 |
Bum mlynedd ar hugain yn ôl gwelwyd cychwyn y brotest gwrth-arfau niwclear gyda'r enwocaf a fu erioed.
Ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Medi 24, 2006, bu Sian Gwenllian yn olrhain hanes protest ryfeddol merched Comin Greenham - yn eu plith Mary Millington a fu yno am bum mlynedd, Jill Evans a Sian ap Gwynfor.
Eglurodd Sian Gwenllïan mai'r bwriad oedd "tanio trafodaeth gyhoeddus" am benderfyniad dadleuol y Llywodraeth i gartrefu taflegrau Cruise yn y gwersyll milwrol Americanaidd yn ne Lloegr.
"Trodd merched Greenham yn lleisiau i'r bobl oedd yn gwrthwynebu arfau niwclear ac yn gwrthwynebu parhad y rhyfel oer," meddai Sian Gwenllian a oedd ar y pryd yn ohebydd gyda'r BBC yn Aberystwyth ac a deithiodd i Greenham gyda llond bws o ferched.
"Yn aros yn y cof y mae'r eitemau personol oedd wedi eu clymu i ffens fawr haearn, teganau, dillad plant a lluniau teulu - a'r milwyr yn y pellter tu mewn i'r ffens," meddai.
Wrth gwrs, yr hyn a wnâi'r brotest hon yn unigryw oedd mai dim ond merched a gymerai ran gan fyw mewn gwersylloedd bychain o gwmpas y Comin a dioddef cryn galedi personol.
Dyma ddetholiad o rai o'r pethau a ddywedwyd ar Bwrw Golwg
Y ffens yn symbol
Sian ap Gwynfor: "Roedd y ffens wedi dod yn fath o symbol lle'r oeddem ni'n gallu gosod lluniau, gwneud gweadau. Roedd e'n rhywbeth oedd yn dangos i'r byd y tu allan mai dyma beth fyddai'r byd yn datblygu i fod - y ni a nhw - nid ein bod ni yn teimlo ein bod ni'n well ond yn y cyfnod arbennig hwnnw roedd yn rhaid dangos i'r byd fod yna ddrwg. Bod yna dda.
Maen nhw wedi cyrraedd! "Roeddem ni jyst yn byw o gwmpas y tân fel arfer, yn siarad, pan ddywedodd rhywun, Maen nhw wedi cyrraedd ac roeddem ni jyst yn rhedeg o amgylch y ffens lle'r oedd yn bosibl gweld yr awyren fawr, fawr, oedd wedi glanio ac roedd pethe yn cael eu tynnu mas ohono fe . Ro'n i jyst yn llefain dwi'n credu ac yn teimlo'n wachul."
Neb wedi meddwl y byddai'n tyfu Jill Evans: "Roeddwn i'n weithgar yn y grŵp CND yn y Rhondda ac wedi clywed am fenywod oedd yn cerdded o Gaerdydd i Gomin Greenham.
"Dydw i ddim yn meddwl fod neb ar y diwrnod wedi meddwl am funud ei fod yn mynd i dyfu fel gwnaeth e achos yr oedd llawer o ymgyrchu yn mynd ymlaen dros y wlad i gyd a llawer o bethau gennym ni yng Nghymru fel protest yn erbyn lloches niwclear ym Mhenybont-ar-Ogwr ac un arall yng Nghaerfyrddin . . .
". . . ond roedd yr un yma yn un arbennig achos taw merched oedd yn ei drefnu ac er ei fod yn grŵp bach ar y diwrnod cyntaf yna yn cychwyn o Gaerdydd roedd rhywbeth gwahanol amdano fe achos bod merched a phlant yn arwain ac yr oedd y gwrthgyferbyniad yna o'r ddelwedd ohonyn nhw a delwedd o daflegrau Cruise a milwyr mor gryf a hynny wedi cydio ym mhobl rhywsut.
"Rydw i yn cofio mynd adref ar y diwrnod yna. Roedd hi wedi bod mor boeth ac roeddwn i wedi cerdded deng milltir a dod nôl o Gasnewydd ac wedi blino'n lân ac rwy'n cofio mynd adref a rhoi'r teledu ymlaen a doedd dim byd ymlaen a doeddwn i ddim yn gallu cael dim gwybodaeth a dim manylion amdanyn nhw nes eu bod wedi cyrraedd y gwersyll a phenderfynu aros yno.
"Yr oedd yn rhai misoedd cyn i bobl ddechrau ymweld a'r gwersyll ond unwaith roedd hynny yn digwydd roedd wedi cael effaith ryfedd iawn dwi'n credu ar fenywod - yng Nghymru yn arbennig - achos bod unrhyw un yn gallu bod yn rhan o'r gwersyll, bod unrhyw un yn gallu bod yn fenyw Greenham."
