Teithiodd dros ddeugain o bobl i Fynydd Epynt ar gyfer "gwasanaeth o edifeirwch" am Ryfel y Galklands - Malvinas a drefnwyd gan Gymdeithas y Cymod.
Dewiswyd Mynydd Epynt ar gyfer y gwasanaeth, ddydd Sadwrn 23 Mehefin 2007, oherwydd mai yno yr hyfforddwyd rhai o'r milwyr a fu'n ymladd yn y rhyfel.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a hynny yn adfeilion Capel y Babell ar y mynydd a feddiannwyd gan y fyddin yn y Pedwardegau ar gyfer hyfforddi milwyr.
Yn bresennol hefyd yr oedd cynrychiolwyr rhai o'r 50 ffermwyr a gollodd eu tir.
Idris Jones yn siarad gyda Karen Owen ar Bwrw Golwg, Mehefin 24, 2007.
Yn eu plith Idris Jones a fagwyd ar fferm Llwyn Coll ac a fu'n mynychu'r Ysgol Sul yng nghapel y Babell sydd bellach yn furddun.
"Wel, roedd e'n ofnadwy ar y pryd. Roedd hanner cant o ffermydd a'r ffermwyr yn mo'yn lleoedd i fynd," meddai wrth gofio'r colli ffermydd .
Yn siarad gyda Karen Owen ar Bwrw Golwg Mehefin 24, 2007, ychwanegodd:
"Dwi'n cofio'r diwrnod y daetho nhw i lawr i iard y fferm a dweud wrth fy nhad, 'Mae'n rhaid ichi fynd o'ma mewn tri mis a fel'ny buo hi."
Dywedodd i'w dad ddod o hyd i fferm newydd yn Llanwrtyd.
"Roedd e wedi bod lan yno y dydd Sul cyn hynny ac wedi clywed ei fam yn dweud wrtho fod fferm ar werth yn Llanwrtyd a wnaeth e ddim meddwl rhagor o bwyti hynny ond ar ôl i'r dyn ddweud wrth o fe fod raid iddo symud mas fe aeth lan yn gywir i Lanwrtyd a phrynu'r fferm," meddai.
"Llwyn Coll oedd y nghartref i ac roedd fferm arall, Briwnant, a nawr maen nhw wedi dodi pentre yna ar Briwnant i'r fyddin gael ymarfer," ychwanegodd.
"Roeddwn i'n meddwl am y dyddiau pan oeddwn i'n blentyn a dynion yn dod o bob man i'r capel - nhad-cu a mam-gu yn dod mewn poni a thrap a wedi hynny roeddwn i'n meddwl am y dyddiau pan oedd eisteddfod yma - pan oeddwn i'n blentyn yr oedd eisteddfodau da i'w cael.
"Rwy'n [dal i] ddod yma ambell waith - pan wy'n mynd i Bontsenni rydw i'n dod trwy yma yn aml i'r hen gartref, oedd yn arfer bod, a'r hen ysgol, Cilienni pan oeddwn i'n arfer mynd, ac i gapel y babell lle'r oeddwn i'n mynd i'r ysgol Sul," meddai.
"Mae e'n wahanol yma nawr wedi i'r rhyfel ddechre . Mae dros hanner cant o ffermydd wedi mynd ac mae pethe wedi altro yn ofnadwy iawn.
"Licwn i iddyn nhw weld sut oedd hi cyn i'r rhyfel ddechre - yr oedd pob un yn cynnal at i gilydd a phawb yn siarad Cymraeg - ond nawr mae e wedi altro.
"Mae llawer o hen enwau; Croffteg a Thanne, Neuadd Fach, Bryn Melyn, Waun Fawr, a llawer o rai eraill," meddai.
Sylwadau Guto Prys ap Gwynfor
 |