 |
 |
 |
Golchi beiau a phechodau Ymchwil gwyddonol yn awgrymu y gellir golchi ymaith bechodau'r byd |
 |
 |
 |
A yw hi'n bosibl i bobl olchi, yn llythrennol, eu pechodau i ffwrdd?
Mewn erthygl yn y cylchgrawn Science mae dau wyddonydd yn dadlau fod ymolchi yn ffordd o gael gwared ag effaith gweithred anfoesol.
Yn yr erthygl, Washing Away Your Sins- Threatened Morality and Physical Cleansing, dadleua Chen-Bo Zhong a Katie Liljenquis o Brifysgol Toronto a North Western, Chicago fod cysylltiad uniongyrchol rhwng y weithred gorfforol o ymolchi ac ymdeimlad o lendid ysbrydol wedyn.
Effaith Macbeth Dyma'r hyn sy'n cael ei alw ganddyn nhw yn Effaith Macbeth gan gyfeirio yn ôl at Lady Macbeth yn nrama Shakespeare yn erfyn am gael golchi gwaed ei phechodau oddi ar ei dwylo.
Terry Thomas, a fu'n ddarlithydd astudiaethau crefydd yn y Brifysgol Agored, a 'r Seiciatrydd, Dr David Enoch fu'n trafod hyn gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Medi 10, 2006. Dyma grynodeb o beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud:
David Enoch: "Do, fe geisiodd Lady Macbeth, gydag ychydig o ddŵr, olchi i ffwrdd craith llofruddio y Brenin Duncan - Out damned spot, out I say. Ceisio gwaredu yr euogrwydd ynghylch y llofruddio [roedd hi] ond wrth gwrs yn achos Lady Macbeth yn methu.
"Sylwais fod yr ymchwiliad hwn yn dangos - ac efallai yn profi - fod y weithred gorfforol o olchi yn gwaredu dynion o euogrwydd yn digwydd yma. . . Br> Y cwestiwn yw; A yw'r weithred gorfforol ei hunan yn delio â'r euogrwydd meddyliol ac emosiynol , ysbrydol?
"Maen nhw'n dweud [ei fod] ac wedi dangos . . . yn arwynebol fod hyn yn digwydd yn uniongyrchol ond efallai mai rhyw effaith placebo yw hyn gyda ffocws ar y golchi a'r golchi a'r glanhad yn mynd gyda'i gilydd ac wedyn mae yna effaith seicolegol yn digwydd a'u bod nhw yn derbyn eu bod wedi cael glanhad o'r euogrwydd sydd ganddyn nhw a'r anfoesoldeb."
Cytunodd y gallai fod llawer o les yn hynny ac nad peth drwg yw effaith placebo hyd yn oed.
"Yn wir mae llawer o'r drygiau rydym ni'n roi, effaith placebo yw'r effaith mwyaf. Rydym ni'n gwybod bod effaith arbennig placebo yn bod a dyna un eglurhad ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ymchwiliad yma."
Terry Thomas: Dywedodd fod y pwyslais ar olchi i'w gael mewn llawer o grefyddau.
"Yr ymgais yma yw i brofi fod hyn yn digwydd lle na bo crefydd yn bod - does dim sôn am grefydd ymhlith y bobl sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil ac fe fyddai'n dda cael gwybod beth oedd eu cefndir nhw.
"Dyw pawb ddim yn ymateb yn y ffordd iawn ta beth gyda rhai yn cymryd dim sylw o gwbl ond mae pobl yn ymolchi bob dydd ac fe fyddwn i'n hoffi gwybod faint o bobl sy'n codi yn y bore ac yn mynd i gael cawod ac yn meddwl eu bod nhw yn puro eu corff
"Rydw i'n gweld yr ymchwil yma braidd yn denau."
John Roberts: "Mae yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â pherthynas y corfforol a'r ysbrydol - ond dydi o ddim yn cyffwrdd a dyfnder euogrwydd er enghraifft.
TT: "Nag ydi - beth fyddwn i am gael ei wybod yw beth mae'r bobl ifainc yma yn ei gyfrif fel rhywbeth i fod yn euog yn ei gylch."
JR: "I ba raddau mae'r ffydd sydd gan rywun yn y weithred neu y ddefod [yn bwysig]. A yw y ffydd yn [bodoli] yn y weithred ei hun ynteu a yw'n ffydd yn yr hyn mae'n gynrychioli?"
TT: "Mae gwahanol farn am hyn. Y peth gwreiddiol yw fod crefyddau yn fudiadau da iawn i greu euogrwydd mewn pobl a phobl wedyn eisiau cael gwared â'r euogrwydd ac mewn ambell i grefydd fel Islam maen nhw 'n cael eu dysgu mai fel hyn mae hi i fod i buro'r corff.
"Rwy'n edrych ar ddarn o ddysgeidiaeth Mohammed, er enghraifft, sy'n fanwl iawn, iawn, ynglŷn â golchi'r corff cyn gweddi ac ar ôl gweithredoedd arbennig - gweithredoedd corfforol er enghraifft - ac mae'r holl beth wedi cael ei systemateiddio."
JR: Ym mha ffordd mae crefydd yn creu euogrwydd?
DE: "Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud mai crefydd sy'n creu euogrwydd. Mae euogrwydd yn rhan o'r ddynoliaeth.
"Mae pechod yn rhan o'r ddynoliaeth ac fe wyddom ni erbyn hyn nad yw y dyn modern am gael pechod ar yr agenda ond mae'n dod nôl ar yr agenda yn gryf iawn ac am fod dyn yn pechu rhaid wrth fodd i ddelio a'i euogrwydd ac fel mae Terry yn dweud rwy'n teimlo yn gryf iawn mai rhywbeth arwynebol iawn sy'n cael ei ddangos yn y papur ond beth rydym yn sôn amdano yw yr euogrwydd dwfn sydd gan ddynion ac mae dynion yn teimlo'n euog ac rydw i wedi gweld dro ar ôl tro bobl wedi eu parlysu gan eu heuogrwydd a dydw i ddim yn credu fod y golchi â'r dŵr arwynebol yn cael gwared â hwnna."
JR: "Ac eto onid y prawf yn hwn yw fod yna rhyw gysylltiad ac onid ydi pobl weithiau yn teimlo'n well wrth fynd drwy ddefod fel bedydd er enghraifft. Yn dod allan o'r dŵr yn teimlo'n gorfforol ac yn ysbrydol well?"
DE: "Rwy'n cytuno. Mae'r peth ynghlwm wrth ei gilydd.
"Defod yw e. Defod gorfforol ac rwy'n credu fod defodau yn bwysig iawn i bobl.
"Yr ydym ni ymneilltuwyr efallai wedi rhoi 'press' gwael i'r corff a'r ddefod ac o achos hynny ddim yn gweld y nerth sydd mewn defod fel y ddefod o fedyddio sydd yn arwain at bobl i gredu fod rhywbeth wedi digwydd yn gorfforol.
"Ond ei fod yn symbol hefyd mewn Cristnogaeth fod gwaed Iesu Grist yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod."
JR: "A yw'r ymchwiliad yn gwrthbrofi'r syniad fod corff ac enaid yn ddau endid ar wahân?"
TT: "Cyn belled ag y mae crefydd yn bod mae pobl yn credu felly ac mae gweithredoedd, defodau, sy'n symbolaidd . . . yn llawn nerth i'r person sydd yn credu yn yr hyn sy'n digwydd ac y mae yn gallu dwyn newid ar fywyd person trwy fynd trwy ddefod arbennig a defnyddio symbolau arbennig."
 |
 |
 |
 |
|
|