BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Y Nadolig Cyntaf
Angylion heb adenydd - a galw am fwy o sylw i Ioan Fedyddiwr
Angylion heb adenydd a golwg newydd ar Fair, mam yr Iesu fel Joan Baez - dwy agwedd wahanol o'r Nadolig sy'n cael sylw mewn llyfr newydd am yr Ŵyl.

Awdur Y Nadolig Cyntaf yw'r Parchedig Vivian Jones a fu'n weinidog ym Mineapolis yr Unol Daleithiau ond yn awr yn byw yng Nghymru unwaith eto.

Mae'r gyfrol yn cynnwys cyfres o ysgrifau ar yr Adfent a'r Nadolig gyda sylw arbennig i gymeriadau fel Herod, Ioan Fedyddiwr, yr Angylion, Mair a Joseff, Y Bugeiliaid a'r Doethion neu Seryddion fel maent yn cael eu galw.

gwrando Vivian Jones yn siarad gyda John Roberts
ar Bwrw Golwg, Rhagfyr 10, 2006

Ymdrinnir hefyd â themâu fel Arswyd, Goleuni, Llawenydd, Caneuon, a Nerth mewn Gwendid.

Mae'r llyfr yn cael ei gymell fel un "anhepgor" i weinidogion a phregethwyr lleyg "ac i unrhyw un sydd am wybod mwy am ŵyl y Geni ac am y ffydd Gristnogol".

Nid gŵyl plant yn unig
Bu Vivian Jones yn siarad am ei lyfr gyda John Roberts ar Bwrw Golwg dore Sul Rhagfyr 10, 2006 lle'r oedd yn feirniadol o'r duedd i ystyried y Nadolig fel gwyl i blant yn unig.

"Dydy ni ddim yn dathlu'r Nadolig yn dda iawn - yr ydym yn tueddu i'w neilltuo i amser plant bach," meddai.

"Rhan o hyn yw fod hanesion y geni wedi cael eu hanwybyddu fwy na heb gan ysgolheigion. Mae yna lot o bethau yn yr hanesion i oedolion ac maen nhw'n gyfoethog, yn llawer cyfoethocach, nag ydym ni'n sylweddoli yn ein heglwysi ac roeddwn i eisiau rhoi'r stwff yna mas gyda'i gilydd mewn un llyfr," eglurodd.

Dim ond ym Mathew a Luc
Cynigiodd eglurhad pam mai ond ar ddechrau dwy bennod gyntaf Efengyl Mathew ac yn nwy bennod gyntaf Efengyl Luc y mae hanes y geni yn y Testament Newydd.

"Yr esboniad y mae pobl yn ei dderbyn bellach yw fod yr eglwys gynnar ar y dechrau wedi credu fod yr Iesu yn arbennig i Dduw oherwydd ei atgyfodiad ac yna, wedi i rai blynyddoedd fynd ac ystyriaeth bellach, fe ddaeth rhai i gredu, 'Mae'n rhaid fod Iesu wedi bod yn arbennig i Dduw cyn yr atgyfodiad ers, er enghraifft, dechrau ei weinidogaeth,' ac mae Marc - yr efengyl gyntaf i gael ei hysgrifennu - yn dechrau gyda Ioan Fedyddiwr yn bedyddio Iesu ar gyfer ei weinidogaeth.

"Ac yna, gyda rhagor o fyfyrio wedyn, daeth Cristnogion i gredu i Iesu fod yn arbennig i Dduw, mae'n rhaid, ers ei eni a dyma'r efengylau nesaf, Mathew a Luc, yn rhoi hanesion y geni ar y dechrau a Ioan wedyn yn mynd ymhellach eto [trwy ddweud] ei fod yn arbennig i Dduw ers y dechreuad - Yn y dechreuad yr oedd y Gair, " meddai.

"Felly, rhyw hanes yn mynd sha nôl yw yr efengylau ac mae geni'r Iesu yn rhan o'r hanes yna - dyna'i leoliad Ef yn y stori."

Hanes ynteu myth?
Pan ofynnwyd iddo ai hanes ynteu ffrwyth dychymyg oedd hyn dywedodd:
"Mae yna hanes yno, mae'n amlwg. Mae enwau yn cael eu defnyddio; enwau ymherodrion er enghraifft. Mae Augustus yn cael ei enwi a Thiberias yn cael ei enwi ac mae Herod felly mae yna elfennau hanesyddol - ac yn wir, Mair a Joseff. Yr oedd Mair yn aelod o'r eglwys gynnar felly mae yna elfennau hanesyddol yno.

"Ond mae yna ysgrifennu creadigol hefyd i geisio mynegi y rhyfeddod a'r gogoniant ei bod hi'n bosibl uniaethu Duw gyda'r baban bach yma," meddai.

Cydnebu fod elfen o fytholeg yn yr hanes yn yr ystyr fod myth yn ffordd o fynegi gwirionedd na ellir ei fynegi yn hanesyddol neu yn rhesymegol:

"Mae yna rhyw fath o fyth ynglŷn â'r geni - nid awdurdodau genecolegol oedd yr efengylwyr Mathew a Luc ac nid eisiau dweud fod Duw wedi gwneud rhyw dric genecolegol rhyfedd oedden nhw ond eisiau dweud fod rhywbeth rhyfedd fan hyn a dyma nhw'n dweud y peth newydd yma ei fod e wedi cael ei eni o forwyn.

Angylion heb adenydd!
"Fe ddysgais i [hefyd] wrth fynd i mewn i'r pethau yma nad oedd dim adenydd gan angylion yn y Beibl.

"Yr oedd adenydd gan Seraffiaid a chyda Cheriwbiaid; ond nid angylion ydyn nhw," meddai.

Yn ogystal â chwalu delwedd wrth ddweud hyn dywedodd ei fod hefyd "yn agor y maes".

"Yn yr Hen Destament yr oedd pobl yn ymddangos weithiau ac ar ôl iddyn nhw fynd yr oedd pobl yn sylweddoli eu bod wedi cael ymweliad gan angel ac felly, wrth ein bod ni'n symud yr adenydd oddi wrth yr angylion, rydym yn dweud falle fod pobl yn ymweld â ni weithiau sydd yn cynrychioli Duw mewn rhyw ffordd a'u bod yn angylion.

"Mae'n agor y maes allan yn gyfoethocach er ei fod e yn wirionedd anghyfleus!" meddai.

Mair fel Joan Baez
"Peth arall oeddwn i'n fwynhau oedd yr ymdriniaeth o Fair," ychwanegodd.

"Mae yna edrych newydd ar Mair ac un o'r pethau sy'n digwydd yw bod menywod sy'n diwinydda nawr yn edrych ar Mair ac yn dweud;

'Edrychwch yr ydym wedi trin Mair fel ffordd i ddofi menywod. Yr ydym ni wedi'i gwneud hi yn fenyw fach ifanc ufudd i Dduw sy'n siarad yn dyner ac yn annwyl ac yn canu'r Magnifficat fel pe bydde chi'n suo baban bach i gysgu' ac maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod y Magnifficat yn sôn hefyd bod y beilchion yn mynd i gael eu darostwng ac yn ein cymell i feddwl am Mair yn canu'r Magnifficat nid fel merch fach ufudd ond fel menyw ifanc - fel Joan Baez yn canu cân brotest gref. Mae yna agweddau newydd i rai o'r straeon yma."

Cydnabod Ioan Fedyddiwr
Galwodd hefyd am gydnabod lle Ioan Fedyddiwr.

"Cyhoeddodd Barddas Nadolig y Beirdd gyda 195 o gerddi a dim un ohonyn nhw yn sôn am Ioan Fedyddiwr ac eto, 12 adnod sydd i'r bugeiliaid [yn y Testament Newydd], 19 i'r doethion ond mae 61 am Ioan Fedyddiwr ac fe fyddwn i'n lecio gweld pasiant plant yn cychwyn gyda rhyw grwtyn bach yn cyhoeddi fel Ioan Fedyddiwr.

Y baban yn y preseb
Dywedodd fod deunydd yn y llyfr "sy'n mynd i gyfoethogi unrhyw fynegiad o'r Nadolig mewn pasiant ac yn y blaen," meddai.

Ynglŷn â'r baban yn y preseb dywedodd:

"Mae rhyfeddod Duw yn y baban bach yna a dyna sut y byddwn i'n mo'yn i ddweud e; felly mae e'n arbennig iawn, iawn, ac un o roddion y Nadolig inni yw straeon am uniaethu Duw gyda Baban newydd, diniwed.

"Ac hyd y galla i weld mae'n amhosibl bron i ddiwnydda ynglŷn a geni Iesu mewn ffordd sy'n dreisgar ac mae hwnna'n fendith fawr ac yn rhyw fath o ryddhad i mi wrth ymwneud â'r straeon yma gan fy mod yn gweld Duw mewn modd na allwn ni wneud cam ag ef," meddai.

gwrando Vivian Jones yn siarad gyda John Roberts
ar Bwrw Golwg, Rhagfyr 10, 2006




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy