BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Carl Cooper - cyhoeddi y bydd ef a'i wraig yn gwahanu Priodasau dan straen
Priodas offeiriaid a gweinidogion dan bwysau mawr
Bu Bwrw Golwg yn trafod y pwysau arbennig sydd ar fywyd priodasol arweinwyr crefyddol a thuedd arbennig offeiriaid a gweinidogion i fynd yn isel eu hysbryd.

Yr oedd y drafodaeth yn dilyn cyhoeddiad yr Esgob Carl Cooper, Tyddewi, y bydd ef a'i wraig, Joy, yn gwahanu.

Bu John Roberts yn holi y seiciatrydd Dr Dafydd Alun Jones, sydd hefyd yn ymgynghorydd i'r Gwasanaeth Cynghori Eglwysig, a ddywedodd fod ysgariad yn creu "loes arbennig iawn" pan yw'n digwydd i rai ym maes crefydd.

"Ac mae'n tanlinellu sefyllfa mor anodd a mor fregus maen nhw'n byw ynddi hi," meddai.

gwrando Y Dr Dafydd Alun Jones yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg fore Sul 24 Chwefror 2008.

Trydedd elfen mewn priodas
Ychwanegodd fod pwysau mwy na'r cyffredin ar briodas rhai mewn bywyd cyhoeddus gan ddibynnu ar bersonoliaeth yr unigolyn a sut y mae wedi cyrraedd safle o bwys.

"Yn gyntaf, rhaid ichi feddwl sut berson ydi'r person yma, sut mae o wedi mynd yna, pa mor egniol, pa mor benderfynol, pa mor ddigymrodedd - pa mor anodd i fyw efo fo y gall person fod sydd â'r egni digonol i ddod i ben y domen.

"Fel mae'r hen air yn dweud, dydi saint ddim yn bobl arbennig o hawdd i fyw efo nhw," meddai.

"Wedyn, mae gennych chi yr amgylchiadau - os ydych chi ar alwad y byd bob amser , os ydi pobl yn disgwyl medru galw arnoch chi, disgwyl gwasanaeth, disgwyl ymateb - yn enwedig felly i rywun sy'n offeiriad.

"Mae yna bwysau, mae yna drydedd elfen yn y briodas . Nid chi a'ch gwraig a'ch plant ond mae gan y byd hawl arnoch chi."

Cynnig cymorth
Dywedodd i'r Gwasanaeth Cynghori Eglwysig gael ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl gan yr Archesgob Alwyn Rice Jones, Y Parchedig Dafydd Owen o'r Hen Gorff gyda help gan y Wesleaid a chyswllt agos gyda'r Eglwys Gatholig, i gynorthwyo a chynnig cyngor ynglŷn â'r materion hyn.

"Rhywbeth i roi cymorth i offeiriaid a gweinidogion . . . [ac] yn rhoi cyngor a chymorth a fyddai'n adnabod sefyllfaoedd arbennig. A hefyd adnabod eu nerthoedd arbennig nhw," meddai Dafydd Alun Jones.

Teimlo iselder
"Ac mae yna rai pethau y mae pobl grefyddol yn arbennig o dueddol iddyn nhw ac yn bethau na fyddai pobl eraill yn eu hadnabod," meddai.

"Er enghraifft, un o'r pethau mwyaf ofnadwy i bobl grefyddol ydi mynd yn isel a methu ymdeimlo â'u ffydd. Meddwl eu bod wedi colli ffydd a theimlo rhyw wacter a rhyw ofn ofnadwy.

"Methu teimlo eu bod yn credu. Ac eto, mae hyn yn nodwedd o bobl yn isel. Maen nhw'n methu caru, maen nhw'n methu ymdeimlo ac yn methu ymdeimlo â'u ffydd," meddai.

Dywedodd ei bod yn bwysig gallu egluro iddyn nhw beth sy'n digwydd iddynt.

Fel iâr yn y glaw
"Mae o'n rhywbeth sy'n glir iawn yng ngwaith Pantycelyn [sy'n] sôn am yr iselder . . .

"Mae yna ddisgrifiad ohono fel iâr yn y glaw wedi gwlychu ei phlu a phan fyddai o'n ddistaw byddai'n deffro yn y nos , fel mae pobl sy'n isel, ac fe fyddai'n meddwl am rywbeth ac mi waeddai ar ei wraig; 'Mali, Mali, cannwyll, cannwyll!' ac mi fyddai'n agrifennu rhywbeth.

"Ac yn y cyfnodau 'pan elai ei ysbryd yn is na seiliau'r cread' y byddai o'n meddwl y meddyliau mawr y byddai o wedyn yn eu troi yn emynau ac yn llyfrau.

"Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n sylweddoli ein bod yn trin y bobl yma mewn ffordd ddoeth a phriodol a'n bod ni ddim yn difetha y nwydau sy'n eu troi'n gantorion," meddai.

Dywedodd bod y gwasanaeth yn cael tua 50 o alwadau bob mis gan gynnwys rhai oddi wrth unigolion nad ydynt yn offeiriaid.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy