 |
Galwyd ar gynrychiolwyr yr eglwysi a gwleidyddion ddod at ei gilydd er mwyn trechu hiliaeth.
Wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg Ddydd Sul Cyfiawnder Hiliol, Medi 10, 2006, dywedodd Dafydd Huws o Flaenau Ffestiniog: "Mae'n rhaid i'r eglwysi chwarae eu rhan i gael gwared â'r hiliaeth yma.
"Ac fe ddylai yr eglwysi chwarae eu rhan fel y dylai'r gwleidyddion.
"Dowch inni edrych a chydweithio efo'n gilydd , mae hynny'n bwysig, a symud ymlaen a chael gwared ar yr hiliaeth yma," meddai.
Cymru du Cymraeg Yn fachgen du ei groen cafodd Dafydd Huws sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Dafydd Ddu gan ei gyfeillion ei fagu yng nghartref plant Bontnewydd ger Caernarfon.
Ond dywedodd na chafodd eu unrhyw brofiad personol o ragfarn neu anghyfiawnder hiliol oherwydd lliw ei groen.
Priodolodd hynny i'r faith iddo ymdoddi yn llwyr i'r gymdeithas Gymraeg y mae'n byw ynddi.
"Dydw i erioed wedi cael problem ynglŷn â hiliaeth oherwydd rydw i wedi cyfri'n hun fel Cymro Cymraeg - ac mae yna fwy o gwmpas yr ardal rŵan, yn enwedig yng Ngwynedd, sydd yn dywyll eu croen ac yn siarad Cymraeg ac wedi cael eu derbyn i'r gymdeithas," meddai.
"Ond pan ydym ni'n sôn am fynd i drefi ac i ddinasoedd mawr fel Lerpwl a Llundain a Manceinion, fanna mae'r problemau oherwydd bod y grwpiau o bobl yma yn dŵad o, ddywedwn ni Bacistan neu India, ac maen nhw yn ffurfio eu grŵp bach eu hunain ac yn siarad iaith eu hunain hyd yn oed pan fo nhw efo'r cyhoedd yn gyffredinol ac wedyn mae'r bobl ifainc yn dueddol o fod yn eu herbyn nhw," meddai.
Cymryd rhan Dywedodd fod hiliaeth yn tueddu i ddiflannu os yw pobl yn cytuno i gymryd rhan yn y bywyd a'r diwylliant naturiol.
"Dwi'n cyfrif fy hun yn Gymro. Mi gefais i'r fagwraeth orau. Fi oedd yr unig blentyn lliw yn y Cartref ac roeddwn i yn sefyll allan ac mi ges i'r ffugenw - ac hyd yn oed rŵan pan ydw i'n mynd i Gaernarfon mae rhai pobl yn dal i fy adnabod i wrth y ffugenw Sambo - ond doedd o ddim yn poeni dim arna i oherwydd yr iaith a'r cefndir oeddwn i wedi gael," meddai.
"Mi groesawa i unrhyw un i fyw y drws nesaf i mi ac mi wnâi eu hannog i fyw ffordd mae pobl Stiniog yn byw. "Os gwna nhw dderbyn hynny a chwarae eu rhan nhw dwi'n meddwl y gallwn ni ddod dros y broblem yma," ychwanegodd.
Pwysig fod yr eglwysi yn effro Cytunodd y Parchedig Denzil John fod gan yr eglwysi ran bwysig yn yr ymgyrch yn erbyn hiliaeth.
Yn weinidog capel Tabernacl, Caerdydd, ac yn aelod o weithgor hiliaeth yng Nghymru dan ofal CYTUN a oedd yn gyfrifol am drefnu'r Sul Cyfiawnder Hiliol dywedodd:
"Mae'n bwysig bod yr eglwysi yn effro i'r hyn sydd yn hiliol ac yn hiliaeth ar draws y byd."
Ychwanegodd, "Ac o fod yn dechrau deall beth yw hiliaeth ar draws y byd rydym ni'n dechrau deall beth sydd tu ôl i rai o'r rhyfeloedd a'r ysgarmesoedd sydd yn digwydd ar bum cyfandir.
"Ond o ran beth sy'n digwydd ym Mhrydain mae'r peth yn real iawn ac y mae'r bygythiad o dan yr wyneb," meddai.
Cyfeiriodd yn benodol at fudiad y BNF gan ei ddisgrifio fel corff "sy'n peri arswyd i bob un sydd yn ymddiddori yn y maes yma."
Penawdau tabloid haerllug Dywedodd ei fod yn gofidio hefyd fod llawer o bobl yn coleddu syniadau a amlygir gan benawdau "haerllug" yn y papurau tabloid.
"Nawr pan yw pobl yn dod i fabwysiadu y math yna o osodiadau hiliol mae'n bwysig bod rhywun yn sefyll lan yn eu herbyn nhw ac oni bai fod aelodau'r eglwysi yn effro i'r hyn sy'n gyfiawnder yng nghyd-destun cymdeithas yna dydy ni ddim yn gwneud ein job," meddai.
Ac er bod llai o aelodau eglwysig nag a fu ym Mhrydain galwodd ar weinidogion, pregethwyr neu ddiaconiaid i gynnwys yn eu gweddïau ar y Sul hwn "frawddegau sydd yn effro i'r tensiwn yma" gan sicrhau fod pobl Prydain "yn llawnach eu deall o'r hyn sydd yn fygythiad i'n dinasyddiaeth ni".
Yn fyw iawn Meddai: "Os nad ydych yn dod ar draws hiliaeth yn eich cymuned chi yr ydych yn iach eich byd ar rhyw olwg ond mae y peth yma yn fyw iawn . . . mewn cymunedau fel Toxteth, Bradford a Bryste.
"Ond mae'n dda gen i ddweud nad yw mor ddrwg a hynna yng Nghaerdydd nac yng Nghasnewydd ond os nad ydym ni yn rhan o ddinasyddiaeth fyd-eang yna rydym ni'n byw mewn cilfach ddigon lletchwith.
Ynysu oherwydd hil "Mwya'n byd o ddeall sydd yna, mwya'n byd o werthfawrogiad sydd fod yna drwch o bobl yn y byd yma yn cael eu hynysu oherwydd hil.
"Mae yna bobl yn gweld brwydro enbyd oherwydd hil .
"Pe byddech chi'n gweld yr hyn sy'n digwydd yn Sierra Leone - mae'n enghraifft fach o'r rhwygiadau hiliol sydd oddi fewn i'r wlad - yna byddech yn gwerthfawrogi fod y peth yma yn arswyd enfawr i ganran reit sylweddol o boblogaeth y gwledydd hynny," meddai.
Beth yw eich barn chi? Cliciwch i anfon ebost
 |
 |