Gyda chymaint o sôn fod llai a llai o berfformio Drama'r Geni draddodiadol yn ein hysgolion bu Bwrw Golwg yn holi dau brifathro am y sensitifrwydd gwleidyddol a chrefyddol sy'n peri fod rhai ysgolion yn dathlu'r Nadolig mewn ffordd "nad yw hi'n cyffwrdd a stori'r geni".
Y ddau oedd, Prifathrawes Ysgol Talybont, Ceredigion, Nia Huw, ac Ian Keith Jones Prifathro Ysgol Sant Sior Llandudno, lle yn hytrach na thri gŵr doeth yr oedd tri chymeriad yn teithio ar draws y byd mewn fan Transit wen a Gabriel yr Angel yn 'rap artist'.
Dau brifathro yn trafod perfformiad eu hysgol o Ddrama'r Geni ar Bwrw Golwg, 16 Rhagfyr, 2007 ac isod gellir clywed sylwadau dwy ferch a fu'n cymryd rhan.
Yn glir "Be ydan ni'n trio'i wneud ydi cyfleu y stori Nadolig fel ein bod yn sicrhau fod stori'r Nadolig yn dod allan yn glir iawn a neges Crist yn dod allan yn glir," meddai Ian Keith Jones.
"Ond ei wneud o mewn ffordd hwyliog a ffordd mae'r plant yn gallu ymgodymu â hi.
"Ac mae o weithiau yn anodd. Y flwyddyn ddiwethaf fe gawsom ni ddau berfformiad lle'r oedd llygod yn dathlu'r Nadolig a'r flwyddyn cynt fe gawsom ni un hyfryd lle'r oedd dau lwyth o'r Affrica oedd yn casáu ei gilydd [ond] un llwyth yn gorfod rhoi y baban i'r llwyth arall - a reit ar y diwedd daeth neges Crist yn dod i achub pawb yn glir iawn," meddai.
"Drwy'r stori roedd o'i gyd yn sôn am garedigrwydd a sut dylem ni fod yn edrych ar ôl ein cyfoedion .
Gweld y neges "Mae'n cael ei anelu at y plant fel eu bod nhw yn gallu gweld beth ydi neges y Nadolig ond, wrth gwrs, mae hefyd yn cael y neges drosodd i rieni, 'Dyma ydi ethos ein hysgol ni a dyma yda ni'n ei gredu a dyma yda ni'n ei roi i'r pllant'.
"A hyd yma dyda ni erioed wedi cael gwrthwynebiad ac mae pawb, wel weithiau, yn dod adref yn eithaf dagreuol gan fod rhai o'r caneuon maen nhw'n ganu yn eithaf emosiynol ac mae'r ffordd mae plant yn gallu cyfleu y neges weithiau yn gallu bod yn reit emosiynol a da chi'n gweld y rhieni a'r neiniau a theidiau yn dod allan efo dagrau yn eu llygaid. Mae'n hyfryd o beth."
Ystyried crefyddau eraill Yn Nhalybont bu'r plant yn paratoi ar gyfer yr hyn sy'n cael ei ystyried yn ddrama geni draddodiadol.
"Erbyn hyn dwi'n credu ei bod yn bwysig ofnadw fel rhan o gwricwlwm ysgol," meddai Nia Huw.
"Mae'n amlwg ein bod yn ystyried crefyddau eraill ac yn rhoi cryn dipyn o sylw i ddysgu ynglŷn â dathliadau crefyddau eraill ond efallai lle yn y gorffennol y byddem ni wedi cymryd yn ganiataol fod plant yn ymwybodol o stori'r geni ac o draddodiadau Cristnogol dydw i ddim yn meddwl fod hynny'n wir bellach ac mae'n bwysig ein bod yn eu haddysgu nhw yn y maes hwnnw.
"Dydw i ddim yn meddwl fod nifer fawr o'n plant ni na'u rhieni na'u teuluoedd yn ehangach yn ymwybodol hyd yn oed bod yna gapel yn y pentref sy'n gapel byw. Ond mae'r holl bethau yma yn dod i ystyriaeth wrth gyflwyno y ddrama," meddai.
Cymryd rhan Bu'r rhaglen yn holi hefyd ddwy o'r disgyblion a gymerodd ran yn y ddrama am eu hymateb hwy.
Ymateb dwy o ddisgyblion Talybont i'w rhan yn Nrama Geni eu hysgol, ar Bwrw Golwg, 16 Rhagfyr, 2007.
 |