Ysu am gael mynd
Mary Millington: "Roeddwn i'n aelod o'r Crynwyr . . . yn Rhydychen ac yno y clywais i am Comin Greenham ac o'r dechrau roeddwn i'n ysu mynd i ymweld â'r lle ond gyda phlentyn 11 roedd yn amhosib.
"Ond wedyn, roedd hi'n anhapus iawn yn yr ysgol ganolog a [phenderfynais] y buasai'n dda iddi fynd i fyw gyda'i thad oedd wedi priodi eto a dechrau o'r dechrau mewn ysgol newydd ac felly roeddwn i'n rhydd i fynd i Greenham.
"Ymweles i â'r lle i weld a oedd e'n iawn i mi fyw yno. . .
"Efallai bod chwech o ferched yn y gwersyll ar y pryd, rhai wedi mynd i siopa, rhai yn gwneud rhywbeth arall. Un o Fargoed oeddwn i'n siarad â hi ac yn arall gydag Mohican mawr ar ei phen ac roeddwn i'n meddwl fod pob math o fenyw[od] yn gwersylla yno ac roeddwn i jyst yn ysu i fyw gyda nhw a dywedo nhw fod hynny'n iawn a bod croeso i mi ac felly, wythnos neu ddwy yn nes ymlaen cyrhaeddais i gydag aelodau Grŵp heddwch Wood Farm lle'r oeddwn i'n byw."
Mynd â'r carafannau Ychydig wythnosau wedyn yr oedd eviction mawr.
"Roedd 11 ohonom ni yno ar y pryd ac un o fenywod Newbury yn dod i'n cefnogi ni hefyd ac roedd hi'n llefain wrth iddyn nhw jyst ddwyn ein carafannau i ffwrdd a gadael dim byd.
"Daeth y plant yn ôl o rywle ar y bws a jyst gweld fod y carafannau wedi mynd ac roedd y plant oedd yn bedair oed at y pryd jyst yn llefain achos roedd eu cartref nhw wedi mynd."
Rhywun yn gweiddi 'Beiliffs'
"Roedd rhywun yn gweiddi "Beiliffs" a beth bynnag oeddech chi'n wneud - ymolchi yn eich pabell - roedd yn rhaid brysio, brysio, pacio popeth a thynnu'r babell i lawr a rhoi popeth mewn fan a gyrru'r fan i ffwrdd.
"Ond doedden nhw ddim yn gallu'n symud ni o'r lle, roedd hawl gennym ni i fod ar y comin o dan y gyfraith leol."
Ddydd a nos
"Yr oeddem yn gwylio nos a dydd i weld a oedden nhw'n mynd i ddod â'r taflegrau mas am hyfforddiant."
Yn lle mor fawr
SaG: Rwy'n cofio cyrraedd y gwersyll a chael sioc anferthol fod y lle mor fawr. Roedden nhw'n sôn drwy'r amser am y perimeter fence ac roedd e'n filltiroedd ar filltiroed ar filltiroedd o hyd .
"Roedd hi'n anodd iawn ar y cychwyn. Roeddwn i'n darganfod fod pawb yn byw mewn rhyw fath o tipîs a rhyw fath o bebyll.
"Roeddem ni'n gorfod cynnau rhyw dân a phawb yn crynhoi o gwmpas y tân ac yn gwneud rhyw gawl a berwi tegell ac yn y blaen ac roedd hwnna yn apelio ataf i achos roedd o'n rhyw fath o fynd nôl yn agosach at fyd natur . . . roedd e fel cerdded i fyd hollol wahanol."
Menywod yr un oed a'u mamau "Roeddech chi'n disgwyl gweld milwyr o gwmpas y lle ond roedd cymaint o heddlu o gwmpas hefyd a doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o densiwn.
Y milwyr oedd yn anghyfforddus . . . yn enwedig pan oedden nhw'n gweld menywod yr un oedran a'u mamau."
Canu clychau "Roedd pethau yn gallu bod yn anodd iawn ac fe fyddai yna rhyw lwyth, rhyw gargo yn cyrraedd. Loriau yn cario arfau ac yn y blaen ac fe fyddai yna ugeiniau, cannoedd, o ferched yn dod at ei gilydd yn canu clychau, yn canu i roi gwybod i'r giatiau eraill ac yn creu blocâd i rwystro'r loriau rhag mynd i mewn. Dyna oedd ein diben ni, dyna oedd ein pwrpas ni. Tynnu sylw at yr hyn oedd yn digwydd."
Protest penwythnos JE: "Roeddwn i'n gallu mynd nôl [adref] ddydd Sul a mynd i'r gwaith ddydd Llun a theimlo mod i wedi gwneud rhywbeth dros y penwythnos. Fy mod i wedi cyfrannu at ennill y frwydr yma dros heddwch. [Roedd] e'n rhywbeth oedd yn aros gyda fi drwy'r wythnos.
"Bob tro oeddwn i yn gadael roeddwn i'n teimlo y buasai'n well gen i aros a bod yn fenyw Greenham llawn ond mae'n rhaid derbyn bod pawb yn gwneud beth oedden nhw'n gallu'i wneud a chyfrannu mewn ffyrdd eraill ... roedd cymaint o bethau yn digwydd mewn cymunedau yng Nghymru a hynny'n cyfrannu at Greenham."
Dim dynion SaG: "Yr oedd yn anodd i mi achos roedd y gŵr yn dymuno dod gyda'r plant . . . w nes i ffonio fe a dweud 'Mae'n bosib na chei di mo'r un croeso wrth bob clwyd.'
"Doedd e ddim yn deall hyn oherwydd roedd e mor gefnogol ac roedd ef yn bersonol wedi bod yn rhan o'r frwydr dros ddiarfogi ond rhaid i minnau hefyd drio parchu dymuniad y gwragedd eraill [oedd] yn ei weld e fel rhywbeth oedd yn bwysig i roi drosodd ar y cyfryngau er mwyn cael y sylw gorau i'r ymgyrch [ac er fy] mod i'n anghytuno i ryw raddau roedd yn rhaid imi barchu dymuniad y gwragedd oedd wedi aberthu ac wedi treulio blynyddoedd yno.
Yn Gymraes ac yn Gristion "Fe fyddem yn cytuno ein bod ni yno oherwydd bod arfau niwclear yn ddieflig a bod yn rhaid i ni fod yn rhan o'r broses i waredu'r byd o arfau. Nage jest arfau niwclear sy'n peryglu dyfodol . . .
"Roeddwn i yno fel Cristion ac roeddwn i yno fel Cymraes ac oherwydd fy mod yn Gristion. [Roeddwn] yn gweld dyfodol y byd dan fygythiad a beth oedd Duw trwy Iesu, trwy'r Testament Newydd, wedi'i ddysgu i mi mai cariad yw Duw . . . [a'i fod] yn gariad y mae'n rhaid ichi ddangos ei fod ar waith yn y byd.
"Oedden nhw'n gweld hwnna yn rhywbeth rhyfedd iawn. Doedden nhw ddim yn deall pam oeddwn i yno fel rhywun oedd yn arddel rhywun arall fel Arglwydd ar eu bywydau ac roeddwn i'n trio esbonio ac yn dweud onid dyna yw rhan o'r broblem - y broblem sy'n ein hwynebu ni fel dynoliaeth yw unigolyddiaeth ac fe fyddai'r sgwrs yna yn mynd ymlaen am oriau.
Dan orchymyn i beidio siarad "Rwyf wastad wedi credu ei bod yn bwysig i siarad ac i fynd mewn i drafodaeth gyda phobl.
"Ac roedd y milwyr . . . dan orchymyn i beidio siarad ond pan fyddem ni'n cael cyfnodau pan oeddem ni ar ein pen ein hunain mi fyddem ni'n trio cynnal sgwrs gyda'r milwyr achos yr oedd yna gyfnodau yn yr hwyr a hithau wedi tywyllu pan nad oedd hi ddim yn saff inni gerdded o gwmpas y perimetr oherwydd roedden nhw'n [y milwyr] yn towlu cerrig enfawr, tu allan i'r ffens, tuag atom ni - dyna'r adegau pan oeddem ni'n teimlo, Reit mae'n rhaid inni gael sgwrs ac fe fydden nhw'n synnu ac yn rhyfeddu ac yn gofyn, Pam ydych chi yma? A ninnau'n gofyn iddyn nhw, Pam ydych CHI yma ac yr oedd hwnna cyn bwysiced a'r gweithredu uniongyrchol - y drafodaeth.
Protest Embrace the Base Rhagfyr 1982, 30,000
Binnie Jones, Blaenau Ffestiniog: "Doedd o ddim jyst eich 'professional protesters' chi. Roedd yno ferched o bob oed a phlant ac roedd jyst y lliwiau a'r baneri o bob rhan o'r wlad.
"Ar y dydd Sul roedd pawb ag ysbryd reit uchel fuaswn i'n dweud. Oedd o reit sbesial.
'Dyma oedd y dewis' "Be dwi'n gofio am y diwrnod yw bod tu fas i un o'r gatiau a gweld y bysus yn dod heibio un ar ôl y llall a meddwl bod nhw byth yn mynd i stopio.
"A chymaint o fenywod yn cerdded lan yr heol o'r bysus . . . ac wedyn roeddem yn cerdded a cherdded a cherdded rownd y ffens i ddal dwylo i amgylchu y safle.
"Ac roeddwn i'n wreiddiol yn meddwl ei bod yn amhosib a'u bod yn disgwyl gormod [ond] yn araf yn sylweddoli'n bod ni'n mynd i'w wneud e.
"A phobl yn mynd a dillad plant a lluniau o blant - mi es i a llun plant fy mrawd - a'u clymu nhw ar y ffens fel bod y ffens i gyd yn lliwgar ond hefyd yn ddelwedd o deuluoedd a phlant a dyfodol ein byd .
"Dyma oedd y dewis - dyfodol eich plant neu arfau niwclear."
Yn bwerus BJ: "Roedd yna dipyn o bethau wedi cael eu clymu ar y weiran. Tedis plant a gwahanol deganau ac roedd hwnna yn reit bwerus.
"Aeth y lluniau rownd y byd wedyn ac fe roddodd o hyder ac ysbrydoliaeth i ferched fedru dweud, Reit, oce dyda ni ddim eisiau'r arfau yma fel rhyw legacy i'n plant ac i blant ein plant.
"A'r busnes o ddweud Na wrth rywbeth mor erchyll. Roedd reit bwerus.
Dim tai bach
MM: "Roedd o'n sioc i ni y rhai ohonom oedd yn byw yno . . . cymaint o fenywod oedd yn dod.
Cyn iddyn nhw gyrraedd roeddem ni'n poeni'n ofnadwy roeddem ni wedi archebu tai bach symudol ac ar y munud diwethaf am reswm amheus iawn roedden nhw'n gwrthod dod â nhw ac felly roedd rhaid i bobl jyst wneud tyllau yn y pridd ac yn y blaen ac wedyn roedd . . . y papurau newydd yn dweud ein bod ni'n frwnt iawn ac wedi gadael y Comin mewn stad ofnadwy. Ond roedd hynny'n fwriadol dwi'n meddwl."
Pethau bach
BJ: "Roeddwn i wedi poeni'r noson gynt be dwi'n mynd i wisgo, faint o gynnas ydw i'n mynd i fod. Rhyw bethaf bach hollol practical sy'n gwneud ichi deimlo'n euog braidd eich bod chi'n poeni pan ydych chi'n trio newid y byd mewn ffordd."
Ymosod efo ci
SaG: "Wnes i lwyddo i dorri'r ffens mewn un man a chamu drwyddo.
"Ac roedd yna fryn gyferbyn ac ar y bryn roedd yna heddwas [a'i gi] . . . a dyma'r heddwas yn rhedeg lawr y bryn . . . ac o fewn ychydig eiliadau roedd e ar fy mhen i a'r ci a'i bawen dros fy nghefn i a'r heddwas wedi troi mraich i mewn rhyw fodd ofnadwy.
"Ac roeddwn i mewn cryn boen ar y pryd ac roedd e wedi rhoi'i ben glin yn fy nghefn i a'r ci uwch fy mhen i a minnau mewn dagrau ac yn bloeddio mewn poen.
"Ac am ychydig eiliadau doedden nhw ddim yn barod i neb ddod trwyddo i fod gyda fi.
"Wedyn wnaetho nhw ganiatáu i fy chwaer yng nghyfraith ddod trwodd a wedyn yr unig gof sydd gen i yw y strejar yn dod lawr ac yn fy nghario i adain yr ysbyty oedd o fewn y base . . .yn ddiweddarach fe ddaeth yna achos llys ac fe ddywedodd y cyfreithiwr nad oedd dim llawer o siawns gen i."
Wedi blino
MM: "Roedd yn teimlo'n rhamantus iawn am ychydig o flynyddoedd . . . cyntaf ond erbyn y diwedd roeddwn i wedi blino ac roedd pobl yn anghytuno a'i gilydd ac roedd problemau rhwng grwpiau o fenywod a phethe chwerw iawn weithiau.
"Roedd yn gymysgedd o bethe hyfryd iawn a phethau diflas, diflas, iawn sy'n anodd delio â nhw weithiau."
Diolch i'r merched
JE:"Merched Greenham oedd wedi gwneud y penderfyniad [i anfon taflegrau Cruise yn ôl] yn bosibl.
"Pe na bydden nhw wedi codi ymwybyddiaeth pobl fel y gwnaetho nhw, pe na buasen nhw wedi creu y ddelwedd yna o heddwch fel y gwnaetho nhw fyddai'r penderfyniad yna ddim wedi cael ei wneud mor gynnar.
"Ac yn awr [heddiw] yr ydym yn wynebu sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn cynllunio arfau niwclear newydd ac felly rydym ni eisiau edrych yn ôl i ddysgu ac i baratoi ar gyfer brwydr arall."
 |
 |