BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cymry yn ymuno â'r frwydr yn erbyn AIDS yn yr India
Dylanwad y capeli yn fawr
Tachwedd 2006

  • Gellir gwrando ar ran o sgwrs Bwrw Golwg trwy glicio'r blwch ar ddiwedd yr erthygl hon.

    Mae cynrychiolwyr o Eglwys Bresbyteraidd Cymru newydd ddychewlyd o'r India lle buon nhw yn cynorthwyo i sefydlu cynllun meddygol i ymladd AIDS ac HIV.

    Eglurodd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg a deithiodd i Mizoram gyda'r ddirprwyaeth fod partneriaeth hanesyddol rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Mizoram yng ngogledd ddwyrain yr India.

    "Cenhadon o Gymru aeth â'r efengyl Gristnogol i'r wlad yn y lle cyntaf," meddai ar Bwrw Golwg fore Sul Tachwedd 19.

    Mae ardal Mizoram yn un eithriadol o grefyddol gydag 80 y cant o'r boblogaeth yn gapelwyr selog - ond fel y gwelwyd o'r drafodaeth rhwng John Roberts a thri o'r Cymry a fu ar yr ymweliad nid da i gyd mo hynny.

    Arwyddocâd arbennig
    Yr oedd yr ymweliad o arwyddocâd arbennig i arweinydd y grŵp, Aneurin Owen o CAIS, mudiad sydd yn trin pobl sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau yng ngogledd Cymru.

    Aneurin Owen yn annerch Pwyllgor Gwaith Eglwys Bresbyteraidd Mizoram.
"Yn 2004 yr oedd yna ddathliadau i ddathlu 50 mlynedd o waith ddaru fy nhad ei gychwyn yma," meddai. "

    Ac yn sgil y dathliadau hynny sefydlodd Mr Owen gysylltiad gweithrdol gyda meddygon yn gweithio ymhlith cleifion HIV ac AIDS a rhai'n dioddef o broblemau cyffuriau.

    Cyndyn i ymateb
    Ond ychwanegodd fod dwy ochr i'r ymateb a gafodd syniadau'r grwp o Gymru ar ei ymweliad ag India:

    "Mae'n cael croeso mawr gan y bobl sy'n gweithio efo cleifion ac efo'r rheini sydd yn dioddef," meddai.

    "Ond, yn anffodus, mae yna gyndynrwydd yma i dderbyn bod HIV AIDS yn effeithio ar gymdeithas ac wedyn pan ydym ni'n cyfarfod pobl sydd mewn awdurdod a'r bobl sy'n gallu gwneud y penderfyniadau sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn y tymor hir mae'r cyndynrwydd yna'n rhwystr a rhan o'n gwaith ni ydi codi proffil yr angen i weithredu ar unwaith," meddai.

    Un o strydoedd ddinas Aizawl - prifddinas Mizoram "O'n profiad ni yng Nghymru,mae'n bwysig bod gweithredu cynnar ac mae wedi bod yn eithaf anodd torri trwodd ond rydym ni'n gobeithio yn y tymor hir, unwaith y bydd ein hymweliad ni drosodd a phobl yn darllen yr adroddiad rydym ni wedi'i baratoi, y bydd yna, gobeithio, ymateb i'w weld yn nes ymlaen," ychwanegodd.

    Sylwodd ef ac aelod arall o'r grŵp, Gronw Ellis Williams, fod cefnogaeth arbennig i'w hymdrechion ymhlith merched.

    "Dwi'n meddwl bod gwir angen a gwir ddyhead yma ymhlith rhai carfannau o bobl - gwragedd yn arbennig, y bobl ifainc yn arbennig - ond rhai eraill efallai ddim mor ymwybodol o'r peryglon mae HIV yn ei gario i boblogaeth fel hon - poblogaeth sydd yn byw yn agos, agos, at ei gilydd a phoblogaeth sydd yn byw bron rhwng dau ddiwylliant, y diwylliant cynhenid a'r diwylliant newydd sy'n dod i mewn.

    "Maen nhw ar groesffordd gweddol beryglus ac mae yna ddyhead yma i ddeffro ond nid ymhlith pawb o'r boblogaeth," meddai.

