BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Nigel Davies Gweithio ymhlith yr ifanc
Nigel Davies yn sôn am yr her o ddenu'r ifanc at Grist
  • Isod, gellir clicio i wrando ar Nigel Davies yn siarad

    Bu gweithiwr ieuenctid yn sôn am yr her o geisio ennill pobl ifainc i'r ffydd Gristnogol mewn sgwrs ar Bwrw Golwg Rhafyr 17, 2006.

    Dywedodd Nigel Davies mai'r her fawr sy'n ei wynebu yw dod o hyd i ffyrdd o ennill ymddiriedaeth plant a phobl ifainc.

    Mae Mr Davies, a fu'n gweithio i'r Cyngor Ysgolion Sul, yn weithiwr plant a ieuenctid gydag eglwysi o wahanol enwadau yng ngogledd Sir Gaerfyrddin ifainc lle mae oddeutu 40 o eglwysi wedi ymuno â chynllun ymhlith plant a'r ifanc.

    'Rhaid ennill yr hawl'
    Nid yw'n waith hawdd.

    "Mae'n rhaid ennill yr hawl i gael ymddiriedaeth plant a phobl ifanc - dydw i ddim yn credu fod gennym ni yr hawl i fynd yn syth atyn nhw a disgwyl iddyn nhw ymateb i neges yr efengyl.

    "Ennill yr hawl i rannu Crist gyda nhw yw cyfrinach gweithio gyda phlant a phobl ifainc a bod yn barod hefyd i fynd i mewn i'w byd nhw a gweld pethau fwy fel maen nhw'n gweld pethau."

    Yr ifanc wedi eu hynysu
    Dywedodd mai un o'r pethau "cyffrous" y mae'n gobeithio ei ddechrau fis Ionawr yw oedfa unwaith y mis yn arbennig ar gyfer yr ifainc.

    "Mae wedi ei hanelu yn gyfangwbl ar gyfer rhai sydd o oed ysgol uwchradd gan fy mod yn teimlo fod yr oedran hwnnw yn un ynysig iawn yn ein capeli a'n heglwysi ni.

    "Mae gennych chi ddau fan hyn a thri fan acw ac un fan arall. Ceisio eu cael nhw at ei gilydd [fel] eu bod nhw'n mwynhau cwmni'i gilydd a threfnu a chynnal oedfa tipyn yn wahanol i'r oedfa draddodiadol fydden nhw'n i chael yn y capel neu eglwys [fyddaf i]."

    Gall hynny olygu defnyddio offer technegol newydd fel sgrin fawr i ddangos DVD "cwbl seciwlar" a defnyddio hynny i arwain ymlaen at gwestiynau ysbrydol.

    "Codi pwyntiau o'r DVD, ennill eu sylw nhw ac wedyn codi o hynny bethau cwbl Feiblaidd.. Rwy'n gweld ei fod e'n rhywbeth y maen nhw'n i fwynhau ac yn cael eu herio yr un pryd."

    Lefel hollol wahanol
    Er yn amharod i feirniadu dywedodd nad yw'r eglwysi fel ag y maent yn dda pan yw hi'n dod i ddarparu ar gyfer yr ifanc.

    "Fe gawn ni nhw i gymryd rhan yn yr oedfa a rhoi rhyw emyn neu ddarlleniad allan gan ddweud mai dyna yw oedfa ieuenctid ond y maen nhw yn meddwl ac yn bodoli ar lefel hollol, hollol, wahanol i oedolion ac rwy'n credu fod hwn efallai yn gyfle i'w cael nhw ynghyd ac arbrofi mewn ffordd wahanol i'r hyn sy'n bosib yn yr eglwys leol."

    Ychwanegodd y bydd yn cynnal yr 'oedfaon' mewn lle mor gysurus a phosibl yn hytrach nag mewn capel.

    "Dydw i ddim yn moyn siarad ar draws nifer o seddi gwag - ond eu bod yn gallu bod yn grŵp hapus gyda'i gilydd," meddai.

    gwrando Nigel Davies yn trafod gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Rhagfyr 17, 2006

    Y Nadolig - nid i'r ifanc yn unig
    Bu Nigel Davies yn trafod arwyddocâd y Nadolig hefyd yn ystod ei sgwrs ond rhybuddiodd nad gŵyl ar gyfer yr ifanc yn unig yw hon.

    "Mae'n adeg arbennig i blant a ieuenctid, y Nadolig. Maen nhw'n edrych ymlaen, maen nhw'n gyffrous ond fel Cristion fe fyddwn yn dweud hefyd ei bod yn Ŵyl arbennig i bawb.

    "Pan ydych chi'n gwir edrych ar y Nadolig mae Duw yn dod yn ddyn ac yn gwisgo cnawd ac yn bodoli yn ein plith ni ac wrth gwrs y mae plentyn o gael gwefr y Nadolig gobeithio yn tyfu i fyny a'i feithrin i weld mwy a mwy o ryfeddod yn yr Ŵyl a dyw dyn ddim yn peidio â synnu a dweud y gwir beth yw gwir ystyr yr ŵyl," meddai.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy