yr oedd gan Israel yr hawl i ymosod ar Libanus os oedd hynny yn angenrheidiol iddi amddiffyn ei hun.
Yn un peth mae'n amheus iawn gen i a fuasai unrhyw lys rhyngwladol yn cytuno fod herwgipio dau o filwyr yn unig, sef beth wnaeth Hezbollah, yn ddigon i gyfiawnhau unrhyw fath o ymateb milwrol.
Ond [hyd yn oed] pe byddai Israel yn pasio'r prawf hwnnw fedrai ddim gweld unrhyw farnwr yn cytuno fod ymateb mewn ffordd mor eithafol ac y gwnaeth Israel -yn enwedig yr wythnos hon - yn angenrheidiol dan yr amgylchiadau.
Mae yna 350 o bobl gyffredin Libanus wedi cael eu lladd yn barod ac y mae'r nifer hwnnw yn dal i godi y bore 'ma..
Mae'r ymosodiad honedig yma ar Hezbollah wedi troi yn ymosodiad ar wlad gyfan.
Dydw i ddim yn gweld sut y gall Israel gyfiawnhau hynny nid yn unig yn gyfreithiol, ond yn foesol hefyd.
John Roberts: Ond yr un pryd mae Hezbollah hefyd yn tanio rocedi tuag at ddinasoedd yn Israel? Mae'n rhaid i Israel fedru amddiffyn ei hun?
Gwion Lewis: Mae'n rhaid i Israel fedru amddiffyn ei hun, yn sicr. Ni fyddai neb rhesymol yn dadlau yn erbyn hynny ond mae yna reolau caeth ar gyfer sut y mae rhywun yn ymateb i sefyllfaoedd fel hyn pa fo nhw'n codi yn y gyfraith ryngwladol.
Rhaid i'r ffordd y mae rhywun yn ymateb fod yn gymesur a'r her y mae gwlad yn ei wynebu ac yn anffodus yn yr achlysur yma rydw i'n credu ein bod ni wedi gweld, heb unrhyw os o gwbl, fod Israel wedi gor-ymateb.
John Roberts: Un peth ydi dweud hynny - pwy all weithredu unrhyw beth ynghylch y peth? Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi gofyn am atal y tanio ond mae rhai fel yr Unol Daleithiau a Phrydain yn gyndyn iawn, iawn, i gefnogi'r syniad hwnnw.
Gwion Lewis: Yr hyn sy'n dristwch mawr yw fod hyn wedi digwydd lai na blwyddyn ers i'r cenhedloedd ddod at ei gilydd mewn stafell fawr a chytuno ar ddatganiad oedd yn dweud fod ganddyn nhw i gyd, fel gwledydd y byd, gyfrifoldeb i amddiffyn pobl gyffredin sy'n cael eu dal yng nghanol ymladd milwrol.
Yr oedd yna gynrychiolwyr o Brydain ac America yn y cyfarfod hwnnw a chynrychiolwyr o sawl gwlad Gristnogol honedig ac yr oeddent hwythau i gyd yn cytuno fod yn rhaid i'r egwyddor yma fod yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol.
Dyma ddwy wlad, Prydain ac America, sydd gyda dylanwad mawr aruthrol - ac os oes yna rywun a allai ddal Israel yn ôl yna Prydain ac America, yn enwedig America, ydi'r gwledydd hynny. Ond nid dyna ydym ni'n weld. Dydi Blair na Bush ddim wedi dangos unrhyw barodrwydd o gwbl i feirniadu Israel ac rwy'n meddwl fod yn rhaid i rywun ofyn a yw hynny yn dderbyniol yn foesol o ystyried fod yna gynifer o bobl gyffredin wedi cael eu lladd.
John Roberts: Ai cysgod y rhyfel yn erbyn terfysgaeth ydi hyn? Fedra nhw ddim gwneud hynny ychwaith na fedran?
Gwion Lewis: Cysgod y rhyfel yn erbyn terfysgaeth, yn sicr. Mae Prydain wedi cael ei dal, rwy'n credu, oherwydd ei bod hi wedi cefnogi'r ymosodiad ar Irac, wedi cefnogi'r ymosodiad ae Affganistan ac mae cwestiwn mawr i'w ofyn ynglŷn â swyddogaeth y Cenhedloedd Unedig hefyd gan ei bod yn siom i lawer yn y mudiad hawliau dynol fod yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan, wedi oedi cymaint cyn gwneud unrhyw ddatganiad ar y sefyllfa.
Ddywedodd o ddim byd o bwys am naw diwrnod ac mae hynny yn arwydd o'r dylanwad mawr sydd gan yr America y tu ôl i'r llenni o fewn y sefydliad hwnnw.
Yn sicr mae yna lawer yn y byd Moslemaidd ac Arabaidd wedi colli parch tuag at y Cenhedloedd Unedig yng nghanol hyn i gyd.
Rhaid inni gofio mai dyma'r corff sy'n marchnata ei hun i'r byd fel y ganolfan ar gyfer gwasanaethau dyngarol ond fe gawsom ni y neges fwyaf rhyfeddol gan ddirprwy Kofi Annan yn Libanus ddechrau'r wythnos pan gytunodd o efo Israel nad oedd yn bosibl cael cadoediad eto oherwydd nad oedd y sefyllfa, yn ei eiriau o, wedi datblygu yn ddigonol.
Wel, beth bynnag oedd y datblygiadau oedde nhw'n disgwyl amdanyn nhw y gwir yw, fel roedd y rhethreg yma yn cael ei phwpio i'r cyfryngau yr oedd yna gannoedd o bobl yn cael eu lladd ar y stryd - roedd o'n fethiant difrifol ar eu rhan yn fy marn i.
 |
 |