Y Parchedig Harri Parri yn talu teyrnged i Gareth Maelor Jones ar Bwrw Golwg gyda John Roberts
Cliciwch Yma i ddarllen teyrnged gan Harri Parri.
Disgrifwyd y Parchedig Gareth Maelor Jones, a fu farw Chwefror 29, 2006, fel un a oedd wedi ildio ei fywyd i Iesu Grist ac a gadwodd ei ffydd tan y diwedd un er gwaethaf pob gwaeledd.
Yr oedd 'Gareth Maelor' fel yr oedd yn cael ei adnabod yn adnabyddus fel gweinidog, athro, warden Cartref Bontnewydd, awdur, cyhoeddwr a golygydd a fu'n arloesi gyda llyfrau crefyddol i blant a phobl ifainc.
Cyfaill mawr a chydweithiwr dyfal ag ef, y Parchedig Harri Parri, fu'n talu teyrnged iddo ar Bwrw Golwg, ddydd Sul, Ionawr 7, 2007.
Fe'i disgrifiodd fel dyn nad oedd byth yn ofnus o fynegi'i farn ac yn un a oedd yn trin pawb ar yr un gwastad.
Yn y banc "Cafodd dröedigaeth ysbrydol pan oedd o'n hogyn ifanc yn gweithio yn y banc, a'i ffordd o fynegi'r peth oedd ei fod wedi ildio hawl ei fywyd i Iesu Grist ac fe ddaru hwnna aros gydag o gydol ei fywyd," meddai.
Ychwanegodd na siglwyd ei ffydd o gwbl gydol ei oes.
Fe'i disgrifiodd hefyd fel un gyda dealltwriaeth arbennig o blant a phobl ifainc.
"Roedd ganddo fo allwedd i fyd plentyn ac i fyd pobl ifanc ond yr oedd hefyd yn gymeriad na allech chi ei wasgu i ffiniau confensiwn. Yr oedd yn llifo drosodd ym mhob man - yr oedd yn llond pob lle ac yr oedd o'n adnabod pawb. Yr oedd ei angladd yn profi hynny - yr oedd yno bobl o bob byd yno ac o bob man."
Llyfrau lliw i blant Adlewyrchiad pellach o'i ymrwyiad i blant a phobl ifainc oedd ei fenter gyntaf fel cyhoeddwr:
"Un o'r pethau cyntaf wnaethom ni ar ôl gadael coleg oedd cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant. Yr oeddan ni'n teimlo fod llyfrau Cristnogol i blant yn llwyd ac yn anniddorol ac yn sur braidd.
"Ac rydw i'n cofio mynd i'r banc a benthyg £1,200 dwi'n meddwl a phrynu tudalennau o'r America gan gwmni oedd yn cyhoeddi llyfrau bendigedig o straeon Beiblaidd mewn sawl lliw, a'u cyfieithu i'r Gymraeg a'u cyhoeddi nhw [ar adeg pan nad oedd] y wasg Gymraeg yn cyhoeddi pethau tri a phedwar lliw . . . a chyhoeddi dwsin neu bymtheg o lyfrau ar y cyd efo'n gilydd - ond y fo oedd yn gweld y llun ."
Dywedodd fod Gareth Maelor hefyd yn arlunydd da a chanddo lygad am lun a hynny yn ei arwain at lunio straeon wedi eu darlunio â lluniau a dynnwyd â chamera.
Ar wahân i'r gweithgarwch hwn bu Harri Parri'n sôn hefyd am y profiad yn ymyl marwolaeth a gafodd Gareth Maelor ac effaith hynny arno.
Roedd Gareth Maelor yn 72 oed pan fu farw ddydd Sadwrn, Rhagfyr 29. Yn frodor o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog ei swydd gyntaf oedd yn y banc yng Nghorwen cyn newid cyfeiriad a dilyn cwrs diwinyddol.
Yn Harlech yr oedd ei ofalaeth gyntaf wedi gadael y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth gan symud wedyn i Abersoch cyn cael ei benodi yn warden Cartref Bontnewydd ger Caernarfon.
Yn dilyn cyfnod yn Y Coleg Normal, Bangor, fe'i penodwyd yn bennaeth yr adran grefydd yn Ysgol Dyffryn Nantlle.
Fe'i hurddwyd yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod.
Bu'r angladd yng nghapel Glanrhyd, Llanwnda, lle'r oedd yn flaenor a thalwyd teyrnged iddo yno gan Geraint Lloyd Owen a gyfeiriodd yn arbennig at gryfder ei ffydd.
Gedy weddw, Brenda a thair merch, Esyllt, Gwawr a Swyn.
 |