BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Eglwys Llanycil
Cynlluniau newydd ar gyfer eglwys hanesyddol

gwrando Watyn James o Gymdeithas y Beiblau a'r Parchedig Nia Morris, Rheithor Y Bala, yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Ionawr 21, 2007


Mae eglwys y bu ei drws ar glo am oddeutu tair blynedd yn awr wedi ei phrynu gan Gymdeithas y Beibl.

Y bwriad yw manteisio ar gysylltiadau hanesyddol Eglwys Llanycil ger Y Bala a'i thrawsnewid yn ganolfan dreftadaeth yn dehongli gwahanol agweddau ar hanes crefyddol Cymru.

Mae'r eglwys ei hun dros 500 oed ac wedi ei chodi ar safle Cristnogol yn dyddio'n ôl i gyfnod y Celtiaid.

Yma y claddwyd un o enwogion crefyddol mwyaf Cymru, Thomas Charles Y Bala - y gŵr a roddodd Feibl i Mari Jones ac un o sefydlwyr Y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor - y British and Foreign Bible Society - a'i harwyddair, Beibl i bawb o bobl y byd.

Hefyd wedi eu claddu yno mae , Lewis Edwards, Dafydd Cadwaladr, Thomas Charles Edwards ac Elisabeth Davies.

Pryderon lleol
Oherwydd argyfwng ariannol bu'n rhaid i'r Eglwys yng Nghymru gau drysau Eglwys Llanycil dair blynedd yn ôl - penderfyniad a greodd gryn anesmwythyd yn lleol a chyda'r adeilad ar werth bu pryder y gallai gael ei droi'n dŷ neu'n fflatiau.

Nid oes rhyfedd i'r newyddion mai Cymdeithas y Beiblau yw'r perchennog newydd gael ei groesawu gan y bydd hynny yn sicrhau parhad traddodiad crefyddol y safle. Meddai Cymdeithas y Beibl wrth gyhoeddi'r pryniant:

"Bwriedir addasu adeilad eglwys Llanycil yn ganolfan dreftadaeth.

"O ganlyniad i hyn disgwylir y bydd y ganolfan yn denu amrywiaeth eang o ymwelwyr. Bydd gan rai ddiddordeb cyffredinol mewn hen adeiladau eglwysig, eraill yn nhreftadaeth Cymru a nifer fydd yn cerdded 'Taith Mari Jones' o Lanfihangel y Pennant."

Wrth siarad am y cynllun ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Ionawr 21, 2007, dywedodd y Dr Watcyn James, Swyddog Datblygu Cenhadaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, fod llawer o syniadau yn cael eu trafod gyda gwahanol bobl ynglŷn â dyfodol yr eglwys yn nwylo'r Gymdeithas.

Eglwys Llanycil "Mae'n bwysig ein bod yn cadw cysylltiadau gydag anghenion lleol gan ein bod ni eisiau bod yn fendith i'r dref," meddai gan ychwanegu y bydd ceisiadau yn cael eu gwneud am arian o wahanol ffynonellau i ddatblygu'r ganolfan arfaethedig.

"Ond beth sy'n bwysig yw; nid yn unig adrodd hanes y safle - sy'n mynd yn ôl at y bumed ganrif sydd ynddo'i hun yn crynhoi hanes Cristnogaeth yng Nghymru - ond y bydd yna elfen o sôn am hanes Cymdeithas y Beibl ar draws y byd gan fod pobl ar draws y byd yn ymddiddori yn hanes Mari Jones," meddai.

"Elfen arall sydd yn bwysig i mi yn hyn yw bod y dreftadaeth yma yn parhau a bod y Beibl yn dal i fod yn air sydd yn siarad heddiw," ychwanegodd.

Rheithor yn croesawu
Eisoes mae bwriadau'r Gymdeithas wedi eu croesawu gan Reithor Y Bala, Y Parchedig Nia Morris, a welodd gryn wrthwynebiad lleol i'r penderfyniad o gau'r eglwys a'i rhoi ar werth.

"Unwaith y cysylltodd Watcyn a fi yr oeddwn i'n dechrau codi fy ngobeithion, " meddai.
.
."Unwaith yr oeddem ni wedi gorfod cau'r drysau yr oedd yna bobl mewn gwewyr mawr oherwydd cau'r lle ac roeddwn i'n teimlo'n gyfrifol er nad fy mhenderfyniad i oedd o felly mae hyn yn newyddion da iawn, iawn, i mi; gweld yr eglwys yn cael ei throi yn ganolfan treftadaeth ac fe gaiff bedd Thomas Charles fwy o bwysigrwydd nag y mae erioed wedi'i gael."

Dywedodd nad oedd gan yr Eglwys yng Nghymru ei hun "ddim dimai goch rhwng ein bysedd" i wneud dim â'r eglwys.

"Y dewis oedd cau drws tair eglwys neu ffeindio miloedd ar filoedd o bunnau a doedd gennym ni ddim. Fe fyddai wedi bod yn hyfryd iawn pe byddai'r arian yna i greu canolfan ond yr ydych chi eisiau nid yn unig arian ond pobl broffesiynol i greu canolfan a fy swydd i yn sicr oedd dod i'r Bala i hybu cenadwri Crist ac i redeg eglwys nid i redeg canolfan - ond rydw i'n gobeithio y gallwn ni fod yn rhan o'r ganolfan yma ac y bydd yr eglwys a'r capeli yn rhan o'r cynllun," meddai.

'Rhan o'r gymuned'
Ac nid yn unig yn rhan o hanes eglwys ond yn rhan o'r gymuned oherwydd pan gaewyd yr eglwys mi wnaeth lot o'r gymuned godi stêm er nad oedden nhw yn ymwneud â'r eglwys, ddim yn dod i'r eglwys, ddim yn honni eu bod nhw Gristnogion rai ohonyn nhw, chwarae teg iddyn nhw, ond yn dweud ei bod yn biti fod eglwys yn mynd i ddwylo dieithr ac yn dod yn dŷ neu'n fflatiau felly mae'r gymuned i gyd â chonsyrn am yr eglwys ond mae hwn yn gyfle da i weld cymuned yn dod i ymwneud â phrosiect sydd yn Gristnogol yn ei naws," meddai.

Dywedodd Watcyn James y bydd Cymdeithas y Beibl yn parhau i ymgynghori yn lleol ac yng Nghymru.
.
. "Y dyhead yw cael bod yn fendith ac yn gymorth nid i un enwad ond yr holl o ogledd Cymru," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy