BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Merch yn offeiriad yn Eglwys Lloegr Merched yn esgobion
Synod yn pleidleisio o blaid - ond pryd y digwydd hynny?
Er i Synod Eglwys Lloegr bleidleisio nad oes rhwystr i ferched fod yn esgobion cafwyd awgrym gan un offeiriad y gallai gymryd cryn amser cyn i hynny ddigwydd.

Drannoeth y bleidlais ar gynnig gan Archesgob Efrog yn Synod Eglwys Lloegr, Gorffennaf 7, 2006, cymharodd Margaret Quayle y bleidlais ag un debyg yn 1975 a arweiniodd at ordeinio merched yn offeiriaid.

Yr oedd hi bron yn ugain mlynedd meddai Margaret Quayle, sy'n offeiriad yng nghyffiniau Lerpwl, cyn i hynny ddigwydd.

"Ddaeth hynny ddim i mewn tan 1992," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg , "sef bron i ugain mlynedd wedi pasio yn y Synod i ordeinio merched i'r offeiriadaeth. Fe gymerodd bron i ugain mlynedd o'r cam sydd wedi cael ei gymryd rŵan i weithredu'r peth."

Symud ymlaen
Ond croesawodd y bleidlais gan ddweud: "Rydw i'n meddwl ei fod yn arwyddocaol iawn fod yr eglwys yn symud ymlaen ac yn gwrando ac yn meddwl ac yn gweld merched yn eu priod le."

Gyda'r gwrthwynebiad mwyaf ymhlith aelodau lleyg y Synod gofynnodd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, beth tybed fyddai ymateb aelodau cyffredin yr Eglwys i'r penderfyniad:

"Os yr ydw i'n cofio'n iawn yr un peth oedd yn digwydd efo ordeinio merched i'r offeiriadaeth - mwy o leygwyr yn erbyn.

"Ond dydw i ddim wedi cael unrhyw rwystr ac mae pawb yn dweud 'Da iawn, da iawn' ac eraill yn dweud 'Doeddwn i ddim o blaid cael merched yn offeiriaid ond rŵan fy mod wedi eu gweld wrth eu gwaith mae'n dda ein bod wedi eu cael nhw'.

Pawb ei ffordd ei hun
Wrth ymateb i'r pryder y gallai'r bleidlais ddiweddaraf hon fod yn rhwystr i'r Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred glosio at yr Eglwys Anglicanaidd dywedodd:
"Rhaid inni fynd ymlaen efo'r camau rydan ni'n weld sydd yn iawn. Doedd yr ordeinio merched ddim yn helpu gyda'r Eglwys Gatholig ond rhaid i bob eglwys fynd ymlaen y ffordd mae hi'n gweld sy'n iawn," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy