BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Pont - Pontypridd ac Uganda
Tlodi sy'n codi cywilydd
  • Y lluniau gan Keith Lewis.

    Yr hyn a wnaeth argraff ar ymwelwyr ag ardal dlawd yn Affrica oed fod gennym ni yng Nghymru gymaint o adnoddau yr ydym yn eu gwastraffu ond fod gan bobl yno gyn lleied i'w cynnal.

    "Rydym ni gartref; mae shwd gymaint gyda ni ac rwy bron a bod yn teimlo'n euog o faint o bethau sydd gennym ni. Cymaint o bethau rydym ni'n daflu bant a does dim fawr o ddim gan y bobl yma. Mae'n gwneud ichi feddwl, fe fyddem ni'n gallu rhannu rhai o'r adnoddau yma," meddai Ann Aycock o Ferthyr Tudful.

    Arwyddlun PONT Yr oedd hi yn siarad ar Bwrw Golwg, Tachwedd 5, 2006, yn dilyn ymweliad ag ardal Mbale yn ne ddwyrain Uganda fel rhan o ddirprwyaeth eglwysig.

    Trefnwyd yr ymweliad gan fudiad o'r enw PONT a sefydlwyd ym Mhontypridd bum mlynedd yn ôl.

    Ystyr PONT - ar wahân i'r cyfeiriad amlwg at Bontypridd - yw, Partnerships Overseas Networking Trust ac fe'i sefydlwyd yn y lle cyntaf er mwyn gefeillio Pontypridd gyda thref Mbale yn Uganda.

    Ers hynny mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi efeillio a Dosbarth Mbale gan ymestyn y bartneriaeth ddyngarol i gynnwys 750,000 o bobl i gyd.

    Ymunodd y gohebydd Alun Thomas a'r grŵp o Gymry a ymwelodd ag Mbale fis Mai.

    Cysylltiad arbennig
    Ymhlith yr ymwelwyr eraill yr oedd Dewi Arwel Hughes, cadeirydd pwyllgor gwaith PONT ac ymgynghorydd diwinyddol TearFund sydd wedi ymweld ag Mbale sawl gwaith yn y gorffennol.

    "Mae gan y gymuned hon gysylltiad arbennig ag ardal Pontypridd sydd wedi sefydlu partneriaeth unigryw gyda rhai o bobl dlotaf gwledydd Affrica trwy gyfrwng PONT," meddai.

    "Mae'r cyfan yn dod o'r awydd i gyffwrdd â'r sefyllfa o dlodi. Dyna yw'r gwreiddyn. Yr argyhoeddiad nad yw yn iawn fod pobl yn marw o dlodi," meddai Dewi Arwel Hughes sydd yn flaenor yn eglwys y Bedyddwyr, Temple, ym Mhontypridd.

    "Mae Pont wedi cychwyn o weledigaeth un person, meddyg teulu ym Mhontypridd [Jeff Lloyd] - y weledigaeth o drio cysylltu tref a chylch yn Affrica gyda thref a chylch yng Nghymru a'r syniad ydi fod y gymuned gyfan yn cysylltu efo'i gilydd," eglurodd.

    Priodi sgiliau
    "Mae i bob cymdeithas wahanol agweddau - yn ein cymuned ni mae yna feddygaeth, mae yna addysg, ysgolion, mae yna eglwysi mae yna beirianwyr a phobl sy'n arbenigo mewn cyfrifiaduron - pob math o sgiliau ac mewn lle fel Affrica mae yna angen mawr am lot o'r sgiliau yna.

    "Y syniad yw ein bod ni'n trio cysylltu y sgiliau yma efo'i gilydd yn ein cylch ni ac wedyn yn cysylltu gyda'r un sgiliau - achos maen nhw yno i ryw raddau - a'r cylch yn Affrica [gan] rwydweithio'r holl beth a bod y cylch meddygol yma yn cydweithio a'r cylch meddygol yno.

    Wynebau croesawus "Mae'r cyfan yn dod o'r awydd i gyffwrdd a'r sefyllfa o dlodi - dyna yw gwreiddyn y cyfan i gyd; yr argyhoeddiad yma nad yw hi yn iawn fod pobl yn marw o dlodi . . .ac mae'r holl beth wedyn yn cyfeirio tuag at hynny."

    Croesawu'r ymwelwyr
    Meddai cadeirydd y bartneriaeth yn Mbale, Apollo Mwenyi, gweinidog Eglwys First Baptist yn Mbale:
    "Mae'r berthynas yn beth newydd. Mae'n wych ac mae pobl Mbale mor gyffrous - lle bynnag rydych chi'n mynd mae pobl yn sôn am y berthynas.

    "Mae'r bobl wedi croesawu yr ymwelwyr o Bontypridd i'r pentrefi - rhai ohonyn nhw heb erioed weld person gwyn o'r blaen. Rydym yn dysgu ffyrdd newydd, mae'n mynd i fod yn brofiad gwych," meddai.

    Heb wasanaeth meddygol
    Meddai Dewi Arwel Hughes: "Un broblem fawr mewn lle fel hyn yw nad oes yna ddim gwasanaeth meddygol o gwbl. Does yna ddim data yn cael ei gadw am y bobl i wybod beth yw lefel neu stâd eu iechyd.

    "Un peth rydym ni wedi bod yn trio'i wneud yw cefnogi'r partneriaid fan yma - ac fe ddylwn i fod wedi dweud nad ni sy'n dod i mewn yma i sortio pethau allan - beth ydym ni'n wneud ydi helpu'n partneriaid i hyfforddi pobl i wneud gwaith iechyd sylfaenol iawn.

    "Un peth rydym ni'n i gefnogi yn y cyswllt yna yw dechrau cadw rhyw fath o gofnod o gyflwr iechyd pobl yn y pentrefi o gwmpas y fan yma a dwi'n teimlo fod hynny'n eithriadol o bwysig.

    "Os ydi rhywbeth yr ydym ni'n wneud yn mynd i gael unrhyw effaith mae'n rhaid inni fedru mesur ac felly mae'n rhaid ichi gael rhyw fath o gofnod ar gyflwr iechyd teulu."

    Rhwydi a geifr
    Ymhlith y cynlluniau sy'n cael eu gweithredu mae un i rannu rhwydi mosgitos rhwng teuluoedd.

    Diogelwch rhwyd mosgito "Ac mae hynny yn cael effaith aruthrol ar nifer y plant sy'n goroesi - nid jyst nad ydyn nhw'n mynd yn sâl ond eu bod yn goroesi o gwbl. Mae Malaria yn lladdwr ofnadwy yma," meddai Dewi Arwel Hughes.

    Cynllun arall yw un i brynu geifr i gynorthwyo teuluoedd gynnal eu hunain:
    "Yr ydym wedi bod yn siarad lot am roi geifr i helpu teuluoedd tlawd ac mae'r bobl sydd wedi cael un yn falch ofnadwy ac yn edrych ymlaen at gael budd o'r afr.
    A'r flwyddyn nesaf rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dod yn ôl ac yn gweld mwy o fudd," meddai.

    Plant amddifad
    "Problem fawr arall yw fod llawer o'r plant wedi colli eu rhieni i HIV AIDS ac mae gennych chi lefel uchel o blant amddifad - ac yma mae plentyn yn amddifad os yw wedi colli un rhiant, ond beth bynnag am hynny mae yna lot o blant amddifad a'n partneriaid ni yma wnaeth awgrymu ein bod ni yn rhoi gafr i deulu sy'n gofalu am blentyn amddifad.

    Geifr yn fendith "Does yna ddim llawer o gartrefi plant amddifad yma felly beth sy'n digwydd ydi fod y teulu estynedig yn cymryd y plentyn dan ei adain ac wedyn mae partneriaid yma yn darganfod pwy sydd mewn angen mawr ac wedyn fe all y teulu gyda phlentyn amddifad gael gafr.

    "Wrth gwrs, mae ganddyn nhw ased wedyn a'r afr yn gallu cael geifr bychain ac mae yna werth i'r rheini ac mae yna lefrith i'w gael i'r plant ac maen nhw yn medru cael bod ar rhyw fath o step ar yr ysgol.

    "Ac os ydi'r geifr wedi gwneud yn dda maen nhw'n gallu eu gwerthu i dalu i fynd i'r ysgol ac yn y blaen.

    "Mae rhywbeth bach [fel yna] yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr . . . mae o yn gweithio."

    Dywedodd ei bod yn costio £40 i brynu gafr a £3 i brynu rhwyd mosgito. Ddechrau 2006 anfonodd Pont ddigon o arian i brynu 90 o eifr ac mae dros fil o rwydi wedi eu hanfon.

    Helpu gyda salwch
    Yn ystod yr ymweliad bu'r criw o Ferthyr yn gwneud gwaith efengylaidd a chanfod ffyrdd eraill o gynorthwyo yn ymarferol. Er enghraifft bu Ann Aycock, ffisiotherapydd yn Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr, yn dangos sut y gellir ymgeleddu rhai sy'n dioddef o anhwylderau'r frest.

    "Rwy'n gallu dangos i'r gweithwyr iechyd sut i gael y fflem oddi ar y chest ac rydym ni'n gallu dangos iddyn nhw sut y galla nhw helpu," meddai wrth Alun Thomas.

    Gall hyn fod o werth parhaol mewn ardal lle mae clefydau fel TB, bronceitus a niwmonia yn gyffredin.

    "Roedden nhw i gyd yn falch o gael y siawns o ddysgu rhywbeth nad oedden nhw wedi cael siawns o'i ddysgu o'r blaen," meddai.

    Yr ysgolion
    Croesawyd y cynllun gan gadeirydd y cynllun yn lleol, Apollo Mwenyi, gweinidog Eglwys First Baptist yn Mbale:
    "Mae'r berthynas yn beth newydd. Mae'n wych ac mae pobl Mbale mor gyffrous. Lle bynnag rydych chi'n mynd mae pobl yn sôn amdani. Mae'r bobl wedi croesawu'r ymwelwyr o Bontypridd i'r pentrefi - rhai ohonyn nhw heb erioed weld person gwyn o'r blaen. Rydym yn dysgu ffyrdd neewydd. Mae'n brofiad gwych," meddai.

    Mae nifer o ysgolion ardal Pontypridd wedi efeillio gydag ysgolion yn ardal Mbale hefyd ac eglurodd Alun Thomas mai'r drefn yn Uganda yw fod y wlad yn darparu addysg gynradd am ddim ond bod yn rhaid talu am addysg uwchradd.

    Gwasanaeth "Ond does dim bwyd i blant mewn llawer o'r ysgolion ac mae'n rhaid iddyn nhw gerdded am filltiroedd i gyrraedd eu gwersi," meddai a soniodd cyfrannwr arall am wersi yn cael eu cynnal oddi allan yng nghysgod coed ac heb lyfrau o gwbl.

    Ond bu Pont o gymorth ymarferol.
    "Daeth y tîm cyntaf a phêl-droed a gwisg ysgol inni, daeth yr ail dîm â geiriaduron a llyfrau ysgrifennu i'r plant a'r athrawon.

    "Ceisiodd y trydydd tîm adeiladu dosbarthiadau newydd ond rwy'n obeithiol o hyd," meddai un o'r llywodraethwyr.

    "Rydym ni'n gobeithio adeiladu llety i'r plant gael aros yma a throi'r lle yn ysgol breswyl ond mae yna brinder lle yma a phrinder dosbarthiadau. Does dim digon o athrawon ganddo ni ychwaith."

    Helpu un
    Ar Bwrw Golwg soniodd Sian Jones 18 oed sydd newydd adael ysgol amdanynt yn darganfod plentyn bach ar ochr y ffordd.
    "Yn cerdded i ffwrdd o'r pentref lan y mynydd roedd y plentyn yma yn y baw a llysiau wedi pydru. Doedd neb i edrych ar ei ôl e," meddai.

    "Rwy'n gwybod fod llawer yn yr un sefyllfa ond mae ichi wneud rhywbeth i helpu'r un plentyn yna yn well na dweud does dim pwynt. Mae'n well gwneud rhywbeth am un person na gwneud dim o gwbl," meddai.

    Darganfuwyd bod y bachgen bach, Ivan, yn dioddef o ddiffyg maeth ond llwyddwyd i'w gartrefu.

    "Mae yna ddiffyg maeth yma a phlant yn dioddef o ddolur rhydd. Mae pobl yn byw mewn tlodi a dydy nhw ddim yn gallu talu am driniaeth ac yn aml iawn maen nhw'n mynd yn sâl eto ar ôl dychwelyd i'w cymunedau oherwydd nad yw'r adnoddau addas ar gael. Mae yna brinder arian ofnadwy yma," meddai gofalwr y cartref lle'r aed ag Ivan.

    "Does dim ateb tymor byr ac os yw pethau yn mynd i newid mae'n mynd i gymryd lot o help," meddai Sian Jones.

    "[Mae'r wythnos yma ] wedi ngwneud i yn fwy agored i bobl sydd angen help ac hefyd yn gwneud ichi feddwl," ychwanegodd.

    Er gwaethaf yr angen . . .
    Ac meddai Ann Aycock: "Mae yma angen ofnadwy ond er gwaethaf yr angen mae pobl yn dueddol o fod yn eithaf hapus gyda beth sydd ganddyn nhw yn enwedig mas fan hyn yn yr ardaloedd o'r dref.

    Yr ymwelwyr o ardal Merthyr a Phontypridd "Mae gan y bobl ffermydd bach ac yn gallu edrych ar eu hôl eu hunain felly mae'n well fan hyn nag yn Mbale lle'r ydym ni'n aros."

    "Gobeithio y byddwn yn gallu rhoi support i'r bobl yma ym mhob math o ffyrdd yn enwedig yn Gristionogol - rhoi help i'r bobl yma gario mlaen a gweld bod rhywun yn eu caru nhw ac yn gallu eu helpu nhw," meddai.

    Ni a nhw
    Yn ddiweddar ymwelodd tri athro ag ysgolion ym Mhontypridd ac ymateb un ohonyn nhw am yr hyn a welodd yng Nghymru oedd;
    "Beth sydd ar goll gennych chi yw bywyd cymunedol . Mae pobl yn byw ar eu pennau'u hunain yma - mae angen i bobl yma fod yn fwy diolchgar. Does gan ein pobl ni ddim ond mae'n nhw'n rhan o gymuned."

  • Cliciwch i weld rhagor o luniau.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy