BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Archesgob Cymru gyda'r Tra Barchedig John Davies (ar y dde) Esgob newydd
Addo lle cynnes i'r Gymraeg
Er nad yw esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu yn medru Cymraeg cafwyd addewid y bydd lle teilwng i'r iaith yng ngweithgareddau ei esgobaeth.

Wrth siarad am gyfraniad y Tra Barchedig John Davies, a fu'n Ddeon y Gadeirlan yn Aberhonddu cyn ei ethol yn esgob, dywedodd Y Parchedig John Walters sy'n offeiriad ym Mhontarddulais:

gwrando John Walters yn trafod cyfraniad y Tra Barchedig John Davies, esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu - Bwrw Golwg 10 Ionawr 2008.


"Mae John, mae e wastad yn groesawgar drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar unrhyw achlysuron yn yr Eglwys Gadeiriol mae e wedi croesawu pawb yn ddwyieithog."

"Mi fyddwn yn hoffi wrth gwrs medru siarad â'r Esgob yn Gymraeg ond bydd yn rhaid derbyn ei weinidogaeth ef ac mae'n siŵr gen i y bydd ef yn ymwybodol er enghraifft pe byddwn i'n ei wahodd ef i'r plwy ym Mhontarddulais mae gyda ni wasanaeth Cymraeg bob dydd Sul ac fel pob un o'i ragflaenyddion maen nhw wedi bod yn barod i ddarllen gweddïau yn y Gymraeg.

"Mae'n bosib nad ydyn nhw wedi gallu pregethu yn Gymraeg ond [wedi gallu] rhoi rhyw fath o gynnwys Cymraeg i'r gwasanaeth."

Yn siarad ar Bwrw Golwg ddydd Sul 10 Ionawr 2008 ychydig ddyddiau wedi ethol John Davies dywedodd Mr Walters nad yw'n "beth estron" yn yr esgobaeth hon nad yw'r esgob yn medru Cymraeg .

O naw o esgobion yn y gorffennol "dim ond tri neu bedwar" oedd yn medru'r iaith, meddai.

Huawdl
Disgrifiwyd yr esgob newydd fel 'gweinyddwr da, siaradwr huawdl ac un sy'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn y byd o'i gwmpas'.

Ychwanegodd y gwelai rinwedd yn y ffaith nad un o'r esgobaeth yw'r Tra Barchedig John Davies, 54 oed.

"Mae e wedi bod yn ein plith ni bron i wyth mlynedd [a] beth sy'n braf yw ei fod e yn yr esgobaeth ond heb fod o'r esgobaeth . . . wedi dod o Esgobaeth Mynwy ac wedi cael gweinidogaeth ddisglair yn yr Eglwys gadeiriol," meddai.

"Mae e'n gallu dod i mewn heb fod yn fab i'r esgobaeth a dod a'i weledigaeth ei hunan a gallu edrych yn weddol wrthrychol ar yr esgobaeth," ychwanegodd.

Disgrifiodd Mr Davies fel "y Deon Anglicanaidd clasurol" mewn olyniaeth o ddeoniaid "disglair".

Lle pwysig
"Mae e'n lle arbennig ac yn lle pwysig yn hanes Cymru . Mae gyda chi gysylltiadau llenyddol - yno y bu Syr John Price yr un a argraffodd Yn y Llyvyr Hwn, y llyfr printiedig cyntaf yn y Gymraeg, a Syr Huw Price, sylfaenydd Coleg Iesu yn Rhydychen, mae e wedi ei gladdu yno.

"Mae plant Brychan, Capel Ceinwen, chwaer Dwynwen mae yna gapel iddi hi - mae'n lle arbennig iawn."

"Yn ei gyfnod fel deon mae wedi bod yn ffodus iawn wedi cael defnyddio rhoddion hael iawn a roddwyd i'r Gadeirlan ac wedi gallu hel grantiau ac wedi cynnal gwaith atgyweirio ac adfer aruthrol yn yr wyth mlynedd diwethaf," meddai.

Pen bugail
Fel bugail dywedodd fod gan John Davies y ddawn i fod yr hyn a eilw Llyfr Gweddi yr Eglwys yng Nghymru yn "ben bugail" a fyddai'n uno pawb.

"Yr ydym yn byw mewn cyfnod . . . yn y gymuned Anglicanaidd yr ydym yn tueddu i weld y polareiddio yma ac yr ydym yn sôn am rwygiadau ac yn y blaen; dydw i ddim yn credu fod hynny yn deg - mae yna waith mae yna densiynau ond o fewn ein hesgobaeth ni yr ydw i'n hyderus iawn y bydd John yn gallu bod yn ffigwr fydd yn tynnu pobl at ei gilydd fel y mae ei ragflaenydd wedi gwneud," meddai John Walters.

Seremoniaeth
O ran ei eglwysyddiaeth disgrifiodd yr Esgob newydd fel un uchel eglwysig.

"Mae e'n hoff o seremoni ond seremoni ddeallgar nid seremoni er mwyn seremoni ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig, beth bynnag yw'n heglwysyddiaeth fe ddylai fod yna ryw resymau diwinyddol y tu ôl i'r allanolion a chyda John rwy'n credu pe byddai ef yn dod i blwyf y byddai yn parchu traddodiad plwyfi gwahanol.

"Mae rhai yn dweud fod yr Eglwys yng Nghymru efallai yn polareiddio rhywfaint - mae yna rhyw garfan gref uchel eglwysig Gatholig ac mae yna garfan gref efengylaidd hefyd ac mae rhan ohonof i yn dyheu am weld yr hen drefn pan oedd y canol mwy traddodiadol Anglicanaidd a'r ddau begwn yn fwy ysgafn," meddai.

Her ariannol
Dywedodd hefyd ei fod o'r farn bod gan yr Esgob newydd y ddawn i wynebu her ariannol a chenhadol yr esgobaeth.

"Mae e wedi bod yn weinyddwr da gyda chefndir yn y gyfraith . mae e'n siaradwr huawdl ac mae e'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn y byd o'n cwmpas ni ," meddai.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy