BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Gareth Maelor Jones Gareth Maelor Jones - teyrnged Harri Parri
'Dyn heb starts yn ei goler . . .'

gwrando Y Parchedig Harri Parri yn siarad am Gareth Maelor Jones ar Bwrw Golwg gyda John Roberts

Teyrnged gan y Parchedig Harri Parri
'Hogyn o Stiniog' oedd Gareth Maelor - wedi'i eni a'i fagu yn Nhanygrisiau a mudo i'r Manod yn nes ymlaen.

Roedd stamp Blaenau Ffestiniog yn amlwg arno.

'Bara brith'
Pan gafodd wahoddiad i draddodi Darlith Flynyddol Llyfrgell Blaenau Ffestiniog yn 1986 lluniodd fath o hunangofiant a'i alw yn Bara Brith o'r Blaenau - wedi'r cwbl, pobydd oedd ei dad!

Mae'r ddarlith honno, a gyhoeddwyd yn gyfrol, yn dyst i'w athrylith gyda geiriau a'i ddyled i'r gymdeithas a'i magodd.

Yn yr un ddarlith mae'n cydnabod ei ddyled i'w rieni ac i gapel Gwylfa yn y Manod.

Gareth oedd yr ieuengaf o bedwar o fechgyn ac wedi gadael ysgol aeth i weithio i Fanc y Midland, a symud yma ac acw gyda'i waith.

Yn ôl ei eiriau'i hun, yn ystod y cyfnod hwn llithrodd 'fymryn oddi ar y rêls' ond dilynwyd hyn gan brofiad o dröedigaeth ysbrydol.

Yn sgîl y dylanwadau hyn, a rhai eraill, yn nechrau'r Pumdegau teimlodd alwad i'r Weinidogaeth Gristnogol ac aeth i Goleg Y Bala i ailgydio yn ei addysg ac yn 1957 i'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.

Yn 1960 fe'i hordeiniwyd yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru a'i sefydlu'n weinidog yn Harlech a'r cylch.

Yn 1964 symudodd i Abersoch i ofalu am bedair eglwys ar Benrhyn Llŷn.

Arian byw o weinidog
Bu'n arian byw o weinidog yn y ddau gylch, yn newydd ac yn arbrofol ei ddulliau.

Ei ddiddordeb pennaf oedd plant a phobl ifanc ond ni olygai hynny fod ei ofal am eraill yn y gymdeithas fymryn llai.

Yn 1975 penodwyd Gareth a'i briod, Brenda, yn Wardeiniaid Cartref Bontnewydd - cartref plant perthynol i'r enwad - a bu'r ddau yno hyd 1982.

I ddathlu canmlwyddiant y Cartref cyhoeddodd gyfrol o'r hanes o dan y teitl Drws Agored.

Yna, wedi dilyn Cwrs Athro yn Y Coleg Normal, Bangor, fe'i penodwyd yn Bennaeth Addysg Grefyddol yn Ysgol Dyffryn Nantlle gan aros yn y swydd honno yn ddedwydd ac yn llwyddiannus nes iddo ddal afiechyd trwm yn 1996 a'i orfodi i ymddeol cyn pryd.

Ei ddoniau'n lleng
Mae'n anodd gosod Gareth mewn unrhyw gategori na mesur ei gyfraniad yn llawn; ei ddoniau'n lleng a'i bersonoliaeth yn cyffwrdd pobl o bob byd.

Roedd yn 'Enaid oedd ar fynd o hyd'ac yn gyfathrebwr abl o bulpud neu oddi ar lwyfan, y tu ôl i feicroffon ac mewn print.

Nid yn unig gallai drin geiriau ond roedd ganddo afael ar sawl celfyddyd arall: yn arlunydd a chartwnydd, yn medru creu gyda choed neu ddefnyddiau eraill.

Yn y Chwedegau a dechrau'r Saithdegau cyhoeddodd - ei hunan ac ar y cyd - nifer fawr o lyfrau crefyddol ar gyfer plant. Llyfrau a oedd ar y pryd yn newydd eu gwedd a'u cynnwys.

Yn 1969 roedd yn un o ddau a sefydlodd Wasg Tŷ ar y Graig. Clawr un o lyfrau Gareth Maelor Jones Bu'n golygu'r cylchgrawn plant Antur am nifer o flynyddoedd.

Wedi'i waeledd hir yn 1996 aeth ati i lunio myfyrdodau gan ddod yn arbenigwr ar y cyfrwng. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn gyfrolau, Helo, Pwy Sy'na? ac Ystyriwch y Lili - cyfrolau y bu cryn ddefnyddio arnynt mewn ysgolion ac eglwysi.

Agos at bobl
Yn bersonoliaeth gynnes, llawn afiaith gallai fynd yn agos at bobl a thrafodai bawb ar yr un gwastad â'i gilydd.

"Pobol heb starts ar eu coleri na'u cymeriadau," meddai am y gymdeithas a'i magodd; un felly oedd yntau.

Roedd dwy natur yn yr un person. Gallai weddïo mewn amgylchiadau annisgwyl ond ni fyddai'n fyr o ddweud gair yn ei bryd pan fyddai galw am hynny

Gellid defnyddio rhes o ansoddeiriau i geisio'i ddisgrifio:
brwd, deinamig, tosturiol, cenhadol, hael ac enillgar ryfeddol.
Ond un Gareth Maelor oedd yna.

Teulu yn angor
Angor Gareth oedd ei deulu.
Wedi priodi â Brenda yn 1959 treuliwyd oes o gydfyw dedwydd.

Bu eu perthynas hwythau wedyn â'u tair merch - Esyllt, Gwawr a Swyn - yr un mor glos.

Wynebodd Gareth ei waeledd olaf gyda dewrder rhyfeddol a ffydd gadarn.

Trefnodd bopeth cyn pryd, hyd yn oed y gwasanaeth ar gyfer dydd ei angladd.

Daliodd amrywiol swyddi ond ni chefnodd am foment ar yr hyn a ystyriai yn alwedigaeth iddo.

  • Marw Gareth Maelor


  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy