BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Tangnefedd Ynys Bŷr (llun gan David Walters) Encil - chwilio am sancteiddrwydd
Sancteiddrwydd mewn lle - ynteu yn y meddwl?
Ai mewn lle ynteu yn y meddwl y mae sancteiddrwydd a thangnefedd?

Dyna gwestiwn a wynebodd Anne Oruska wrth drafod ei bwriad i ymuno ag encil ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Penfro.

Wrth egluro'r bwriad y tu ôl i'r encil dywedodd fod digwyddiad o'r fath yn gyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan gael "adnewyddiad ysbrydol" a chanolbwyntio ar eu perthynas â Duw trwy droi cefn am gyfnod ar ofalon byw bob dydd.

Canolbwyntio ar berthynas
"Rydym yn cael dod mas o'r byd a'i holl bryderon," meddai wrth John Roberts wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg Ebrill 29, 2007.

"Neu, [o edrych arno] y ffordd arall, o holl fwynderau y byd hefyd - dim ond i fynd i rywle tawel i ganolbwyntio fwy ar ein perthynas â Duw," ychwanegodd.


gwrando Y sgwrs gyflawn rhwng Anne Oruska a John Roberts ar Bwrw Golwg, Ebrill 29, 2007.


Lleoedd pwysig
Ynglŷn â gwerth encilio i leoedd penodol fel Ynys Bŷr lle mae tangnefedd i'w ganfod, dywedodd:

"Fe allai rhywun encilio i ystafell yn unrhyw le i weddïo ar Dduw a does dim byd yn bod ar hynny - ond mae yna leoedd yn y byd lle mae gweddi wedi bod yn bwysig dros ganrifoedd ac rywsut mae'r weddi a'r agosatrwydd at Dduw wedi sancteiddio'r lleoedd hyn nes ei bod yn haws rywsut dod i mewn i ysbryd gweddi a chwilio am berthynas â Duw mewn lleoedd sydd wedi eu sancteiddio yn barod gan weddi," meddai.

Yn y lle ynteu yn y meddwl?
Ond ymhle, holodd John Roberts, mae'r sancteiddrwydd a brofir mewn gwirionedd - yn y lle ynteu yn y meddwl?

"Fe fyddwn i'n dweud fod sancteiddrwydd yn sancteiddio [lle]. Ac os ewch chi mewn i eglwys neu gapel lle mae llawer o weddi wedi bod mi deimlwch chi awyrgylch prydferthwch y lle trwy sancteiddrwydd.

"Felly, fe fyddwn i'n gorfod dadlau; Oes, mae y fath beth yn bod a lleoedd sanctaidd ond nid y lleoedd eu hunain o'u hanfod sy'n sanctaidd ond y bywyd ysbrydol a'r weddi sy'n eu sancteiddio.
Duw sy'n sancteiddio.," meddai Anne.

"Yn y bôn rwy'n meddwl y byddem ni i gyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ein perthynas ni â Duw ac rwy'n gobeithio y bydd hynny yn dwyn ffrwyth yn ein bywydau bob dydd," ychwanegodd.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy