BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cymru'n curo dros fasnach deg
Cymru'n cadw sŵn yr erbyn tlodi
Bu ymgyrchwyr yn erbyn tlodi yn curo 'drymiau' o bob math ar hyd a lled Cymru er mwyn tynnu sylw at ymgyrch fyd-eang dros fasnach deg ddydd Sadwrn, Gorffennaf 8, 2006.

Eglurodd Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol mai'r syniad y tu ôl i'r ymgyrch Dal i Guro yw gwneud digon o sŵn i atgoffa llywodraethau a'u harweinwyr fod ymgyrch fyd-eang dros fasnach gyfiawn yn parhau.

Bu dros 700 yn curo 'drymiau' yn amrywio o duniau paent i flychau plastig ar hyd a lled Cymru.

Cadw at addewidion
"Y bwriad ydi cofio'r trafodaethau G8 yn Gleneagles y llynedd a gofyn iddyn nhw gadw at eu haddewidion eu bod yn gweithredu ar eu geiriau i ddileu tlodi.

"Yr ydan ni yma i ddangos ein bod ni'n dal yma, yn dal i wneud sŵn ac yn dal i alw am yr un pethau," meddai Branwen Niclas wrth John Roberts ar Bwrw Golwg fore Sul, Gorffennaf 2006.

O deg i gyfiawn
Ers G8 y llynedd mae pwyslais yr ymgyrchu wedi symud erbyn hyn o fasnach deg i'r hyn sy'n cael ei alw yn fasnach gyfiawn.

"Yr ydym ni'n galw am newid rheolau masnachu byd-eang . . . [gan fod] y rheolau presennol yn amddifadu gwledydd tlawd o'u marchnadoedd," meddai Branwen Niclas wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg gan John Roberts.

"Dydyn nhw ddim yn gallu gwerthu cynnyrch lleol yn lleol mewn gwledydd fel Senagal a Ghana er enghraifft . Felly yr hyn ydym ni'n gofyn amdano ydi i drawsffurfio yr IMF a Banc y Byd. Dyna pam ryda ni'n cynnal yr ymgyrch Dal i Guro dros yr haf oherwydd bod Gordon Brown yn mynd i gyfarfod yr IMF ym mis Medi.

"Rydym ni'n hel enwau hefyd ar ddeiseb fydd yn cael ei chyflwyno i Gordon Brown ar Fedi 14 jyst cyn iddo adael am Singapore."

Dywedodd ei bod yn bwysig i lais y bobl gael ei glywed yn hyn o beth.
"Ryda ni'n credu fod gan y bobl y pŵer a'r llais i ddylanwadu ar y gwleidyddion sydd, wedi'r cwbl, i fod i wrando ar y cyhoedd ac yn y pen draw maen nhw wedyn yn medru dylanwadu ar wledydd eraill ac ar lywodraethau eraill ac ar sefydliadau fel yr IMF a Banc y Byd oherwydd mai ni [drwy ein] Llywodraeth sydd yn ariannu y cyrff hynny," meddai.

Tlodion yn bwysig
Yr oedd Esgob Bangor, Anthony Crockett, ymhlith y rhai a fu'n 'dal i guro' ym Mangor er mwyn, meddai, "rhoi hwb i'r Llywodraeth i wneud yn siŵr fod y tlodion yn elwa o'r addewidion maen nhw wedi wneud yn barod."

Wrth ymateb i'r cwestiwn pam y dylai Cristnogion yn arbennig fod a rhan yn hyn dywedodd:
"Os yr ydych yn gyfarwydd â neges yr Arglwydd Iesu mae'r tlodion yn bwysig iawn wrth gwrs a'n hagwedd ni tuag atyn nhw. Mae'n rhan o'n ffydd ac allwn ni ddim osgoi hynny."

Canmolodd ef yr hyn sydd wedi digwydd ers Gleneagles: "Pan oeddwn i yn Uganda ddechrau'r flwyddyn yma fe gefais i'r argraff fod y sefyllfa yn gwella i raddau. Mae plant yn Uganda, er enghraifft, yn cael addysg gynradd o achos yr holl ymgyrch yma i roi terfyn ar dlodi. Felly mae e yn gweithio ond dydi o ddim yn gweithio ddigon cyflym."

Llawer i'w wneud
Yr un oedd neges Mari Griffiths, Swyddog Polisi gyda mudiad Tear Fund:
"Ryda ni wedi gweld cynnydd y flwyddyn yma ond mae lot mwy i'w wneud," meddai gan ychwanegu fod dileu dyledion 19 gwlad oherwydd ymgyrchu a phenderfyniadau y llynedd yn "elfen bositif".

. "Ac y mae hwnna yn wych," meddai gan ychwanegu i Zambia, o'r herwydd, fedru cyflogi 4,500 o athrawon newydd a chreu cyfleusterau iechyd am ddim.

"Felly mae hwnna yn rhywbeth da ond mae yna lot mwy i'w wneud," pwysleisiodd.

"Hefyd rydym ni wedi gweld mwy o wledydd yn rhoi cymorth i wledydd tlawd ac mae hwnna yn beth gwych. Ond, os yr ydym yn edrych yn fanwl ar y ffigurau mae lot o'r rhyddhad o ddyledion yn cael ei gyfrif fel cymorth felly dydi o ddim mor dda ag y byddem ni wedi hoffi. Mae yna ffordd bell i fynd nes cyrraedd y targedi a osodwyd erbyn 2010.

"Ond ar fasnach fe wnaetho nhw addo trio defnyddio cyfarfod WTL yn Hong Kong fis Rhagfyr i helpu gwledydd tlawd ond yn bendant maen nhw wedi methu'n ofnadwy yn hyn ac ers Hong Kong dydyn nhw ddim wedi gwneud dim ac mae hynny yn sefyllfa ofnadwy ac mae lot o bwysau ar wledydd tlawd."

Prisiau yn y siopau
Wrth gyfeirio at brisiau nwyddau mewn siopau dywedodd nad y pris yn unig sy'n bwysig er bod pobl eisiau pethau cyn rhated a phosib.

"Mae yna lot mwy o bobl yn prynu pethau masnach deg yn awr achos maen nhw eisiau gwneud yn siŵr fod y bobl sydd wedi creu neu dyfu y pethau yma yn y lle cyntaf yn cael dêl deg felly mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o beth sy'n achosi tlodi a'r rhan yr ydym ni fel unigolion a'r gwledydd yr ydym yn byw ynddyn nhw yn chwarae yn hynny ac mae pobl eisiau gwneud rhywbeth am hynny."

Wrth ystyried cyfraniad gwahanol wledydd yr G8 talodd deyrnged i'r arweiniad a roddwyd gan Lywodraeth gwledydd Prydain ar ddyled.

"Mae wedi arwain y ffordd ar ddyled. Mae rhai gwledydd wedi mynd yn bellach ar rai pethau yn fwy na'i gilydd ond mae'n bwysig i beidio a'u chwarae yn erbyn ei gilydd ond rhoi pwysau arnyn nhw i gyd i gario mlaen . . .ac adeiladu ar y momentwm sydd wedi cael ei greu i wneud yn siŵr nad ydym yn stopio nes cyrraedd y nod," meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy