BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Meddwl am faddau Cyffes a maddeuant
Bendith y gyffesgell ac achosion o faddau rhyfeddol
  • Darlledwyd rhifyn arbennig o Bwrw Golwg yn trafod cyffesu a maddau ddydd Sul, Mai 13, 2007.
    Erthygl a chlipiau sain

    Er ei bod yn hawdd pregethu am faddeuant dywedodd y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts nad yw maddau'n beth hawdd i unigolyn - ond rhybuddiodd y gallai methu â dysgu maddau wenwyno cymeriad person.

    "Beth sy'n bwysig yn y bôn ydi wynebu y dewis arall," meddai. "Sef bod methu maddau yn golygu fod y dicter a'r ing a'r tristwch yn troi yn wenwyn yno chi."

    Ar y llaw arall dywedodd fod troi galar i gyfeiriad rhywbeth creadigol ac adeiladol fel ymgyrchu dros rhywbeth "yn rhan o'r broses o adferiad" ac yn ffordd ymlaen.

    Ar y rhaglen bu John Roberts y cyflwynydd yn trafod gyda gwahanol gyfranwyr wahanol fathau o gyffesu a maddeuant gan gynnwys cyffes Babyddol mewn cyffesgell, cyffes gyhoeddus ar radio a chyffes gyhoeddus dra gwahanol rhaglen deledu fel un Jerry Springer.

    Bendith y gyffesgell
    Y Barnwr Michael Farmer fu'n trafod y traddodiad Pabyddol o gyffes mewn cyffesgell gydag offeiriad:

    gwrando Michael Farmer yn siarad am y profiad o gyffesu gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    "Dydi hi ddim yn hawdd mynd i'r gyffesgell ond mae'r ymdeimlad o ryddhad y mae dyn yn ei gael ar ôl cyffesu yn eithriadol ac yn gysur mawr," meddai.

    "Ac os ydych yn gwir edifarhau ac yn ewyllysio i beidio a phechu eto yr ydych yn sicr o gael y gras - fel roeddwn i'n dweud mae o'n gysur mawr."

    "Yr ydych chi'n siarad yn uniongyrchol efo Duw drwy'r offeiriad a'r offeiriad yn medru cyfeirio beth bynnag ydych chi'n drafod, gofyn cwestiynau priodol ac yn rhoi cyngor priodol. Mae o'n gyffyrddiad uniongyrchol efo gras Duw," meddai.

    Disgrifiodd ar y rhaglen yr hyn sy'n digwydd:
    "Yr ydych yn mynd i'r gyffesgell ac yn dweud . . . pa bryd oeddech chi wedi cyffesu ddiwethaf ac wedyn . . . mynd trwy'r pechodau mwyaf difrifol ydych chi'n cyhuddo eich hun ohonyn nhw.

    "Wedyn, ar ôl ichi ddweud hynna mae'r offeiriad yn rhoi beth bynnag mae o'n feddwl sy'n ddilys fel cyngor ichi ac yn rhoi penyd ichi - gweddïau neu weithred o rhyw fath megis mynd at rywun ac ymddiheuro. Rhywbeth o'r math yna.

    Dywedodd bod rhywbeth yn reddfol mewn dweud wrth rywun arall am bechod ac i'r Eglwys ffurfioli y weithred reddfol honno.

    "Y teimlad rydw i'n gael ar ôl cyffesu ydi teimlad o ryddhad, teimlad o hapusrwydd a bod gen i gyfle newydd i wneud rhywbeth gwell efo fy mywyd," meddai.

    "Mae'n rhaid ichi ennill y maddeuant. Mae'n rhaid ichi haeddu'r maddeuant ac mae'n rhaid ichi agor eich calon ac agor eich bywyd i ras Duw - mae hwnna yn rhan annatod o'r sagrafen ac o'r weithred," ychwanegodd.

    Luther o blaid cyffes

    gwrando Elfed ap Nefydd Roberts yn trafod gwerth cyffesu gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    Yn dilyn sylwadau Michael Farmer dywedodd y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts - sy'n gyn brifathro coleg diwinyddol ac yn ddarlithydd astudiaethau bugeiliol - i Brotestaniaeth fod "yn rhy chwannog" i wrthod y syniad hwn o gyffesgell.

    "Wrth gwrs fe fyddwn i am ddweud nad oes angen offeiriad i gyfryngu maddeuant Duw ond y medrwn ni fynd at Dduw yn uniongyrchol i gyffesu'n pechodau a derbyn maddeuant ond y cwestiwn allweddol ydi, Ydym ni'n gwneud hynny?

    "Roedd Martin Luther yn dadlau dros gadw'r gyffesgell oherwydd ei fod o'n credu fod angen y mynegiant penodol yna o edifeirwch ac o dderbyn maddeuant.

    "Ac mae'n arwyddocaol iawn fod Carl Gustav Jung, un o sylfaenwyr seiciatreg fodern, ac yntau'n Brotestant ac yn fab i weinidog, yn dweud mai ychydig iawn o Babyddion oedd yn dod ato fo gyda phroblemau yn ymwneud ag euogrwydd a hynny oherwydd eu bod yn mynd yn gyson i gyffesu a'r syniad o faddeuant yn ffactor real iawn yn eu bywyd nhw," meddai.

    Dywedodd fod y 'seiat' Fethodistaidd, yn fath o gyffesgell gyhoeddus yn null y group therapy heddiw.

    "Ond roedd o'n gyfyngedig i grŵp o bobl oedd yno i rannu, i gefnogi ac i helpu y sawl oedd yn cyffesu.

    "Therapi ydi hwnnw ac mae o yn ffurf o ddadlwytho fel petai ac o brofi maddeuant a dyna ydi'r peth pwysig.

    "Yr ydym ni fel Protestaniaid wedi sôn gymaint am Gyfiawnhad Drwy Ffydd a maddeuant Duw ond eto mewn gwirionedd ddim yn cyffesu'n gyson gerbron Duw ac yn profi maddeuant fel y dylem ni fod yn gwneud," meddai.

    Bendith cyffesu ar y radio

    gwrando Gary Williams yn trafod y profiad o gyffesu ar y radio gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    Un a chanddo brofiad personol o gyffes gyhoeddus yw Gary Williams o Flaenau Ffestiniog a fu'n sôn am ei brofiad yn cymryd rhan mewn rhaglen radio yn dilyn cyfnod yng ngharchar.

    "Roeddwn i'n meddwl y byddai'n gwneud lles i gael siarad amdano fo . . . a gallu rhoi pobl eraill ar ben ffordd i beidio gwneud trwbwl a chael eu dal a mynd i'r carchar. Roedd hi'n reit anodd siarad amdano fo ond roeddwn i'n falch wedyn," meddai.

    "Doeddwn i ddim eisiau sympathy na dim byd fel'na - roeddwn i jyst eisiau i bobl fynd y ffordd iawn a pheidio mynd i drwbwl."

    Dywedodd ei bod hefyd yn ffordd o geisio maddeuant ei deulu a oedd wedi dioddef oherwydd yr hyn wnaeth ef.

    Rhaglenni cyffes y teledu - Ecsploetio pobl?

    gwrando Lyn Lewis Dafis yn trafod rhaglenni cyffes y teledu gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    Ond gwelai'r beirniad teledu, Lyn Lewis Dafis, wahaniaeth mawr rhwng profiad cymesur Gary Williams a'r hyn sy'n digwydd ar raglenni cyffes fel un Jerry Springer ar y teledu.

    lyn Lewis Dafis "Prin iawn yw'r cyfle ar y sioeau teledu yma i bobl dderbyn gollyngdod unai oddi wrth y bobl sydd wedi dioddef neu oddi wrth rywun sy'n cynnig rhyw fath o ollyngdod a'r hyn sydd yn rhoi gollyngdod mewn gwirionedd yw condemniad. Maen nhw mewn rhyw ffordd yn hapus gyda hynny," meddai.

    Cytunodd hefyd fod elfen o ecsploetio yn y rhaglenni:

    "Yn fy marn i mae o'n ecsploetio pur. Maen nhw'n trio cael cynulleidfa a mwyaf eithafol y cyffesu mwyaf hawdd yw hi i werthu'r rhaglen i bobl sydd am weld pobl yn dweud pethau eithafol.

    "Mae o yn ecsploetio . . . am eu bod yn ceisio gwneud i'r bobl yma fynd mor bell a wnawn nhw. Unwaith mae'r gyffes yn mynd i un lefel mae yna westai newydd yn dod sy'n gwthio'r gyffes i lefel waeth ac wedi inni gyrraedd y lefel yna mae yna westai arall mwy eithafol fyth.

    "Mae pobl yn fodlon dweud a gwneud unrhyw beth er mwyn cael sylw ac mewn gwirionedd mae yna gyfrifoldeb ar y rhai sy'n cynhyrchu'r rhaglenni yma i ddweud nad ydynt yn fodlon i hynna ddigwydd."

    Ychwanegodd fod pobl yn mynd ar y rhaglenni hyn "am eu bod yn chwennych rhyw enwogrwydd tros dro ac efallai eu bod nhw'n credu fod yr enwogrwydd yna yn gwneud iawn am yr hyn maen nhw wedi'i wneud."

    Adloniant pur
    Cytunodd Elfed ap Nefydd Roberts mai "adloniant pur " yw y rhaglenni hyn "a does yna ddim dwywaith fod pobl yn cael eu ecsploetio a'u hannog i ddinoethi eu teimladau a chydnabod eu hymddygiad a beth sydd yn sinistr yw y ffordd y mae pobl yn mwynhau gwylio pobl eraill yn golchi eu dillad budron yn gyhoeddus," meddai.

    Ychwanegodd mai teledu poblogaidd sy'n apelio at "yr elfennau salaf yn y natur ddynol" yw hwn.

    Cyfiawnder adferol - yn well na chosbi

    gwrando Michael Farmer ac Elfed ap Nefydd Roberts yn trafod Cyfiawnder Adferol gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    Ond cafodd y drefn newydd o "gyfiawnder adferol" o gymharu â chyfawnder sy'n cosbi'n unig gefnogaeth Mr Farmer a Mr Roberts:

    "Mae yna gymaint o bwyslais heddiw ar ymateb i droseddu trwy gosbi fel bod ein carchardai yn llawn i'r ymylon a phrin iawn ydi'r bobl sy'n dod o garchar yn well pobl," meddai Mr Roberts.

    Desmond Tutu "Mae'n rhaid inni chwilio am ffordd allan o'r cylch dieflig o drosedd, cosbi, dial, troseddu drachefn, cosbi eto, dial eto," ychwanegodd.

    "Dwi'n meddwl mai'r bobl sydd wedi taro ar yr egwyddor yma mewn cyd-destun ehangach o lawer ydi Desmond Tutu a'r Comisiwn Gwirionedd a Chymod yn Ne Affrica lle mae pobl sydd wedi troseddu yn cael cyfle i wynebu y bobl maen nhw wedi peri dioddefaint a phoen iddyn nhw a chyfaddef be maen nhw wedi'i wneud yn hytrach na bod hyn yn arwain at rhyw ysfa i ddial a gwaed mae o'n cymodi acyn adfer perthynas pobl," meddai.

    Maddeuant rhyfeddol

    gwrando John Roberts yn holi George Austin ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    Cyfeiriwyd ar y rhaglen at enghreifftiau trawiadol o faddeuant cyhoeddus gan enwi Gordon Wilson o Enniskillen, Gee Walker o Lerpwl ac ymateb rhieni Amish yn yr Unol Daleithiau yn dilyn saethu eu plant.

    Holwyd George Austin am ei brofiad ef wedi i'w fab gael ei ladd mewn car diffygiol yn 1991 ac a fu ers hynny yn ymgyrchydd diflino i sicrhau fod ceir yn ddiogel a chyfreithlon.

    Meddai Elfed ap Nefydd Roberts:

    gwrando Elfed ap Nefydd Roberts yn cloi'r drafodaeth gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Mai 13, 2007

    "Mae ei ymgais o i ddod i delerau a'r digwyddiad ac i faddau i'r rhai oedd yn gyfrifol yn dangos mai'r unig ffordd i ddeall ystyr maddeuant yw gorfod dysgu maddau yn wyneb sefyllfaoedd fel hyn.

    "Mae'n hawdd pregethu am faddeuant ac yn hawdd iawn trafod y peth yn ddiogel mewn stiwdio peth arall ydi gorfod byw efo'r ing a'r her o orfod maddau i bobl eraill am wneud rhywbeth cwbl erchyll ichi.

    "Roedd hi'n ddiddorol ei fod hefyd yn sôn am gefnogaeth teulu. Mae hynny yn elfen bwysig iawn ond beth sy'n bwysig yn y bôn ydi wynebu y dewis arall sef fod methu maddau yn golygu fod y dicter a'r ing a'r tristwch yn troi yn wenwyn yno chi ond yn sicr mae troi y galar i gyfeiriad rhywbeth creadigol ac adeiladol fel ymgyrchu dros rhywbeth yn rhan o'r broses o adferiad," meddai.

    Canolog i Gristionogaeth
    "Dwi'n credu fod hwn yn gwbl ganolog i beth ydi Cristionogaeth - dywedodd un diwinydd pe byddai raid iddo grynhoi neges ganolog yr efengyl mewn un frawddeg mai hon fyddai hi, 'Rwy'n credu yn Nuw sy'n maddau pechodau yn Iesu Grist.'

    "Derbyn yr addewid o faddeuant o ddifri ond sylweddoli hefyd fod yn rhaid i'r hyn ydym ni'n ei gredu am faddeuant droi yn brofiad tu mewn inni ac mae'r profiad wedyn yn her i weithredu maddeuant," meddai.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy