 |
Mae seiciatrydd blaenllaw wedi galw ar aelodau eglwysig i wneud mwy o ymdrech i fod yn gefn i rai sâl eu meddwl ac i ymweld â hwy.
Beirniadodd y Dr David Enoch y duedd i drin rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn wahanol i rai gydag anhwylderau corfforol.
Profiad mam ifanc Cyfeiriodd Dr Enoch, sydd yn seiciatrydd ymgynghorol yng Nghaerdydd, am brofiad gwraig ifanc yn dioddef o iselder yn syth wedi cael ei baban - post natal depression.
"Pan oedd hi yn y ward geinicoleg yr oedd pawb, y teulu ac aelodau'r eglwys, yn dod i'w gweld hi ond pan oedd hi wedi cael ei throsglwyddo i'r uned seicolegol doedd neb yn dod i ymweld â hi ond ei gŵr a hithau'n crio, ac yn dweud wrthyf i, 'Hoffwn i pe buasai'r gweinidog a'r aelodau yn ymweld â mi nawr er mwyn fy sicrhau fod Duw yn parhau i ngharu i.'
"A dyna beth mawr allem ni ei wneud, eu derbyn nhw, ymweld â nhw," meddai Dr Enoch
Yr oedd Dr Enoch yn stiwdio Bwrw Golwg i sôn am lyfr newydd y mae wedi gyhoeddi, I Want a Christian Psychiatrist - llyfr sydd yn pwysleisio pwysigrwydd yr elfen ysbrydol Gristnogol yn nhriniaeth iechyd meddwl.
Rhoddodd bwyslais arbennig ar bwysigrwydd cynhaliaeth gymdeithasol i gleifion yn dioddef o iselder ac afiechydon tebyg.
Bod yn gefn
"Mae angen teuluoedd ac aelodau eglwysig i fod yn gefn i'r bobl yma ar yr adeg maen nhw'n dioddef," meddai.
"Dwi'n credu mai dyna fydd y ffordd fwyaf effeithiol i'r Eglwys drosglwyddo ei neges yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rydym ni nawr yn lleihau, lleihau, lleihau ac yn gwacau fel eglwysi ond dyma un ffordd i greu pont rhyngddo ni a'r byd - sef ein bod ni'n eistedd gyda nhw, ein bod ni yn dioddef gyda nhw, ein bod ni yn eu derbyn nhw a dyma un ffordd, fel y dywedodd Eseciel gynt, yr ydym yn mynd i drosglwyddo'r efengyl i fyd nad yw'n credu mwyach," meddai.
"Naill ai bydd yn rhaid i'r eglwys wywo tu mewn neu ein bod ni'n mynd allan i'r byd ac eistedd gyda nhw sy'n dioddef ac yn cydymdeimlo ac yn dangos empathi arbennig â nhw," ychwanegodd.
Un o bob pedwar Yn ôl Dr Enoch mae un o bob pedwar yn debyg o ddioddef salwch meddwl a hynny cynnwys un o bob pedwar o Gristnogion hefyd.
Un o'r pethau y maen mynd i'r afael â nhw yn sei lyfr ydi'r "stigma" cyffredinol sy'n bodoli ynglŷn â salwch meddwl gyda'r ofn hwnnw yn arbennig o amlwg ymhlith Cristnogion:
"Mae gan bobl yn gyffredinol a Christnogion yn enwedig ofn mawr o afiechyd meddwl - yn teimlo'n fwy pryderus , yn fwy euog ac ddim yn cydnabod yr afiechyd ac ddim am fynd am driniaeth ac mae'n rhyfedd i mi ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain er yr holl wybodaeth a gawn ni am bopeth ar y radio a'r teledu ac ar y we a'r papurau dyddiol fod y stigma yn parhau.
"Amcan glir y llyfr yw ceisio rhoi gwybodaeth a chadarnhad i bobl ac i Gristnogion sy'n dioddef o afiechydon fel hyn," meddai.
Pwysleisiodd hefyd, er nad yw ffydd Gristnogol yn amddiffyniad rhag salwch meddwl fod i'r ysbrydol ei le yn y feddyginiaeth.
Ffydd ddim yn amddiffyniad "Mae'n bwysig i ddweud dyw ffydd ddim yn eu gwarchod, dyw e ddim yn ein gwneud ni yn immune o ddioddef afiechydon meddwl . . . yn wir, gall ffydd ar adegau wneud pethau'n waeth," meddai.
"Pan maen nhw yn dioddef o afiechydon meddwl ac iselder ysbryd yn arbennig maen nhw'n teimlo euogrwydd ac yn dweud, 'Mae'n rhaid bod fy ffydd i'n wan fy mod i'n dioddef fel hyn' a hynny wedyn yn cynyddu eu heuogrwydd nhw ac maen nhw'n dioddef mwy nag sydd eisiau - dyna un rheswm fy mod wedi sgrifennu'r llyfr.
"Nid oes eisiau ar bobl sy'n dioddef o afiechydon y meddwl ac iselder ysbryd deimlo'n fwy euog na neb arall," meddai.
Ail ganfod Duw Ychwanegodd i'r seiciatrydd Jung ddweud na fu i'r un o'i gleifion ef gael iachâd cyflawn - yn gorfforol nac yn feddyliol - heb ail gynnau ffydd yn Nuw.
"Yr ydym ni yn credu mai'r ffordd Gristnogol, ffordd Crist, yw'r ffordd i gyflawni'r ysbrydol ac o ddod i adnabod Crist yr ydym yn dod i adnabod y sanctaidd ac wrth ddod yn fwy sanctaidd a byw fel yr Iesu mae ein bywyd ni yn mynd yn fwy cyflawn . . . a dyna pam dros y blynyddoedd mae cymaint wedi dweud wrthyf eu bod eisiau gweld Seiciatrydd Cristnogol ac mae hynny'n adlewyrchu beth yw angen mawr pobl," meddai.
"Os gwnaiff y llyfr hwn argyhoeddi un person fod Duw yn ei garu, beth bynnag yw cyflwr ei feddwl, bydd wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr.
"Ac os gwnaiff o hefyd helpu eglwysi i ddelio'n fwy sensitif a deallus a'r rhai sy'n dioddef gwell fyth. Gobeithio y bydd yn gwneud y ddau beth," meddai.
I Want a Christian Psychiatrist gan Dr David Enoch.Monarch Books. £7.99.
 |
 |