Dr Amjad Hussain, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.
Bu'r Gwir Barchedig Carl Cooper yn archwilio'r cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a chrefydd gyda'r ysgolhaig Iddewiaeth, Yr Athro Dan Cohn-Sherbok, a'r ysgolhaig ar Islam, Dr Amjad Hussain, yn archwilio sut y bu crefydd yn help ac yn rhwystr i'r broses heddwch.
Holwyd Carl Cooper a Dan Cohn-Sherbok gan John Roberts ar rifyn Chwefror 11 o Bwrw Golwg a bu Ainsley Griffiths, Caplan Coleg y Drindod yn pwyso a mesur y gynhadledd.
Crefydd yn bwysig
Y Gwir Barchedig Carl Cooper yn siarad gyda John Roberts
Dywedodd Archesgob Tyddewi fod crefydd yn dal yn rhywbeth pwysig yn y byd.
"Dim ond 16% o bobl y byd sydd ddim yn grefyddol," meddai. "Felly os rydym ni'n dweud fod crefydd yn achosi problem mae'n rhaid inni droi at grefydd, wedyn, i ffeindio ffyrdd i ddatrys y problemau.
Am y sefyllfa yn y Dwyrain Canol yn benodol dywedodd:
"Yn hytrach na thrio symud ymlaen gyda dwy wladwriaeth dwi'n teimlo nad yw hynny byth yn mynd i weithio a'r ateb ydi un wladwriaeth - ond er mwyn gwireddu y freuddwyd honno mae'n rhaid i bobl grefyddol ymddwyn fel pobl grefyddol ac nid fel pobl wleidyddol."
Ychwanegodd|: "Pan ydych chi'n sôn am un wladwriaeth mae'n rhaid i'r wladwriaeth gyfan fod yn rhywbeth sydd o gonsyrn i Dduw ac o ganlyniad o gonsyrn i bobl Duw."
Crefydd 'wedi gwneud pethau'n waeth'
Rabi Dan Cohn-Sherbok yn siarad gyda John Roberts
Yr oedd y Rabi Dan Cohn-Sherbok yn ddiamwys o lawdrwm ar effaith ddrwg crefydd ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol.
"Roedd y gynhadledd yn gofyn a yw crefydd yn gwneud lles neu'n gwneud drwg i wleidyddiaeth yn y Dwyrain Canol ac mae'r ateb i yn syml iawn; Dydi crefydd ddim yn helpu dim.
"A dweud y gwir, mae wedi gwneud popeth yn waeth ac wedi creu sefyllfa ofnadwy.
"Mae Iddewiaeth a Christnogaeth wedi bwydo gwrthdaro ac wedi gwneud Iddewon yn bobl sy'n meddwl fod ganddyn nhw hawl ar y tir. Rydw i'n credu bod yn rhaid iddyn nhw roi crefydd heibio a defnyddio dipyn o ewyllys da a chariad a synnwyr cyffredin - dyna fydd yn gwneud lles i'r Dwyrain canol," meddai
Ceisio ffordd ganol
Ainsley Griffiths yn siarad gyda John Roberts
Yr un peth cadarnhaol a ddeilliodd o'r gynhadledd yn ôl Caplan Coleg y Drindod, Ainsley Griffiths, oedd cytundeb fod pobl o ewyllys da o bob crefydd eisiau gweld heddwch a chyfiawnder a sefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol - er bod yna anghytundeb ynglŷn â lle crefydd yn hyn i gyd.
Yn ei farn ef mae crefydd "yn un o'r chwaraewyr mwyaf pwysig" ar lwyfan y byd heddiw.
"Mae'n rhaid ceisio gweithio gyda'r gwerthoedd positif sydd gan bob un o'r crefyddau yn y Dwyrain Canol a cheisio gweld trywydd cyffredin drwy'r rhain i gyd.
Tchwanegodd mai un o'r pethau pwysig iawn a wnaeth y gynhadledd oedd dangos ei bod yn bosib i Gristnogion, Iddewon a Mwslimiaid siarad â'i gilydd a pharchu barn ei gilydd er eu bod yn anghytuno a bod hynny yn fodel ar gyfer y llwyfan ehangach.
"Mae'r gwahaniaethau mewn traddodiad yn bwysig ond pan ydyn nhw'n mynd i eithafion ac yn medru cyfiawnhau terfysgaeth a thrais ac anghyfiawnder mae'n rhaid gofyn a oes eisiau troedio ffordd ganol yn hyn i gyd a cheisio dod i rhyw fath o gytundeb o fewn y traddodiad hwnnw."
Dywedodd mai'r ffordd ymlaen yw dod o hyd i'r hyn sy'n "werthoedd craidd" i'r traddodiadau unigol.
"Rwy'n credu fod y tri oedd [yn y gynhadledd] - er eu bod yn anghytuno am rôl crefydd - yn cytuno fod yn rhaid troedio rhyw ffordd gymedrol trwy hyn.
"Sut i wneud hynny , sy'n gwestiwn anodd arall ac yn gwestiwn sy'n perthyn i raddau i bob traddodiad i'w wynebu ei hun - ond dyna'r ddelfryd dwi'n meddwl ac mae'n rhaid meddwl ynglŷn â beth yw ein delfryd ni oherwydd os ydym ni'n sôn am grefydd rydym hefyd yn sôn am nerth Duw a gobaith a ffydd yn Nuw a'r gobaith y bydd Duw yn gweithio drwy'r sefyllfa yma er mwyn gwireddu gobeithion heddwch."