    Cyfraniad gan ferched i'w wneud
    Cyfeiriodd Gronw Ellis Williams hefyd at agwedd y merched:
    "Dwi'n meddwl fod yr eglwysi a'r gymdeithas yn trio cadw'r merched yn eu lle yn ôl eu barn nhw ac rydw i'n teimlo'n gryf fod yna adeg i ddatblygu y cyfraniad fydd y merched yn ei wneud i'r gymdeithas ac y bydd yna dipyn bach mwy o chwarae teg yma," meddai.

    Yn fferyllydd ac yn un â phrofiad o gynllun cyfnewid nodwyddau gartref yng Nghymru gofidiai ef fod prinder fferyllwyr ym Miseram.

    "Fe wnaethom ni sylweddoli nad oes llawer o fferyllwyr ond mae yn fferyllfeydd ym mhob man ond nad oes fferyllwyr ynddyn nhw," meddai.

    Gofidiai ef hefyd am agwedd yr eglwysi ynglyn â defnyddion condoms.

    Y bryniau gerllaw Durtlang ac Aizawl "Yr oeddwn wedi disgwyl y byddai'r eglwys yn erbyn cynllun newid nodwyddau ond doedde nhw ddim mor antagonistig ag oeddwn i'n ddisgwyl. Dydi'r eglwys ddim wedi dal yn ôl ar hwn gymaint a chyda rhai pethau eraill fel defnyddio condom am fod hynny yn erbyn eu crefydd a phob peth maen nhw wedi'i bregethu dros y blynyddoedd," meddai.

    Ond dywedodd ei fod yn hyderus y daw arian i hyrwyddo cynlluniau a awgrymwyd gan y Cymry.

    "Ac hefyd mi ddaw yr arian at waith y condoms ond pryd y gwna nhw ddatblygu'r gwasanaeth yna dydw i ddim yn sicr mi fydd yn rhaid i'r eglwys wneud gyntaf cyn i'r condoms gael eu derbyn," meddai.

    Dylanwad y capeli yn synnu meddyg
    Dywedodd y Dr Carl Clowes, sydd â phrofiad o sawl gwlad â phroblemau meddygol tebyg, iddo ef gael ei synnu gan ddylanwad ycapeli.

    "Mae meddygon yn sicr yn ymwybodol o'r peryglon sydd ar y gorwel. Ar hyn o bryd mae lefel HIV yn y gymuned dan un y cant ond fel yr ydym wedi gweld yn y cyn Undeb Sofietaidd ac yn sicr yn Affrica mae lefel isel yn medru codi'n lefel uchel mewn ychydig iawn o amser oni bai bod yna ymyrraeth o'r math iawn.

    Dr. Sanga  a Dr Pui - dau o'r meddygon yn Ysbyty Presbyteraidd Durtlang - yn trin pobl sy'n gaeth i gyffuriau a dioddefwyr HIV "Felly dyna'r math o arweiniad rydym ni wedi bod yn trio'i gynnig iddyn nhw ac wedyn mae cydweithio efo'r Llywodraeth yn bwysig hefyd yn hyn o beth heb sôn am yr eglwysi."

    "Fel arfer mae rhywun yn gweithio efo llywodraeth leol neu'r llywodraeth ganolog a'r NGOs yn lleol ond fan hyn mae'r un peth yn wir ond mae'r eglwys yn treiddio i bob congl ac i mi mae'n rhyfeddol.

    "Dydw i erioed wedi gweld cymdeithas na chymuned debyg iddi hi a does dim dwywaith, o ran cynnig atebion, bod yn rhaid wrth gydweithrediad yr eglwys," meddai.

    "Felly pan fo rhywun yn clywed gweinidog iechyd yn dweud fod yn rhaid iddo gael cydweithrediad yr eglwys mae rhywun yn gwybod union natur yr angen i gydweithio a'r eglwys.

    "Mae'n ffenomenon yn sicr sydd wedi gadael argraff arnaf i," meddai.

    Ychwanegodd iddynt adael gyda strategaeth glir nad oedd yn bodoli cynt wedi ei llunio a honno'n cael ei derbyn mewn egwyddor o leiaf gan yr eglwysi a'r llywodraeth.

    "Mae teimlad o foddhad," meddai.

    "Ond yn y pen draw gweld yr ateb HIV yn cael ei wireddu fydd [yn profi] os oedd yr ymweliad o werth neu beidio ac fe gymer hynny rai blynyddoedd," ychwanegodd.

    gwrando John Roberts yn holi Aneurin Owen a Gronw Ellis Williams




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy