 |
 |
 |
Bywyd lleian Newid yr unigolyn i newid y byd |
 |
 |
 |
Gellir clicio i wrando ar Catherine Sexton yn siarad ar Bwrw Golwg ar ddiwedd yr erthygl hon.
Trwy drawsnewid yr unigolyn y mae trawsnewid y byd - dyna farn aelod blaenllaw o elusen ryngwladol sydd wedi ymddeol er mwyn cael treulio blwyddyn mewn lleiandy.
Yr oedd Catherine Sexton a fu'n cyfarwyddo prosiectau rhyngwladol yr elusen Gatholig CAFOD yn siarad ar Bwrw Golwg am ei phenderfyniad i ymuno â rhyw 14 o leianod yn lleiandy bychan Abaty Sistersaidd y Groes yn Hendygwyn-ar-Daf.
Hanes hir a chyfoethog Dywedodd fod sawl rheswm dros ei phenderfyniad.
"Pe byddwn i'n siarad gyda mhen fe fyddwn i'n dweud fy mod i eisiau ymuno â chymuned Sistersiaidd ac mai dyna'r atyniad - mae gan y Sistersiaid hanes hir a chyfoethog yng Nghymru ac fe gawsant ddylanwad mawr ar bron bob agwedd o fywyd Cymru ar hyd yr oesoedd ac yr ydw i eisiau cymryd rhan mewn adeiladu a chryfhau y traddodiad mynachaidd yng Nghymru ac hefyd eisiau gweld a oes gan y bywyd encilgar yma rywbeth i'w ddweud wrth Gymru fodern," meddai.
"Yn ail ac yn bwysicach rwy'n mynd er mwyn datblygu a dyfnhau fy mherthynas gyda Duw ac i mi mae'r atyniad wedi bod yn gryf iawn ers blynyddoedd ac rwy'n teimlo y bydd byw mewn cymuned a dilyn ffordd fynachaidd o fyw yn help mawr i mi ddatblygu a dyfnhau fy mywyd ysbrydol," ychwanegodd.
Dywedodd nad yw'r lleiandy hwn yn un "eithriadol" o gaeth gyda hawl i'r lleianod "fynd mâs i'r siopau yng Nghaerfyrddin neu hyd yn oed gerdded ar y Preseli yn awr ac yn y man".
Ond dywedodd y bydd y bywyd mynachaidd yn newid llwyr iddi hi a hithau wedi bod ers blynyddoedd yn teithio'r byd yn cydweithio gyda mudiadau elusennol.
"Ond rwy'n teimlo fod yn rhaid imi dderbyn y gwahoddiad hwnnw a thrio gweld a fydd y bywyd yna yn addas imi.
Trawsnewid yr unigolyn "Ar ben hynny, rydw i wedi dod i gredu dros y blynyddoedd fod newid neu drawsnewid y byd yn dechrau drwy drawsnewid unigolyn felly os yr ydw i eisiau newid y byd mae'n rhaid imi newid fy hunan.
"Ond mae'n rhaid i'r newid hwnnw fod yn beth didwyll ac yn rhywbeth sydd yn perthyn yn ddwfn i mi ac i neb arall," meddai.
Ond dywedodd nad dianc rhag problemau'r byd y mae wrth encilio nac oherwydd iddi ddigalonni gyda'r byd.
"Newid y byd trwy newid fy hun ydi hyn dwi'n meddwl," meddai.
Gwrthododd y syniad fod ymuno a lleiandy gyfystyr a ffoi. "Dyw hi ddim yn bosib ffoi i leiandy.
"Dydi ffoi felly ddim yn gweithio. Os ydych chi'n ddigalon neu dan y felan fe fyddwch yn fwy digalon ac yn ddyfnach yn y felan mewn lleiandy. Fedrwch chi ddim dewis gadael eich problemau wrth y drws . . . does yna ddim dianc rhag pwy a beth ydych chi. Felly, treiddio yn ddyfnach iddo fo ydych chi," meddai.
Er iddi ddisgrifio ei phenderfyniad fel 'galwad' dywedodd: "Does dim llais yn fy ngalw yn y nos ond rwyf jyst yn teimlo fod atyniad at y ffordd yma o fyw ac fe fydd digon o gyfle yn ystod y flwyddyn i ystyried os mai galwad yw hi."
Dywedodd fod yn rhaid bod yn y lleiandy am o leiaf dair blynedd fel nofis cyn cymryd llwon i barhau ac wedyn dim ond ar ôl rhyw bum mlynedd os yw'r unigolyn a'r gymuned yn siŵr y gellir cymryd llwon am oes. Wynebu her y flwyddyn gyntaf yw ei nod hi ar hyn o bryd.
Ymroi i weddi "Dwi'n credu fod pob crefydd angen pobl sydd wedi ymroi i fod ar ymylon cymdeithas a thrwy hynny wedi ymroi i weddi. Ac mae hynny yn gysur i ni i gyd mewn rhyw ffordd ac yn ein gwneud ni yn fwy ymwybodol o'r dimensiwn ysbrydol mewn bywyd.
"Mae'n ddigon tebyg i ffynnon y gall pobl dynnu oddi arni yn ôl yr angen neu, darlun arall ysgrythurol fyddai'r gannwyll yn y ganhwyllbren yn goleuo i bawb yn y tŷ neu yn yr ardal.
"Mae'n rhaid imi ddweud ers imi wneud y penderfyniad yma mae fel pe byddai yn cael dylanwad cynyddol ar ffrindiau a fy nheulu.
"Fel arfer mae pobl yn tybio mai pobl dipyn bach yn od neu benboethiaid fyddai'n gwneud rhywbeth fel hyn ond gan fy mod i yn gymharol normal mae hynny yn herio'r holl ffordd mae pobl yn dirnad ac yn deall bywyd y lleian," meddai.
Nid cau ei hun Pwysleisiodd nad mater o "gau ei hun oddi wrth byd" yw ymuno â lleiandy.
"Nid cau eich hun oddi wrth y byd yw byw mewn tŷ gyda 14 o bobl eraill - ond o ddifrif rwy'n ceisio mynd gyda chalon agored a meddwl agored.
"Mi fydd yna sawl her ond rwy'n benderfynol o'u hwynebu nhw fel maen nhw'n dod. Os mai dyna'r lle iawn i mi rwy'n credu fel y bydd un drws yn cau y bydd drws arall yn agor ond wedi dweud hynny mae'n rhaid imi gyfaddef mi fyddai'n colli rygb!" meddai.
Ymhlith y pethau eraill y bydd yn eu colli rhestrodd "ffrindiau, papur newydd, cerddoriaeth, teithio." Catherine Sexton yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg
 |
 |
 |
 |
|
|