 |
Dylai fod "drws agored" i ffoaduraid yng ngwledydd Prydain yn ôl Cymro yr oedd ei fam yn ffoadur a ddihangodd o'r Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd.
Ar sail yr hyn a wyddai am brofiadau ei fam dywedodd Heini Gruffudd o Abertawe ar Bwrw Golwg, Mehefin 18, 2006:
"Mae fy nghydymdeimlad i gant y cant gyda'r ffoaduriaid yn bendant iawn.
"Achos mae cymaint o erchyllterau yn digwydd yn y byd, a rhai wedi mynd trwy gymaint o brofiadau na allwn ni eu dychmygu, rwy'n credu ei bod yn rheidrwydd inni dderbyn y ffoaduriaid fel pobl sydd yn chwilio am ail fwrw gwreiddiau ac yn y cyd-destun yna fe ddylem ni fod a drws agored i ffoaduriaid ar bob adeg," meddai.
O dras Iddewig Y mae Heini Gruffudd yn fab i Kate Bosse-Griffiths, Almaenes o dras Iddewig, y bu'n rhaid iddi ffoi o'r Almaen yn 1933 oherwydd erledigaeth Hitler o'r Iddewon.
Wedi cyfnod yn Llundain a Rhydychen ymsefydlodd yng Nghymru maes o law yn briod â'r bardd a'r llenor J Gwyn Griffiths a gyfarfu yn Rhydychen ac a oedd, fel hithau, yn Eifftolegydd.
Dywedodd Heini Gruffudd i'w fam fod yn ffodus medru ymdoddi i'r Gymdeithas Gymraeg yng Nghwm Rhondda lle'r oedd J Gwyn Griffiths yn aelod blaenllaw o'r cylch llenyddol, Cylch Cadwgan.
"Yr oedd hi'n gweithio yn yr amgueddfa yn Berlin ar adeg pan nad oedd gan Iddewon hawl i ddal swyddi cyhoeddus," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg.
Symudodd ei brawd i fyw yn Sweden ond arhosodd eu mam yn yr Almaen a dioddef oherwydd hynny.
Briwiau yn aros Ond er i'w fam gartrefu yng Nghymru, dysgu Cymraeg a chael ei derbyn yn rhan o'r bywyd Cymraeg dywedodd Heini Gruffudd i friwiau ei phrofiadau o fod yn ffoadur aros gyda hi dan yr wyneb weddill ei hoes.
"Dydw i ddim yn meddwl y gallwch chi ddileu y briwiau yna o orfod gadael ac rwy'n credu mai byw - ac mae gweddill y teulu hefyd wedi dweud yr un fath o beth; mai, ar ôl y rhyfel, ceisio byw eu bywyd orau gallen nhw fydden nhw heb agor y clawr gymaint a hynny ar y gorffennol achos bod y gorffennol mor ofnadwy," meddai.
"A falle tua diwedd ei bywyd byddai brawd fy mam yn Sweden, yn arbennig, a Mam hefyd i raddau, yn gwneud ymdrechion i sicrhau fod y genhedlaeth nesaf yn gwybod yr hanes -hanes na fydden nhw wedi gallu siarad amdano yn rhwydd iawn."
Mae cerdd o eiddo Kate Bosse-Griffiths yn y gyfrol Gwyl y Blaidd a gyhoeddwyd fel rhan o weiuthgareddau Wythnos Ffoaduriaid 2006.
 |
 |