BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Hywel Williams Gwrthod awgrym Blair
Plant anystywallt - ei hadnabod yn y groth!
Ni fu dim croeso i awgrymiadau gan Tony Blair y gellir adnabod cyn eu geni blant sy'n debyg o dyfu'i fyny i fod yn bobl ifainc anystywallt ac anodd eu trin.

"Syndod i bawb oedd clywed fod Tony Blair yn datgan fod posib adnabod cyn eu geni y plant yma sy'n boen ar gymdeithas ac yn anodd eu trin a bod angen gorfodi rhai teuluoedd a mamau ifainc i dderbyn cymorth sut i fagu plant," meddai John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, Medi 3, 2006.

Yn y stiwdio i ymateb i sylwadau Mr Blair yr oedd Hywel Williams, AS Caernarfon sydd hefyd wedi bod yn ymgynghorydd ar wasanaethau cymdeithasol, a Sharon Rees, un o weithwyr cymuned Eglwys Penrhys, y Rhondda.

"Efallai fy mod i'n sinig ond mae rhywun yn gweld rhyw fath o dric gwleidyddol fan hyn pan mae o [Mr Blair] mewn rhyw drybini fel ag y mae o [yn awr] wrth gwrs," meddai Hywel Williams.

Hen hanes
"Mae yna hen hanes i'r math yma o beth a bydd rhai o'r gwrandawyr yn cofio Syr Keith Joseph, ugain mlynedd yn ôl, yn dweud rhywbeth tebyg ac efallai mai rhywbeth gwleidyddol ydi o," ychwanegodd.

Dywedodd ei fod yn cydnabod fod problem yn bodoli ond ei fod yn poeni mai dyma'r ateb sy'n cael ei gynnig gan Mr Blair.

"Mae yna bobl sydd angen cymorth; mae yna bobl sydd angen cymorth ymarferol ac hefyd cwnsela ac yn y blaen ond hyd y gwelaf i nid y ffordd yma ydi'r ffordd i fynd o'i chwmpas hi a fedrai ddim gweld sut yn union mae Mr Blair yn meddwl mae o'n mynd i wneud y ffasiwn gamp," meddai.

" Mae yna broblemau go iawn ac mae angen gweithredu go iawn ar gownt y mater - ond rydw i yn poeni fod rhywun fel Mr Blair yn cymryd mantais o sefyllfa fel hyn ac o bobl sy'n freiniaid mewn llawer iawn o ffyrdd," ychwanegodd. Labelu pobl
Dywedodd Sharon Rees nad oedd hithau ychwaith yn hapus gyda sylwadau Mr Blair:
"Dydw i ddim yn hapus yn y ffordd y mae pobl yn cael eu labelu ac yn cael eu beirniadu a'u dodi i lawr heb gael cyfle.

"Mae'r gwaith ydym ni yn ei wneud fan hyn - rydym yn ceisio codi hunan hyder a hunan werth pobl fel eu bod nhw yn teimlo eu bod nhw yn gallu gwneud pethe . Rydym ni'n gwrando ar bobl yn hytrach na'u dodi nhw i lawr o hyd," meddai.

Galwodd Hywel Williams am parch tuag at pobl eraill.

"Ond y peth cyntaf sydd raid ei wneud er mwyn sicrhau fod pobl yn parchu pobl eraill ydi eu parchu nhw yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni barchu pobl ifainc a'u cymryd nhw lawer iawn mwy o ddifrif a pheidio a'u labelu nhw ac wedyn efallai y gallwn ni gerdded ymlaen tuag at gael cymdeithas sy'n agosach at y gwerthoedd gwâr ydym ni gyd yn eu rhannu," meddai.

Sgiliau rhieni
Ynglŷn a meithrin sgiliau rhieni dywedodd Sharon: "Mae prosiect gyda ni, Ar Drywydd, yn gweithio yn y Rhondda Fach gyda theuluoedd ifainc ac mae dosbarthiadau hyfforddi rhieni gyda ni ac yn gweithio'n dda iawn.

"[Rydym ni'n] sôn gyda rhieni am broblemau cysgu gyda phlant , bwydo'n iach a phethau felly . Pob math o bethau ac y mae hynny yn help, rwy'n siŵr i fod e."

Dywedodd Hywel Williams fod lle i'r eglwysi yn ogystal a'r sector gyhoeddus gyfrannu yn hyn o beth.

"Rhaid inni edrych ar ymddygiad pobl ifainc yn ei gyd-destun yn y gymuned.

"Ryda ni'n gwybod yn iawn am yr enw drwg a gafodd rhai rhannau o'r Rhondda flynyddoedd yn ôl cyn i'r gwaith yma ddechrau ac yr oedd hynny yn achosi cymaint o broblem - rhoi enw drwg i'r lle heb roi yr adnoddau angenrheidiol i mewn," meddai.

Panig moesol
Ond rhybuddiodd: "Mae yma beryg o beth sy'n cael ei alw yn banig moesol - eich bod chi yn codi bwgan ac wedyn fel gwleidydd yn cynnig rhyw ateb braidd yn hawdd i'r mater . Dwi'n poeni am y bobl sydd efo problemau go iawn . . . ac wedyn mae yna rywun fel hyn [Mr Blair] yn dŵad ac yn cynnig ateb hawdd sydd yn cael y penawdau yn y papurau bach ond ddim yn gwneud llawer o ddim byd arall."




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy