BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Atgofion Merched Gee
Saith o'r un capel yn ennill medalau Gee
Y mae saith o ferched sy'n aelodau yn yr un capel wedi ennill Medalau Gee am eu gwasanaeth i'r Ysgol Sul.

Mae Medalau Gee yn cael eu dyfranu bob blwyddyn i rai dros 75 oed sydd wedi parhau i fynychu'r Ysgol Sul gydol eu hoes.

Erinwen Mai Johnson, Mairlyn Lewis, Beryl Horseman, Falmai Jones, Liz Davies a Beryl Roberts. Roedd Nansi Jones ar ei gwyliau adeg tynnu'r Llun.
Mae saith o'r rhai sy'n derbyn medal yn 2006 yn aelodau yn Eglwys Mynydd Seion, Abergele, lle maen nhw'n cael eu hadnabod fel y Golden Girls - er efallai y gwelwn newid yr enw hwnnw i'r Gee Girls yn awr.

Cerian Arianrhod fu'n holi Erinwen Mai Johnson, Mairlyn Lewis, Beryl Horseman, Falmai Jones, Liz Davies a Beryl Robertsar gyfer Bwrw Golwg. Roedd y seithfed, Nansi Jones, ar ei gwyliau.

Dyma rai o'r pethau oedd ganddyn nhw i'w ddweud:
  • Pan yda ni ddim yn cael dod i'r Ysgol Sul neu i'r Capel mae yna rywbeth ar goll. Ar hyd yr wythnos rydw i eisiau mynd i'r capel ac wedyn rydach chi'n teimlo eich bod wedi cael nerth.

  • A chan ein bod yn byw ein hunain, mae'r ffaith ein bod ni'n griw yn yr Ysgol Sul yn ein gwneud ni yn ffrindiau agos iawn. Pe byddai un ohonom mewn trafferth fe fuasem ni'n gallu troi at ein gilydd.

  • Mae yna lai o blant [yn mynychu'r Ysgol Sul heddiw]. Mae Ysgol Sul y plant wedi newid. Maen nhw'n tynnu lluniau a phethau rŵan . . . yr oeddem ni yn gwneud pethau fel y Rhodd Mam ac yn gorfod dysgu adnodau.

  • Yr oeddem ni'n dweud y Deg Gorchymyn ar ddechrau'r Ysgol Sul . . . . ac yr ydw i'n eu cofio nhw'n iawn o hyd.

  • Be sy'n dod yn y dyfodol? Be sydd o'n blaenau ni?
    Y gwendid mawr nawr yw nad ydi plant yn gwybod eu Beibl. Dydy nhw ddim yn cael dysgu penodau nac adnodau na Salmau na dim byd arall. A'r ffaith nad ydyn nhw yn gwybod hanes Crist . . .ella eu bod nhw'n gwybod rhywbeth am y Nadolig a dyna ni.

  • Rydw i'n credu fod y ffaith ein bod ni wedi gorfod dysgu cymaint ar ein cof wedi gwneud ein brêns ni yn well. Dydi plant [heddiw] ddim yn cael digon o orfod dysgu.

  • Yn yr Ysgol Sul dysgais i'r Wyddor - yr oeddwn i'n canu cân yn yr Ysgol Sul ac mae honno'n dal [yn fy nghof]:
    Yn yr Ysgol Sul dysgu wnawn
    A Bi Ec Ech
    A'u seinio'n llawn.
    Hyfryd yw eu gwersi hwy
    Cofio'u henwau
    Abiecech ac yn y blaen.......
    Ac rydw i'n dal i ddweud yr A Bi Ec fel yr oeddwn i'n ei ddweud yn Ysgol Sul Moreia Brynaman.

  • Yr ydw i rŵan ar ben fy hun ac rydw i wastad yn dweud ar ôl codi - mi fyddai'n codi ac yn dweud Canaf yn y bore ac yn ei dweud hi ar ei hyd. Ac mae yna lawer iawn yn y penillion yna pan wnewch chi feddwl yr holl bethau ryda ni'n eu cael yn ystod ein bywyd. Dwi'n dweud y penillion i gyd:
    Canaf yn y bore am dy ofal cu
    Trwy yr hirnos dywyll
    Gwyliaist drosof i.
    Ac wedyn dechrau - a meddwl y dylwn i gael brecwast . . .

    Y trip
    I'r Rhyl oeddem ni'n dod.
  • Roeddem ni yn mynd i Abertawe neu Borthcawl.
  • Da chi'n gwybod, hyd heddiw pan fyddai'n mynd dros Pont y Foryd [i'r Rhyl] dwi'n ecseitio'n lân.
  • Dyna'r unig drip oedden ni'n gael yn aml iawn - i Abertawe. Ac roedden ni'n dal y trên bach i'r Mwmbwls.

    Y gwersi
  • Plant ni, mae'n siŵr, oedd y genhedlaeth olaf sydd wedi bod yn dod i'r capel a dod i'r Ysgol Sul.
  • Rhaid imi ddweud yr yda ni'n lwcus dros ben yn ein dosbarth ni. Mae gennym ni ddwy athrawes, Mairlyn aac Erinwen ac maen nhw'n i wneud o'n ddiddorol ac maen nhw'n ddawnus. Ac mi rydw i'n dweud, maen nhw'n ddylanwad iawn arnaf i beth bynnag.
  • Mi ryda ni efo John Eric Hughes ac mae o'n ardderchog. Mae o wedi paratoi bob dydd Sul ar ein cyfer ni.
  • Mi fydda i'n darllen y wers. Mi fyddai'n darllen be fydd Elfed [ap Nefydd Roberts] yn ei ddweud yn Y Cymro ac mi fydda i'n darllen be maen nhw'n ddweud yn Y Goleuad ac wedyn mae brawd Mairlyn - y diweddar Barch Isaac Jones - wedi gwneud esboniad a rhwng popeth mi fyddai'n meddwl fedrai ddim gwybod dim chwaneg.

    Y Medalau
  • Ryda ni gyd wrth ein bodd. Rydan ni'n galw'n hunain The Golden Girls - The G Girls.
  • Wn i ddim pam maen nhw wedi dod [a'r oed] i lawr i 75 achos mae pawb yn credu ein bod ni'n 80 a dyda ni ddim!

    Cadw'r Sul
  • Wnâi ddim gwneud dim [ar y Sul]. Wnâi ddim gwneud dim golchi. Wnâi ddim byd ar y Sul. Wnâi ddim.
  • Allai ddim dweud fy mod i'n cadw'r Sul mor gaeth ag yr oedd Liz yn ei gadw fe.
  • Ers talwm, doedda chi ddim yn cael gwau. Dim codi'r siswrn neu fe fyddai'r Diafol gyda chwi drwy'r wythnos.
  • Yr unig beth oedda ni'n wneud pan oedda ni ar y fferm - roedda ni'n dair chwaer ac mi fyddai Mair fy chwaer hynaf yn gwisgo rhyw ddillad hen ffasiwn a rhyw gêp. Margaret fy chwaer arall, roedd hi'n chwarae'r piano a finnau'n rhoi yr emynau. Roedda ni'n cael gwasanaeth ac mi fydda Dad yn dŵad i'r tŷ a dweud. "Oes posib cael tawelwch inni gael cinio."
  • Dyna oedda ni'n wneud, doedd gennym ni ddim capel bore - roedda ni'n chwarae cwrdd.
  • Roedd yna garreg wedi ei siapio fatha pulpud ac roedda ni blant yn dweud, 'Dewch inni fynd fyny i'r pulpud.' Ac fe fyddai pawb yn gwneud ei ran . . .

    Oes gennych chi atgofion am yr Ysgol Sul?
    Y gwersi
    Y tripiau Ysgol Sul
    Y dadlau a'r trafod
    Y newid a fu
    Cliciwch i ebostio.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy