BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cofio'r Holocost
Pwysigrwwydd cofio'r dydd
I nodi Dydd Cofio'r Holocost bu John Roberts yn holi Llion Roberts dyn camera sydd wedi bod yn ymweld â gwersylloedd fel Auschwitz, Birkenau a Belsen ac yn ffilmio a holi Iddewon a fu mewn gwersylloedd neu ag aelodau o'u teuluoedd.

Llun Mae Dydd Cofio'r Holocost yn digwydd ar yr union ddyddiad y rhyddhawyd yr Iddewon o Auschwits a Birkenau gan fyddin Rwsia.

gwrando Rhan o'r sgwrs rhwng Llion Roberts a John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul 27 Ionawr 2008

Dywedodd Llion Roberts bod cynnal diwrnod o'r fath yn hynod o bwysig:

"Mae diwrnod fel hyn yn bwysig i gofio beth mae dyn yn gallu'i wneud i ddyn a'r golled sydd wedi digwydd nid i'r Iddewon yn unig ond i lot o bobl eraill hefyd [sydd] wedi dioddef.

"Mae'n yn bwysig ein bod yn cofio diwrnod fel hyn," meddai.

"Mae'r campiau yma wedi cau er 1945 ac fe fyddai hi'n braf gweld y camp diwethaf yn cael ei gau - camp Delta Guantanamo Bay," ychwanegodd wrth gloi ei sgwrs.

Yn ystod ei sgwrs bu'n sôn am rai o'r bobl a gyfarfu a ddioddefodd yn y gwersylloedd:

Colli bob dim
"Beth sy'n sefyll allan ydi eu bod nhw wedi colli bob dim wedi colli eu teulu yn gyfan gwbl . [Fe aeth] cymaint ohonyn nhw drosodd i'r America i leoedd fel New Jersey ac Efrog Newydd a dechrau efo dim byd ac wedi bod yn llwyddiannus - rhai ohonyn nhw wedi troi allan yn Biliwnêrs.

"Ac mae yna gymaint ohonyn nhw sydd ddim yn casáu y bobl sydd wedi achosi beth sydd wedi digwydd iddyn nhw," meddai.

Cyfeiriodd Llion Roberts hefyd hefyd at ddigwyddiadau dirdynnol yn y gwersyll.

Un a welodd ei fam a'i ddau frawd yn cerdded i ffwrdd i'r siambr nwy ac yn syth i'r amlosgfa.

Ond roedd un o'r bobl oedd yn gweithio yn yr amlosgfa wedi dweud wrtho ei fod ef wedi casglu llwch y fam a gweddill y teulu a'i roi nhw mewn jar o flaen y goeden fwyaf sydd wrth ddrws cefn yr amlosgfa!

Pan ymwelodd Llion Roberts a'r carcharor a ddaeth oddi yno yn fyw a'r gwersyll yr oedd yno o hyd un goeden lawer iawn mwy na'r lleill.

"A phan welodd o'r goeden yna roedd y gwr camera yn stryglio i ddal ei gamera . Roedd yn anhygoel ei fod wedi dod drosodd," meddai llion Williams.

Adroddodd hefyd hanes carcharor arall yn dianc o drên oedd yn eu cludo ac yn cyfarfod ei frawd flynyddoedd wedyn.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy