BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Efengylwyr - newid pwyslais
Ond troedigaeth yn parhau'n bwysig
Yn stiwdio Bwrw Golwg Hydref 29, 2006, yr oedd Jim Stewart o'r Gynghrair Efengylaidd i drafod adroddiad newydd gan y Gynghrair Efengylaidd - Faith and the Nation - adroddiad sydd yn condemnio unigolyddiaeth draddodiadol yr efengylwyr a'r pwyslais llwyr ar achubiaeth bersonol ac yn rhoi pwysau newydd ar weithredu cymunedol.

Gwaith yn y gymuned
"Y cymunedol [sy'n cael y flaenoriaeth] yn bendant yng Nghymru lle mae mwy a mwy o eglwysi a Christnogion yn gwneud gwaith yn y gymuned," meddai.

"Mae fel pe byddai eglwysi yn dihuno lan a sylweddoli fod yn rhaid iddyn nhw gyfrannu at helpu pobl mas ac yn y blaen a sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth arall a newid y pwyslais oddi ar achubiaeth bersonol.

"Ar ddiwedd y dydd yr ydym yn credu fod yn rhaid cael tröedigaeth fel Cristnogion efengylaidd ond . . . mae'r ffordd yr ydym yn edrych ar y byd yn newid a pharchu pobl ac mae'n rhaid inni droi oddi wrth yr intolerence oedd gyda ni o'r blaen a'r ffaith ein bod ni'n cael ein cydnabod fel pobl judgemental iawn mae'n rhaid inni gyfaddef fod eisiau newid ein hagweddau bob hyn a hyn," meddai.

Amddiffyniad brenhinol
Ynglŷn â syniad a wyntyllwyd i beidio a galw'r Frenhines yn Amddiffynnydd y Ffydd ond, yn hytrach, yn Amddiffynnydd Ffydd er mwyn cydnabod y gwahanol grefyddau sy'n bodoli ym Mhrydain erbyn hyn dywedodd Mr Stewart ei fod yn ofni mai "agenda wleidyddol" sydd y tu ôl i hynny.

Gan ddweud fod y Gynghrair o blaid cadw at y ffurf bresennol - y ffydd - dywedodd:

"Ar ddiwedd y dydd, mae Cyfrifiad 2001 yn dweud fod 73 y cant o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn ystyried eu hunain yn Gristnogion ond llai na dau y cant yn dweud eu bod yn Foslemiaid," meddai. Ychwanegodd fod yna wahaniaethu yn erbyn Cristnogion ac y byddai newid yr ymadrodd "y ffydd" yn cadarnhau hynny.

Ond gwadodd mai ymdrech i gael pawb i gredu yr un fath sydd y tu ôl i'r gwrthwynebiad:

"Sa ni ddim yn mo'yn i bawb gredu be da ni'n gredu - rhaid inni barchu'r ffaith fod pobl yn credu nifer o bethau gwahanol a chael gweledigaeth go iawn i'r Cymru a chenedl Prydain," meddai.

  • Cliciwch i ddarllen yr adroddiad, Faith and the Nation (Saesneg)




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy