 |
Dylai pobl ifanc ofyn rhai cwestiynau sylfaenol cyn ymuno â chynlluniau gwaith gwirfoddol dramor yn ôl swyddog VSO ar y rhaglen Bwrw Golwg.
A hithau'n awr yn gyfnod pan fo llawer o bobl ifainc yn ystyried cymryd 'blwyddyn allan' neu 'gap year' mae pryderon y gall y math hwn o weithgarwch wneud mwy o ddrwg nac o les ar rai adegau.
Twristiaid elusennol Yn wir, aeth cyfarwyddwr VSO, Judith Brody, cyn belled a dweud nad yw rhai o'r gwirfoddolwyr hyn yn ddim gwell na "threfedigaethwyr newydd" neu "dwristiaid elusennol" nad ydynt o fawr o fudd i'r cymunedau y maent yn treulio eu hamser allan ynddyn nhw.
Ar Bwrw Golwg bu un arall o weithwyr VSO, Ceris Jones, yn sôn am ei phrofiadau hi yn gweithio dramor ac yn cynnig gair o gyngor i eraill sy'n meddwl gwneud y gwaith hwn.
Ar hyn o bryd mae Ceris, sy'n dod o Dywyn, Meirionnydd, yn gweithio ar gynllun newydd sy'n paru naw o bobl o Brydain gyda naw o'r India i gydweithio a'i gilydd fel bod y manteision yn ddwyffordd.
Angen bod yn ofalus Ond cyn hyn bu'n gwneud gwaith gwirfoddol ar ei phen ei hun yn y Gambia ac wedyn gyda VSO yn Nepal.
Eglurodd beth yw pryderon VSO:
"Mae yna lawer iawn o gwmnïau sy'n trefnu gweithgareddau 'gap'," meddai, "ac mae angen cymryd gofal fod yr hyn sy'n digwydd ar y gweithgareddau yma yn dda i'r person ifanc ac i'r gymuned lle maen nhw'n mynd.
"Beth ydym ni'n poeni amdano yw fod y pwyslais weithiau [fwy] ar brofiad y person ifanc yn hytrach na phrofiad y gymuned a does dim pwyslais ar beth sy'n mynd i ddigwydd pan fo'r bobl ifanc yn gadael.
"Felly mae angen gwneud yn siŵr fod y gymuned yn gwybod beth sy'n digwydd ar ôl i bobl adael."
Yr oedd hi'n amheus hefyd o agwedd sy'n bodoli mai gweithgarwch unffordd yw hwn gyda phobl yn mynd "o'r wlad yma" i helpu tlodion gwledydd eraill.
"Ond y gwir ydi ein bod ni yn gallu dysgu llawer iawn gan bobl gwledydd eraill - a phobl gwledydd eraill yn gallu cyfrannu llawer iawn, iawn, i ni hefyd," meddai.
Rhesymau hunanol Cyfaddefodd ei bod hi ei hun yn enghraifft o sut y gall gwirfoddolwr fod dan gamargraff.
"Mae'n rhaid imi gyfaddef - mi'r oedd [fy rhesymau] yn eithaf hunanol. Yr oedd gennyf ddiddordeb mawr mewn gwledydd gwahanol - mewn pobl o wledydd gwahanol - felly roeddwn i eisiau mynd i ddarganfod fy hunan," meddai.
"Pan es i allan ar fy mhen fy hun es i allan i fyw gyda theulu Cymraeg oedd wedi symud i fyw yn y Gambia. Doeddwn i ddim yn gwybod yr iaith o gwbl.
"Es i weithio am wyth wythnos mewn ysgol fach ac yr oedd hyn yn brofiad ardderchog i mi yn bersonol ond dydw i ddim yn siŵr beth gafodd y plant yn yr ysgol allan ohono fo," meddai.
"Ond efo VSO, pan es i Nepal, cefais fis o hyfforddiant yn syth ar ôl cyrraedd yn y wlad - hyfforddiant iaith a hyfforddiant diwylliannol. Pethau fel bod yn rhaid defnyddio'r llaw dde i fwyta ac i ysgwyd llaw efo rhywun a pha fath o ddillad i'w gwisgo a phethau fel yna . . .
"A phan adewais i doedd yna ddim 'gap' ac yr oedd pobl lleol yn [parhau] i wneud y gwaith ar ôl imi adael," meddai.
Cynghorion Ceris:
"Mi fyddwn i'n awgrymu eu bod yn gofyn ambell i gwestiwn ac yn gwneud ymchwil cyn mynd i wneud yn siŵr, os ydyn nhw'n mynd gyda chwmni sy'n trefnu prosiect, eu bod yn holi faint o arian sy'n rhaid dalu ac i beth y defnyddir yr arian."
"Gofyn fait o hyfforddiant maen nhw'n gael cyn gadael. A ydyn nhw am gael hyfforddiant iaith, cymorth diwylliannol."
Gofyn am gael siarad gyda phobl sydd wedi bod dramor yn barod gyda'r cwmni. "Mae'n gallu helpu lot siarad efo rhywun sydd wedi gwneud hyn o'r blaen," meddai.
"Ac fe fyddwn yn awgrymu eu bod yn gofyn beth yn union fyddan nhw'n i wneud yn y gymuned a sut y byddan nhw'n gweithio gyda phobl yn y gymuned," meddai.
 |
 |