BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Gee Walker - parod i faddau Canmol rhestr pobl dda
Canmolwyd papur newydd am gyhoeddi rhestr o hanner cant o bobl dda.
Canmolwyd The Independent am gyhoeddi rhestr o hanner cant o bobl o ddylanwad da.

Cyhoeddwyd y rhestr gan y papur ar Fedi 1, 2006, er mwyn dadwneud rhywfaint ar y diwylliant seleb cyfoes.

Cynhwyswyd yn The Good List bobl fel Bob Geldof, Bruce Kent, Peter Tatchell, Benjamin Zephaniah , John Bell o Gymuned Iona, Lionel Blue, Richard Harries Esgob Rhydychen, Syr David Attenborough a Gee Walker, y wraig a faddeuodd i'r rhai a lofruddiodd ei mab yn Lerpwl.

Croesawyd cyhoeddi'r rhestr gan y Parchedig Pryderi Llwyd Jones o Aberystwyth ar Bwrw Golwg Medi 3, 2006.

Pwyslais Cristnogol
"Tra bod y rhestr yn adlewyrchu diddordeb mawr y papur mewn materion amgylcheddol, hawliau dynol ac yn arbennig tlodi - mae o'n gweld tlodi fel y broblem foesol fwyaf yn y byd - beth sydd yn ddiddorol i mi yw bod yna bobl nad oeddwn i'n gwybod dim amdanyn nhw ar y rhestr," meddai Pryderi Llwyd Jones.

Canmolodd yn arbennig gynnwys pobl gydag argyhoeddiadau Cristnogol: "Er bod yr Independent yn bapur gweddol seciwlar yn yr ystyr arferol mae'n syndod gymaint o bobl sydd yma o bersbectif Cristnogol. Pobl sy'n broffwydol eu pwyslais, pobl sydd wedi gwneud rhywbeth, pobl sydd wedi gweithredu ac mae yna enwau fan hyn - o leiaf 15 i 18 ohonyn nhw - wedi cael eu cynnwys oherwydd eu pwyslais Cristnogol," meddai.

Crybwyllodd yn arbennig, Bob Holman, Athro Prifysgol a roddodd y cyfan i fyny er mwyn gweithio gyda'r difreintiedig mewn ardaloedd tlawd yn Lloegr.

"Sosialydd Cristnogol o'r iawn ryw ac nid y math o beth ydym ni'n gael yn ddiweddar gan y Llywodraeth," meddai..

Rhai annisgwyl
Ychwanegodd fod rhai enwau annisgwyl ar y rhestr:
"Mae yma rai na fuasech chi'n disgwyl eu cael . Mae yma fachgen 16 oed o Rydychen a welodd y brotest fawr yna yn Rhydychen yn erbyn arbrofi efo anifeiliaid ac fe wnaeth o ymgyrch un dyn yn dweud bod yn rhaid arbrofi. Nawr mae hynna yn groes i'r lli.

"Yr un fath John Harries sydd wedi bod yn groes i'r pwyslais cyffredinol yn erbyn clonio."

Er nad oes neb ar y rhestr yn cynrychiolir yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'yr adain dde' grefyddol na neb sy'n "grefyddol draddodiadol" dywedodd Mr Jones ei bod yn dda cael ar y rhestr "y pwyslais arall a gweld amrywiaeth tystiolaeth y ffydd ".

"Mae hwnna yn rhywbeth i'w groesawu,." Meddai.

Gwerth gwneud
Ychwanegodd fod llunio rhestr o'r fath yn rhywbeth gwerth i'w wneud.
"Fel maen nhw'n dweud mae yna gymaint o bwyslais yn ein byd ar enwogrwydd ac ar gyfoeth mae'n braf cael rhywbeth [fel hyn]," meddai.

  • Pwy fyddech chi'n ddewis i'w cynnwys ar restr o bobl dda heddiw? Cliciwch yma i anfon ebost.

  • Cliciwch Yma i ddarllen mwy am y rhestr (Gwefan Saesneg gan y BBC)




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy