 |
Yn dilyn digwyddiadau brawychus yn Gaza Libanus ac Israel bu John Roberts yn holi Rabbi ac Athro Iddewiaeth ym Mhriftysgol Llanbedr Pont Steffan, Dan Cohn-Sherbok sut mae o yn dehongli ymateb Llywodraeth Israel.
Dyma'r drafodaeth lawn a fu rhwng John Roberts a Dan Cohn-Sherbok y darlledwyd rhan ohoni ar Bwrw Golwg, Ddydd Sul, Gorffennaf16, 2006:
John Roberts: Ryda ni wedi gweld ymateb llywodraeth Israel i gipio milwr yn Gasa ac yna cipio dau filwr yn Libanus, ac mae na lawer iawn o bobl yn holi; Pam? Be sydd wedi gyrru llywodraeth Israel i ymateb fel hyn? Fel Rabbi eich hun, sut y byddech chi yn dehongli'r ymateb?
Dan Cohn Sherbok: Mae Israel yn gweld y Palestiniaid fel rhywun sydd yn bygwth gwladwriaeth Israel.
Maen rhaid cofio fod Hamas wedi gwrthod cydnabod bodolaeth Israel hyd yn oed ac wedi gwneud hynny yn swyddogol.
Fel Rabbi, rydw i'n credu fod parhad Israel yn hanfodol, ac mae hi'n drychineb mai Hamas nawr ydi'r grym mwyaf ymhlith y Palestiniaid.
Ond, ar y llaw arall, rydw i hefyd yn gwrthwynebu ymateb Israel i'r cipio yn Gaza ac yn Libanus. Rydym ni angen deall sefyllfa ein gilydd, deall meddwl Iddewig a'r meddwl Palestinaidd, a thrwy hynny cyrraedd cytundeb.
John Roberts: Mewn llyfr diweddar rydych chi'n awgrymu fod gwrth Semitiaeth wedi bod yn allweddol i barhad Iddewiaeth, be da chi'n feddwl wrth hynny?
Dan Cohn Sherbok: Peidiwch a chamddeall; rydw i'n credu fod gwrth Semitiaeth yn ddrwg, yn evil felly.
Ond y paradocs rhyfedd wrth gwrs yw fod y casineb yr ydy ni fel Iddewon wedi ei wynebu, a'i ddioddef wedi ei gwneud yn bosib i ni barhau.
Am fod pobl wedi ein casáu ni, rydym ni wedi gorfod edrych arnom ein hunain, a rydym ni wedi ailfywiogi ein ffydd.
Mae'r casineb yn hytrach na'n gorchfygu ni wedi'n gwneud ni'n gryf ac yn benderfynol, dyna pam ei fod o wedi bod yn allweddol i'n parhad.
John Roberts: Ond ydych chi wedi profi gwrth semitiaeth eich hun?
Dan Cohn Sherbok: Do, rydw i wedi i brofi, ond nid yn uniongyrchol. Mae na ffyrdd cynnil o ddangos rhagfarn, does dim rhaid i neb alw enwau arnoch chi, a dyw e ddim yn bosib pwyntio at ddigwyddiadau annymunol bob amser.
Rydw i'n credu bydd y Cymry yn deall hyn. Mae'r Cymry hefyd wedi profi gelyniaeth gynnil dan law y Saeson.
Ryda ni'n ddwy genedl y mae pobl wedi ein casáu ac wedi ein gyrru ni i'r ymylon. Ond rydym ni fel dwy genedl hefyd wedi dod yn fwy penderfynol i barhau oherwydd y profiad hwnnw.
John Roberts: Mae llywodraeth Israel yn mynnu gweld ei hun fel y dioddefwr o hyd - er bod y ffeithiau yn awgrymu er enghraifft fod deg o Balestiniaid wedi eu lladd am bob Iddew, pam nad yw hanes y genedl yn peri iddyn nhw weld dioddefaint rhywun arall, neu ydi meddylfryd llygad am lygad yn rhwystro'r unieithu yna?
Dan Cohn Sherbok: Na, yn bendant. Mae'n ffydd ni yn dweud wrthyn ni ein bod ni wedi bod yn gaeth yn yr Aifft, ac mae'r Pasg, sydd mor bwysig i'n ffydd ni, yn ffordd o ddathlu ein rhyddid, ac yn ein dysgu ni i deimlo dros unrhyw un sydd yn dioddef nawr.
Mae hon yn neges ganolog - bwysig - yn ein ffydd ni.
Ond os ydych chi yn teimlo fod eich hawl chi i fodoli yn cael ei fygwth, dydi hi ddim yn hawdd meddwl am ddioddefaint y Palestiniaid.
Dyw'r ofn da chi yn ei deimlo eich hun ddim yn eich gwneud chi yn ddall, ond mae'n gwneud cydymdeimlo gyda'r un sydd am roi diwedd arnoch chi yn hynod anodd.
John Roberts: Be fydd canlyniad yr ymosod yma ar Gasa ac ar Libanus? Mae llawer iawn yn sôn am hyn fel rhyfel - fe all dyfu'n rhyfel agored gyda sawl cymydog?
Dan Cohn Sherbok: Mae rhywun yn gobeithio am ryw ateb i'r cyfan. Does neb eisiau rhyfel yn y Dwyrain Canol - ac yn sicr fydd neb yn elwa o ryfel o'r fath.
Mae digon o ddioddef yno yn barod, ond efallai mai'r cyfan sydd yn bosibl i ni -y tu allan i ddigwyddiadau o ddydd i ddydd Israel, ydi gweddïo am heddwch.
 |
 |