BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Comin Greenham - Meg Elis yn cofio
Gwahoddiad i anfon eich sylwadau ar gyfer rhaglen arbennig
Mae Bwrw Golwg yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o wersyll heddwch Comin Greenham ac efallai wedi treulio rhywfaint o amser yno.

Fis Medi bydd rhifyn arbennig o'r rhaglen yn cael ei darlledu i nodi 25 mlynedd cychwyn un o brotestiadau heddwch enwocaf gwledydd Prydain pan gododd gwrthdystwyr gwrth-niwclear wersyll heddwch y tu allan i wersyll Americanaidd ger Newbury yn ne Lloegr.

"Os buo chi yno neu os oes gennych chi atgofion am y cyfnod ebostiwch Bwrw Golwg," meddai John Roberts, cyflwynydd a chynhyrchydd y rhaglen.

Hynodrwydd arbennig y gwersyll oedd mai gwersyll i ferched yn unig oedd o gyda miloedd o ferched yn uno a'i gilydd i wrthwynebu lleoli taflegrau Cruise yno.

Dal i gael ei gofio
Yr oedd cefnogaeth arbennig o gryf i'r gwersyll o Gymru ac ymhlith y rhai a dreuliodd amser yno yr oedd Meg Elis a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol gyda llyfr a seiliwyd ar ei phrofiadau.

Eleni - bum mlynedd ar hugain ers sefydlu'r gwersyll - dywedodd Meg Elis ei fod yn codi ei chalon hi fod yr enw yn dal i gael ei gofio.

"Mae'n galonogol fod pobl yn ei gofio ac yn rhywbeth y mae cyfeirio ato fo o hyd," meddai wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg fore Sul, Awst 20, 2006. "Fel yr ydw i wedi dweud lawer gwaith o'r blaen; yr oedd o'n beth mor rymus bod yno dwi'n meddwl ei fod wedi gwneud argraff fawr ar bron bawb a fu yno," meddai.

Grym ysbrydol
Ychwanegodd ei bod yn teimlo ar adegau fod yna rym ysbrydol yn y weithred.
"Ac, wrth gwrs, oherwydd amrywiaeth y merched oedd yno yn ei anterth roedd yno bresenoldeb a thystiolaeth Gristnogol a chrefyddol.

"Roedd rhai o'r merched wedi mynd yno oherwydd argyhoeddiadau Cristnogol dwfn, heddychlon, cryf ac hefyd roedd yna elfen ysbrydol yn yr ystyr eich bod chi'n teimlo eich bod o'r un ysbryd .

"Ond hefyd dwi'n cofio cynnal gwylnos Greenham yno efo nifer o ferched lle yr oedd rhywun yn darllen darn o'r Ysgrythur bob awr ar yr awr am bedair awr ar hugain ac yr oedd hynny yn un o'r pethau mwyaf grymus dwi wedi'i deimlo erioed.

"Dychmygwch ddarllen yr un adnod, 'A bu tywyllwch dros yr holl ddaear' am dri o'r gloch y pnawn.

Y Ffens
Ond 'y ffens', meddai oedd symbol mawr Comin Greenham.
"Hwnnw oedd yn cael ei ysgwyd a'i ddringo a'i falu. Hwnnw oedd y gwahanfur rhwng y gwersyll a'r dystiolaeth tu allan. A'r hyn tu mewn yr oedd rhywun yn brwydro yn ei erbyn o - y taflegrau yn eu presenoldeb corfforol.

"Ond hefyd y cwbl yr oedd gwersyll milwrol yn ei gynrychioli," meddai.

Cymaint o deimladau
Dywedodd fod nifer o deimladau cymysg yn aros yn y cof dros ugain mlynedd yn ddiweddarach:
"[Yr oedd] yna gymaint o deimladau. Teimladau o ddiymadferthedd mewn ffordd ond eto bod yn rhaid ichi ei wneud o.

"Wrth gwrs, roeddwn i'n fam ifanc efo dim ond dau o blant . . . mân iawn ac yr oedd rhywun yn teimlo yn fwy ymwybodol o'r bygythiad oedd iddyn nhw ac i'w bywydau nhw.

"A'r ymdeimlad yna oedd gan y merched i gyd ; y teimlad yna o chwaergarwch os mynnwch hi ymysg merched oedd mor wahanol o ran oed, cefndir, daliadau - pob dim.

"Hynny sydd wedi gwneud argraff arna i a hefyd y cydbwysedd, neu anghydbwysedd grym - y milwriaeth tu mewn i'r gwersyll ond, bobl annwyl, yr oeddech chi'n teimlo mai'r tu allan i'r gwersyll roedd y gallu a'r gogoniant, os cai'i roi o fe'na."

  • Os ydych chi am rannu atgofion am Gomin Greenham a'r gwersyll heddwch gallwch ebostio bwrw.golwg@bbc.co.uk yn awr.
  • Gallwch ebostio lluniau hefyd i'w cyhoeddi ar y wefan hon.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy