Ofnai fod diwinyddiaeth yn dioddef yn y colegau oherwydd pwyslais ar baratoadau ymarferol a hefyd y pwyslais a roddir ar grefyddau eraill..
Elfed ap Nefydd Roberts yn cael ei holi ar Bwrw Golwg, fore Sul, 20 Ebrill 2008.
Yn bwysig, bwysig
"I mi mae diwinyddiaeth wedi bod yn rhywbeth sy'n rhan bwysig, bwysig, o fy nealltwriaeth i o'r weinidogaeth . . . oherwydd dwi'n credu bod yn rhaid wrth amgyffrediad diwinyddol o beth mae rhywun yn ei wneud," meddai Mr Roberts.
Yr oedd yn siarad yn dilyn cyhoeddiad gan Brifysgol Bangor y ymhlith y rhai a fydd yn cael eu derbyn yn Gymrodryr er Anrhydedd o'r Brifysgol.
Yn brifathro y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth nes iddo ymddeol ddeng mlynedd yn ôl dywedodd Mr Roberts sy'n awr yn weinidog yn ardal Wrecsam:
"Mae'n fy mhoeni i ein bod ni yn tueddu i gynllunio bywyd a gwaith yr eglwys a chynllunio ynglŷn â'r weinidogaeth gan ystyried yr agweddau ymarferol yn unig."
Ond yn y diwedd meddai, "Pwnc diwinyddol ydi'r cwestiwn o beth ydi eglwys a beth ydi'r weinidogaeth a beth ydi cenhadaeth yr Eglwys a dwi'n meddwl fod diwinyddiaeth yn bwysig iawn nid yn unig fel pwnc academaidd ond fel ffordd o ddeall a dehongli gwaith Eglwys Iesu Grist yn y byd," meddai.
"Ac wrth gwrs gymryd i ystyriaeth y ffordd y mae Cristnogion dros y blynyddoedd wedi dehongli'r ffydd ac wedi mynd i'r afael â'r holl gwestiwn o sut mae bod yn bobl Dduw a bod yn eglwys," meddai.
O ddiddordeb i bawb
Ychwanegodd fod hwn yn bwnc y mae diddordeb eang ynddo ac iddo gael ei synnu yn ystod ei gyfnod yn Brifathro y Coleg Diwinyddol fod cymaint o bobl ifainc yn awyddus i astudio diwinyddiaeth.
"Nid o reidrwydd oherwydd mynd i'r weinidogaeth . . . ond oherwydd diddordeb pobl ifainc yn y pwnc ac yn y cwestiynau mawr oedd yn cael eu trin a'u trafod gan ddiwinyddiaeth," meddai.
"Dwi'n meddwl fod y peth yn dal yn wir - mae crefydd yn cael llawer iawn mwy o amlygrwydd erbyn heddiw ac mae yna o hyd bobl sydd eisiau gwybod beth sydd gan y bobl grefyddol yma i'w ddweud am fywyd a'i ystyr a'i dynged - beth bynnag ydi eu crefydd nhw boed yn Gristionogion neu Foslemaid neu'n Fwdeaid neu'n Iddewon," meddai.
"Mae yna gymaint erbyn heddiw sy'n mynd i feddwl mai crefydd sy'n gyfrifol am yr holl helyntion sydd yn y byd a bod crefydd yn rhywbeth enbyd o beryglus.
"Ac mae pobl fel Richard Dawkins a Christopher Hitchens sydd wedi ymosod ar grefydd - dyma yw eu dadl nhw, fod crefydd yn beryglus. Fel mae Hitchens yn dweud, 'Religion poisons everything'.
"Wel dyna ichi un eithaf ond wrth gwrs mae yna eithaf arall lle mae pobl yn sylweddoli, beth bynnag maen nhw'n gredu neu ddim yn gredu, fod yna rywbeth pwerus iawn fan hyn y mae pobl yn barod i roi eu bywydau drosto fo ac mae pobl yn ei gymryd yn gwbl o ddifrif yn eu hymateb i fywyd," meddai.
O un eithaf i'r llall
Ychwanegodd i natur diwinyddiaeth newid dros y blynyddoedd fel pwnc mewn coleg.
"Ewch yn ôl ddeugain mlynedd ac yr oedd diwinyddiaeth yn bwnc academaidd pur a'r gŵyn oedd nad oedd digon o gynnwys ymarferol mewn cyrsiau hyfforddi ond dwi'n pryderu fod y pendil wedi symud i'r eithaf arall a bod y pwyslais bron yn gyfan gwbl ar ryw gyrsiau byr ymarferol heb fod yn mynd law yn llaw a'r ochr haniaethol, ysbrydol, academaidd i'r pwnc," rhybuddiodd.
"Newid arall ydi fod y peth bellach yn astudiaeth o grefyddau nid o Gristionogaeth a beth sy'n fy mhoeni i yw eich bod chi weithiau yn cael rhyw gymysgfa o dipyn bach o hyn a thipyn bach o'r llall a thipyn bach o rywbeth arall ac o ganlyniad ddim yn mynd i mewn i'r pwnc mewn unrhyw ddyfnder.
"A dyna pam rydw i'n dal i gredu fod yna le i ambell i adran a choleg diwinyddol sydd yn dysgu diwinyddiaeth Gristnogol bur.
"Dydi hynny ddim yn golygu nad ydi crefyddau eraill ddim yn bwysig ond mae hi yn bwysig hefyd fod yna gyfle yn cael ei roi bobl astudio Cristnogaeth mewn dyfnder," meddai.